Gorfodi
Adran 8 - Pŵer i wneud pryniannau prawf
31.Mae’r adran hon yn galluogi swyddog awdurdodedig i wneud pryniannau a threfniadau, a sicrhau y darperir gwasanaethau os yw’r swyddog yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol at ddiben swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon. Er enghraifft mae hyn yn caniatáu i bryniannau prawf ddigwydd.