Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

46Apelau am eithriadau dros dro ar gyfer plant unigolLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Maeʼr adran hon yn gymwys—

(a)pan fo darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir yn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42 mewn perthynas â phlentyn y darperir yr addysg ar ei gyfer, neu

(b)pan fo rhiant plentyn y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar ei gyfer yn gofyn i ddarparwr yr addysg wneud penderfyniad o dan y rheoliadau hynny mewn perthynas âʼr plentyn, ond pan na fo penderfyniad wedi ei wneud.

(2)Caiff rhiant y plentyn apelio iʼr awdurdod lleol sydd wedi sicrhau’r addysg.

(3)Os gwneir apêl o dan yr adran hon, caiff yr awdurdod lleol—

(a)cyfarwyddoʼr darparwr, yn ysgrifenedig, i gymryd y camau gweithredu y maeʼr awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol mewn cysylltiad â’r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu’r cais y cyfeirir ato yn is-adran (1)(b), neu

(b)hysbysu’r darparwr, yn ysgrifenedig, na roddir unrhyw gyfarwyddyd o’r fath.

(4)Rhaid iʼr awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad i riant y plentyn.

(5)Rhaid iʼr darparwr gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (3).

(6)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag apelau o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 46 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I3A. 46 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)