Adran 1 – Hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir
17.Nodir y cyfnod hysbysu sy’n gymwys i hysbysiad adran 173 yn adran 174 o Ddeddf 2016. Mae adran 1 o’r Ddeddf yn darparu bod y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir ar gyfer hysbysiad adran 173 i’w gynyddu o ddau fis i chwe mis.
18.Mae adran 1 hefyd yn mewnosod adran 174A newydd yn Neddf 2016. Mae’n darparu, ar gyfer contractau safonol cyfnodol penodol, fod y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir ar gyfer hysbysiad adran 173 yn parhau i fod yn 2 fis. Rhestrir y contractau hyn yn yr Atodlen 8A newydd i Ddeddf 2016 (sy’n cael ei mewnosod gan Atodlen 1 i’r Ddeddf).