Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

Yn ddilys o 01/08/2024

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (dccc 3)LL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

33(1)Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 10 (canllawiau i sefydliadau addysg bellach ac uwch)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “Gweinidogion Cymru” rhodder “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Comisiwn”)”;

(b)yn is-adran (2) yn lle “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”)” rhodder “y Comisiwn”;

(c)yn is-adran (3) yn lle “Gweinidogion Cymru a CCAUC” rhodder “y Comisiwn”;

(d)yn is-adran (5) yn lle “i Weinidogion Cymru a CCAUC” rhodder “i’r Comisiwn” ac yn lle “eu barn hwy” rhodder “ei farn ef”;

(e)hepgorer is-adran (8).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)