Yn ddilys o 04/09/2023
5Hybu gwelliant parhaus mewn addysg drydyddolLL+C
(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu gwelliant parhaus yn ansawdd addysg drydyddol Gymreig.
(2)Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid i’r Comisiwn roi sylw (ymhlith pethau eraill)—
(a)i bwysigrwydd sicrhau bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn gallu darparu addysg drydyddol o ansawdd uchel;
(b)i ofynion rhesymol aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol am ddatblygiad proffesiynol parhaus;
(c)i bwysigrwydd barn dysgwyr ynghylch ansawdd yr addysg drydyddol a gânt.
(3)Yn yr adran hon, “aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol” yw—
(a)athrawon personau sy’n cael addysg drydyddol,
(b)personau sy’n darparu cymorth i’r athrawon hynny, ac
(c)personau sy’n darparu cymorth i ddysgwyr i gymryd rhan mewn addysg drydyddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)