Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 3

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021, Adran 3. Help about Changes to Legislation

3Diddymu’r Senedd gyfredolLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)At ddiben cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021, diddymir Senedd Cymru ar 29 Ebrill 2021, oni bai—

(a)bod y Llywydd yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6 (pŵer i ohirio etholiad 2021 am hyd at 6 mis), neu

(b)bod Ei Mawrhydi yn diddymu Senedd Cymru cyn y diwrnod hwnnw drwy broclamasiwn o dan adran 4(2) o Ddeddf 2006 (pŵer i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol y Senedd).

(2)Os yw’r Llywydd yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6, diddymir Senedd Cymru ar ddechrau’r cyfnod o 7 niwrnod sy’n dod i ben yn union cyn y diwrnod a bennir ar gyfer cynnal y pôl, oni bai bod is-adran (3) yn gymwys.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r Llywydd, cyn y diwrnod y bwriedir diddymu Senedd Cymru yn unol ag is-adran (2), yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6 eto (ac, yn unol â hynny, mae is-adran (2) yn gymwys i’r arfer hwnnw o’r pŵer yn ei dro).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 mewn grym ar 17.3.2021, gweler a. 18

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth