Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2)
39(1)Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 4 (cod anghenion dysgu ychwanegol), yn is-adran (3), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
“(ca)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;
(cb)Gweinidogion Cymru;”.
(3)Yn adran 5 (y weithdrefn ar gyfer gwneud y cod anghenion dysgu ychwanegol), yn is-adran (1), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“(da)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;”
(4)Yn adran 50 (dyletswyddau Gweinidogion Cymru i sicrhau addysg a hyfforddiant ôl-16), hepgorer is-adrannau (2) i (4).
(5)Yn adran 65 (dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a help arall), yn is-adran (4) ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“(da)y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;
(db)Gweinidogion Cymru;”.