xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 14)

ATODLEN 5LL+CDIWYGIADAU AMRYWIOL I DDEDDF 2016

RhagarweiniolLL+C

1Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

Addasu ac amrywio darpariaethau sylfaenolLL+C

2(1)Yn adran 20 (ymgorffori ac addasu darpariaethau sylfaenol)—

(a)yn is-adran (1), ym mharagraff (b), hepgorer “, ym marn deiliad y contract,”;

(b)yn is-adran (2), ym mharagraff (b), hepgorer “, ym marn deiliad y contract,”.

(2)Yn adran 108 (cyfyngiad ar amrywio: contractau diogel), yn is-adran (3), ym mharagraff (a)(ii) hepgorer “ym marn deiliad y contract”.

(3)Yn adran 127 (cyfyngiad ar amrywio: contractau safonol cyfnodol), yn is-adran (3), ym mharagraff (a)(ii) hepgorer “ym marn deiliad y contract”.

(4)Yn adran 135 (cyfyngiad ar amrywio: contractau safonol cyfnod penodol), yn is-adran (3), ym mharagraff (a)(ii) hepgorer “ym marn deiliad y contract”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

Newidiadau golygyddol i ddatganiad ysgrifenedigLL+C

3Yn adran 33 (newidiadau golygyddol i ddatganiad ysgrifenedig), yn is-adran (2) hepgorer y geiriau o “; er enghraifft” hyd at y diwedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

Diwygio cyfeiriadau at “y dyddiad perthnasol” yn adrannau 110, 129 a 137LL+C

4Yn is-adran (7) o’r adrannau a ganlyn—

(a)adran 110 (contractau diogel: methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.),

(b)adran 129 (contractau safonol cyfnodol: methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.), ac

(c)adran 137 (contractau safonol cyfnod penodol: methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.),

yn lle’r geiriau o “cyfeiriadau” hyd at y diwedd rhodder “, yn is-adran (3) o’r adrannau hynny, y geiriau “dechrau â’r diwrnod yr amrywiwyd y contract” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “dechrau” hyd at y diwedd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

Tenantiaethau diogel sy’n denantiaethau cymdeithas dai i allu dod yn gontractau meddiannaeth LL+C

5(1)Yn adran 242 (dehongli Pennod 3 o Ran 10), yn y diffiniad o “tenantiaeth ddiogel”, hepgorer y geiriau o “, ond nid yw’n cynnwys tenantiaeth cymdeithas dai” hyd at y diwedd.

(2)Yn Atodlen 2 (eithriadau i adran 7), ym mharagraff 7 (tenantiaethau a thrwyddedau nad ydynt byth yn gontractau meddiannaeth), hepgorer is-baragraff (3)(d).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

Pŵer i wneud darpariaeth sy’n ymwneud â diddymu tenantiaethau sicr, tenantiaethau diogel a thenantiaethau eraill LL+C

6(1)Ar ôl adran 239 (diddymu tenantiaethau sicr, tenantiaethau diogel a thenantiaethau eraill) mewnosoder—

239APŵer i wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau penodol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon at ddiben—

(a)darparu nad yw darpariaethau penodol yn gymwys mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded y mae is-adran (2) yn gymwys iddi;

(b)gwneud darpariaeth newydd nad yw ond yn gymwys i denantiaeth neu drwydded y mae is-adran (2) yn gymwys iddi;

(c)gwneud darpariaeth mewn perthynas â diwedd cyfnod tenantiaeth hir (o fewn ystyr paragraff 8 o Atodlen 2).

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw denantiaeth neu drwydded a fyddai, oni bai am adran 239, wedi bod yn denantiaeth neu’n drwydded o’r math a restrir yn is-adran (1) o’r adran honno, neu a fyddai wedi ei thrin fel tenantiaeth neu drwydded o’r math hwnnw;

(3)Caiff Rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau neu drwyddedau nad ydynt yn gontractau meddiannaeth, ac nad ydynt yn gallu bod yn gontract o’r fath.

(2)Yn adran 256 (rheoliadau), yn is-adran (4), ar ôl paragraff (g) mewnosoder—

(ga)adran 239A (pŵer i wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau penodol),.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

Anheddau sydd ar y ffin rhwng Cymru a LloegrLL+C

7Yn adran 246 (ystyr “annedd”), yn is-adran (1) yn lle “sy’n gyfan gwbl” rhodder “sydd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

Pŵer i ddiwygio deddfwriaeth a ddeddfir neu a wneir ar ôl i Ddeddf 2016 gael y Cydsyniad BrenhinolLL+C

8Yn adran 255 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.), yn is-adran (2) hepgorer y geiriau o “a ddeddfwyd neu a wnaed” hyd at y diwedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

Dileu cyfeiriadau at lety ar gyfer personau sydd wedi eu dadleoliLL+C

9(1)Yn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a wneir gyda neu a fabwysiedir gan landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol), hepgorer paragraff 5.

(2)Yn Atodlen 9 (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175, 186(2) a 196 yn gymwys iddynt), hepgorer paragraff 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

Diwygiad i Atodlen 3: llety myfyrwyrLL+C

10Yn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a wneir gyda neu a fabwysiedir gan landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol), ym mharagraff 10(1), ar ôl “addysgol” mewnosoder “yn unig”.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 5 para. 10 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

Mân ddiwygiadau i’r testun CymraegLL+C

11(1)Yn adran 61 (methiant i gydymffurfio ag amodau a osodir gan y prif landlord), yn y testun Cymraeg, yn is-adran (5), yn lle “wedi ei wneud yn” rhodder “wedi ei wneud mewn modd nad yw’n”.

(2)Yn adran 163 (hysbysiad deiliad y contract), yn y testun Cymraeg, yn is-adran (2), yn lle “meddiannaeth” rhodder “diogel”.

(3)Yn adran 165 (adennill meddiant), yn y testun Cymraeg, yn is-adran (3), yn lle “meddiannaeth” rhodder “diogel”.

(4)Yn adran 236 (ffurf hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill), yn y testun Cymraeg, yn is-adran (5), yn lle “wedi ei ddilysu” rhodder “ardystiedig”.

(5)Yn Atodlen 11 (llety arall addas), yn y testun Cymraeg, ym mharagraff 3, yn is-baragraff (2)(a), yn lle “diogelwch meddiant iddo” rhodder “sicrwydd iddo o ran meddiannaeth”.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 5 para. 11 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)