xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

RHAN 5LL+CDIOGELU DYSGWYR, GWEITHDREFNAU CWYNO AC YMGYSYLLTU Â DYSGWYR

127Gweithdrefnau cwynoLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn gymryd unrhyw gamau y mae’n ymddangos iddo eu bod yn briodol er mwyn sicrhau—

(a)bod gan ddarparwr addysg drydyddol weithdrefn yn ei lle ar gyfer ymchwilio i gwynion am weithred neu anweithred gan y darparwr a wneir gan bersonau sy’n ymgymryd, neu sydd wedi ymgymryd, â chyrsiau perthnasol, a

(b)bod darparwr addysg drydyddol yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i bersonau sy’n ymgymryd â chyrsiau perthnasol am y weithdrefn.

(2)Am ystyr “cwrs perthnasol” a “darparwr addysg drydyddol”, gweler adran 126(10).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)