Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

44Darparu gwybodaeth am eithriadau dros droLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i bennaeth syʼn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42 roiʼr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adrannau (3) a (4), yn ysgrifenedig, i—

(a)y disgybl y maeʼr penderfyniad yn ymwneud ag ef,

(b)rhiant y disgybl,

(c)corff llywodraethuʼr ysgol, a

(d)yr awdurdod lleol syʼn cynnal yr ysgol.

(2)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir syʼn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42 roiʼr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adrannau (3) a (4), yn ysgrifenedig, i—

(a)rhiant y plentyn y maeʼr penderfyniad yn ymwneud ag ef, a

(b)yr awdurdod lleol syʼn sicrhau’r addysg.

(3)Yr wybodaeth yw—

(a)y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud, ei amrywio neu ei ddirymu;

(b)effaith y penderfyniad, yr amrywiad neuʼr dirymiad;

(c)y rhesymau dros wneud, amrywio neu ddirymuʼr penderfyniad;

(d)gwybodaeth am—

(i)yr hawl i wneud apêl o dan adran 45 (yn achos penderfyniad syʼn ymwneud â disgybl);

(ii)yr hawl i wneud apêl o dan adran 46 (yn achos penderfyniad syʼn ymwneud ag unrhyw blentyn arall).

(4)Pan fo penderfyniad wedi ei wneud neu ei amrywio, rhaid iʼr wybodaeth hefyd gynnwys—

(a)disgrifiad oʼr ddarpariaeth a wneir ar gyfer addysg y disgybl neuʼr plentyn yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad;

(b)disgrifiad oʼr ffordd y maeʼr pennaeth neuʼr darparwr yn bwriadu sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu iʼr disgybl neuʼr plentyn ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(5)Nid ywʼr ddyletswydd yn is-adran (1)(a) yn gymwys os ywʼr pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall—

(a)yr wybodaeth a roddid, neu

(b)yr hyn y maeʼn ei olygu i arfer yr hawl a roddir gan adran 45.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I3A. 44 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)