Rhagolygol
114Ystyr “fframwaith prentisiaeth”LL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Mae fframwaith prentisiaeth yn ddogfen sy’n pennu gofynion ar gyfer cwblhau prentisiaethau Cymreig cymeradwy mewn galwedigaeth neu grŵp o alwedigaethau, a all gynnwys (ond nad ydynt yn gyfyngedig i) gofynion sy’n ymwneud—
(a)â safonau cyrhaeddiad;
(b)â chymwysterau;
(c)â’r math o hyfforddiant neu faint o hyfforddiant yr ymgymerir ag ef.
(2)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 114 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)