6Pŵer i ohirio etholiad 2021 am hyd at 6 misLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Caiff Prif Weinidog Cymru (“y Prif Weinidog”) gynnig i’r Llywydd fod y pôl ar gyfer etholiad 2021 yn cael ei ohirio os yw’r Prif Weinidog, am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws, yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol gwneud hynny.
(2)Ond cyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r Prif Weinidog ymgynghori â’r aelod o staff yn Llywodraeth Cymru sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru yn Brif Swyddog Meddygol Cymru.
(3)Yn dilyn cynnig gan y Prif Weinidog, caiff y Llywydd bennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021—
(a)os yw Senedd Cymru yn cymeradwyo’r diwrnod sydd i’w bennu drwy benderfyniad sy’n cael ei basio drwy bleidlais nad yw nifer Aelodau’r Senedd sy’n pleidleisio o’i blaid yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm nifer seddi’r Senedd, a
(b)os nad yw Senedd Cymru wedi ei diddymu.
(4)Wrth bennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl—
(a)rhaid i’r Llywydd bennu diwrnod sef y diwrnod cynharaf y mae’r Llywydd yn ystyried ei fod yn rhesymol ymarferol;
(b)ni chaiff y Llywydd bennu diwrnod sydd ar ôl 5 Tachwedd 2021.
(5)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl pennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl, rhaid i’r Llywydd osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad—
(a)o’r diwrnod a bennwyd ar gyfer cynnal y pôl, a
(b)o’r rheswm dros arfer y pŵer i bennu diwrnod.
(6)Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ddarparu cyngor mewn perthynas â gohirio pôl os yw’r Llywydd neu’r Prif Weinidog yn gofyn iddo wneud hynny.
(7)Caniateir i’r pwerau yn is-adrannau (1) a (3) gael eu harfer fwy nag unwaith.
(8)Rhaid i’r Prif Weinidog osod datganiad gerbron Senedd Cymru ar neu cyn 24 Mawrth 2021 sy’n nodi pa un a yw’r Prif Weinidog yn bwriadu arfer y pŵer yn is-adran (1) ai peidio.
(9)Os nad yw’r Prif Weinidog yn bwriadu arfer y pŵer, rhaid i’r datganiad nodi—
(a)y rhesymau dros beidio ag arfer y pŵer, a
(b)a ellir cynnal ymgyrch etholiadol lawn a theg, ym marn y Prif Weinidog, gan bob person sy’n ceisio cael ei ethol yn etholiad 2021 nad yw’n rhoi unrhyw berson sy’n gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwnnw o dan anfantais.
(10)Nid yw unrhyw fwriad a fynegir yn y datganiad o dan is-adran (8) yn effeithio ar arfer y pŵer yn is-adran (1).
(11)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n cyfyngu ar y pŵer yn adran 4 o Ddeddf 2006 i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd.
(12)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r meini prawf sydd i’w defnyddio gan y Prif Weinidog ar gyfer penderfynu a yw’n angenrheidiol neu’n briodol gohirio’r pôl ar gyfer etholiad 2021 am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws o dan is-adran (1).
(13)Rhaid i’r meini prawf gael eu cyhoeddi cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.