14Adolygu a diwygio cwricwlwm a gyhoeddir gan Weinidogion CymruLL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cadwʼr cwricwlwm adran 13 o dan adolygiad, a
(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio ag adrannau 20 i 24F1....
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygioʼr cwricwlwm adran 13 os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).
(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygioʼr cwricwlwm adran 13 hefyd os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.
(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn diwygioʼr cwricwlwm adran 13, rhaid iddynt gyhoeddiʼr cwricwlwm diwygiedig.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 14(1)(b) wedi eu hepgor (1.9.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022 (O.S. 2022/744), rhl. 1(2), Atod. 1 para. 1(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2A. 14 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.
I3A. 14 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)
I4A. 14 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)