Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

48Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer eithriadau pellachLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff rheoliadau—

(a)datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau;

(b)darparu bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys gydaʼr addasiadau a bennir yn y rheoliadau mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau;

(c)datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36 neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau;

(d)darparu bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys gydaʼr addasiadau a bennir yn y rheoliadau mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon roi disgresiwn i berson.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I3A. 48 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)