xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 3LL+CGWEITHREDU CWRICWLWM

CyffredinolLL+C

26Cyflwyniad a dehongliLL+C

(1)Maeʼr Bennod hon yn gwneud darpariaeth ynghylch gweithredu cwricwlwm i unrhyw un o’r canlynol—

(a)disgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)disgyblion cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir;

(c)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

(2)Mae Pennod 4 yn nodi eithriadau iʼr dyletswyddau gweithredu cwricwlwm yn y Bennod hon.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon ac ym Mhennod 4 at ysgol yn gyfeiriadau—

(a)at ysgol a gynhelir, neu

(b)at ysgol feithrin a gynhelir.

(4)Yn y Bennod hon ac ym Mhennod 4—

(a)mae cyfeiriadau at ddisgyblion, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)mae cyfeiriadau at blant, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer;

(c)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 gan bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol (ac os diwygir y cwricwlwm hwnnw o dan adran 12, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir);

(d)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 15 gan ddarparwr yr addysg (ac os diwygir y cwricwlwm hwnnw o dan adran 16, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 26 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.

I3A. 26 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(b)