Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

15Trosolwg o’r Rhan a dehongliLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)At ddibenion gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) yng Nghymru, mae’r Rhan hon—

(a)yn gosod dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol newydd fel rhan o’r ddyletswydd llesiant yn adran 3(1) o DLlCD 2015;

(b)yn diwygio’r nod llesiant “Cymru lewyrchus” y mae cyrff cyhoeddus i ymgyrraedd ato wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy o dan DLlCD 2015 fel bod sicrhau gwaith teg yn rhan o’r disgrifiad o’r nod.

(2)At ddibenion y Rhan hon, mae i “datblygu cynaliadwy” yr ystyr a roddir gan adran 2 o DLlCD 2015.

(3)Yn y Rhan hon, ystyr “corff cyhoeddus” yw person a restrir fel “corff cyhoeddus” yn adran 6(1) o DLlCD 2015, ond at ddibenion adrannau 16 a 18 nid yw’n cynnwys Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I2A. 15 mewn grym ar 1.4.2024 gan O.S. 2023/794, ergl. 3(a)