- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
(a gyflwynir gan adrannau 24(3), 29(3)(b) a 30(6)(b))
1Mae’r Rhan hon yn gymwys at ddibenion adran 24(3) (darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(e), Atod.
I3Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(e)
2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—
(a)ysgol gymunedol;
(b)ysgol sefydledig neu wirfoddol heb gymeriad crefyddol.
(2)Rhaid bod y ddarpariaeth wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I5Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(e), Atod.
I6Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(e)
3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ysgol sefydledig, neu ysgol wirfoddol a reolir, sydd â chymeriad crefyddol.
(2)Rhaid bod y ddarpariaeth wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig.
(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys yn yr achosion hynny pan na fo’r ddarpariaeth honno yn cyd-fynd—
(a)ag unrhyw ddarpariaethau yng ngweithred ymddiriedolaeth yr ysgol sy’n ymwneud ag addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, neu
(b)os nad oes unrhyw ddarpariaethau o’r fath, â daliadau’r grefydd neu’r enwad crefyddol a bennir mewn perthynas â’r ysgol mewn gorchymyn o dan adran 68A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).
(4)Yn yr achosion hynny, rhaid i’r cwricwlwm hefyd wneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg sydd yn cyd-fynd â’r darpariaethau hynny neu (yn ôl y digwydd) y daliadau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I8Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(e), Atod.
I9Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(e)
4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ysgol wirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol.
(2)Rhaid i’r ddarpariaeth gyd-fynd—
(a)ag unrhyw ddarpariaethau yng ngweithred ymddiriedolaeth yr ysgol sy’n ymwneud ag addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, neu
(b)os nad oes unrhyw ddarpariaethau o’r fath, â daliadau’r grefydd neu’r enwad crefyddol a bennir mewn perthynas â’r ysgol mewn gorchymyn o dan adran 68A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).
(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys yn yr achosion hynny pan na fo’r ddarpariaeth sy’n ofynnol o dan is-baragraff (2) yn ddarpariaeth sy’n cyd-fynd â’r maes llafur cytunedig.
(4)Yn yr achosion hynny, rhaid i’r cwricwlwm hefyd wneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg y mae rhaid ei bod wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I11Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(e), Atod.
I12Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(e)
5Mae’r Rhan hon yn gymwys i’r addysgu a dysgu y mae rhaid ei sicrhau o dan adrannau 29(3)(b) a 30(6)(b) mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I14Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(e), Atod.
I15Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(e)
6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—
(a)ysgol gymunedol;
(b)ysgol sefydledig neu wirfoddol heb gymeriad crefyddol.
(2)Rhaid i’r addysgu a dysgu fod yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 2(2) (darpariaeth sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig).
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I17Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(e), Atod.
I18Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(e)
7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ysgol sefydledig, neu ysgol wirfoddol a reolir, sydd â chymeriad crefyddol.
(2)Rhaid i’r addysgu a dysgu fod yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 3(2) (darpariaeth sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig), ac eithrio yn achos disgybl y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo.
(3)Yn achos disgybl y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, rhaid i’r addysgu a dysgu fod yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 3(3) (darpariaeth sy’n cyd-fynd â’r weithred ymddiriedolaeth etc).
(4)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i ddisgybl os yw rhiant i’r disgybl yn gofyn bod yr addysgu a dysgu yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 3(3) (darpariaeth sy’n cyd-fynd â’r weithred ymddiriedolaeth etc).
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I20Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(e), Atod.
I21Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(e)
8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ysgol wirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol.
(2)Rhaid i’r addysgu a dysgu fod yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 4(2) (darpariaeth sy’n cyd-fynd â’r weithred ymddiriedolaeth etc), ac eithrio yn achos disgybl y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo.
(3)Yn achos disgybl y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, rhaid i’r addysgu a dysgu fod yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm yn unol â pharagraff 4(3) (darpariaeth sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig).
(4)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i ddisgybl os yw rhiant i’r disgybl yn gofyn bod yr addysgu a dysgu yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm yn unol â pharagraff 4(3) (darpariaeth sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig).
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I23Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(e), Atod.
I24Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(e)
9(1)Am ystyr “agreed syllabus” (“maes llafur cytunedig”), gweler adran 375A(7) o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).LL+C
(2)At ddibenion yr Atodlen hon, mae i ysgol gymeriad crefyddol os y’i dynodir gan orchymyn sy’n cael ei wneud (neu sy’n cael ei drin fel pe bai’n cael ei wneud) o dan adran 68A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) (ac mae cyfeiriadau at ysgol heb gymeriad crefyddol i’w dehongli yn unol â hynny).
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I26Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(e), Atod.
I27Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(e)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys