6.Mae’r adran hon yn darparu diffiniadau ar gyfer y cysyniadau allweddol o dan y Ddeddf: ‘untro’, ‘cynnyrch plastig’, ‘plastig‘ a ‘polymer’.
7.Mae’r adran hon hefyd yn egluro mai dim ond bagiau siopa a wnaed o ffilm blastig nad yw’n fwy na 49 o ficronau o drwch sy’n cael eu hystyried i fod yn fagiau siopa untro at ddibenion y Ddeddf.
8.Mae’r adran hon yn sefydlu’r cysyniad o ‘cynnyrch plastig untro gwaharddedig’ o dan y Ddeddf.
9.Mae’r adran hon hefyd yn cyflwyno’r Tabl yn yr Atodlen i’r Ddeddf sy’n rhestru’r cynhyrchion hynny sy’n gynhyrchion plastig untro gwaharddedig at ddiben y Ddeddf.
10.Bydd person sy’n cyflenwi neu’n cynnig cyflenwi cynnyrch plastig untro a restrir yng ngholofn 1 o’r tabl yn yr Atodlen i ddefnyddiwr yng Nghymru yn cyflawni’r drosedd o dan adran 5, oni bai bod esemptiad cyfatebol wedi ei restru mewn cysylltiad â’r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 2 o’r Tabl.
11.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi canllawiau ynghylch y cynhyrchion plastig untro sy’n waharddedig o dan y Ddeddf, a sut y dylid cymhwyso unrhyw esemptiadau a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl.
12.Mae’r adran hon yn rhoi i Weinidogion Cymru bŵer i wneud rheoliadau i ddiwygio’r Atodlen drwy:
ychwanegu neu ddileu cynnyrch yng ngholofn 1 o’r Tabl yn yr Atodlen;
ychwanegu neu ddileu esemptiad sy’n ymwneud â chynnyrch yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen; a
gwneud diwygiadau eraill yn unol â’r adran hon.
13.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol cyn gwneud rheoliadau o dan y pwerau yn adran 3:
awdurdodau lleol,
Cyfoeth Naturiol Cymru, ac unrhyw gyrff eraill yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn ymwneud â hyrwyddo’r gwaith o ddiogelu’r amgylchedd yng Nghymru,
y personau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn cynrychioli buddiannau cynhyrchwyr neu gyflenwyr cynhyrchion plastig untro yng Nghymru,
y personau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn cynrychioli buddiannau pobl sydd â nodwedd warchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected characteristics” yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15), ac y gall y rheoliadau gael effaith benodol arnynt am y rheswm hwnnw, ac
unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.
14.Mae’r adran hon yn darparu, wrth ystyried arfer pwerau yn adran 3 i ddiwygio’r Atodlen, fod rhaid i Weinidogion Cymru ystyried eu dyletswydd i hybu datblygu cynaliadwy o dan adran 79(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (‘DLlC’) ac i gyflawni datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2).
15.Yn yr adroddiad y mae’n ofynnol iddynt ei gyhoeddi o dan adran 79(2) o DLlC, rhaid i Weinidogion Cymru esbonio eu hystyriaeth o unrhyw gynlluniau i arfer y pwerau yn adran 3 i ychwanegu rhagor o gynhyrchion plastig untro i golofn 1 o’r Tabl yn yr Atodlen. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’w hystyriaeth ynghylch pa un ai i ychwanegu weips a bagiau bach o saws at golofn 1 o’r Tabl ym mharagraff 1 o’r Atodlen.
16.Yn yr adroddiad sy’n ofynnol o dan adran 79(2) o DLlC, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd esbonio unrhyw ystyriaeth a roddwyd ganddynt i arfer y pwerau o dan adran 3 i ddileu esemptiadau o golofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen, yn enwedig yr esemptiadau ar gyfer cwpanau, caeadau a chynhwysyddion nad ydynt wedi eu gwneud o bolystyren.
17.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn drosedd i berson gyflenwi neu gynnig cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig i ddefnyddiwr yng Nghymru.
18.Mae is-adran (1) yn darparu bod person (a ddisgrifir yn is-adran (2)), yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw:
yn cyflenwi (fel y’i ddiffinnir yn is-adran (3)) gynnyrch plastig untro gwaharddedig i ddefnyddiwr sydd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys trefnu i ddanfon y cynnyrch i ddefnyddiwr mewn cyfeiriad yng Nghymru;
yn cynnig cyflenwi (fel y’i ddiffinnir yn is-adran (4)) gynnyrch plastig untro gwaharddedig drwy ei arddangos, neu ei wneud yn hygyrch i ddefnyddiwr neu ei roi ar gael i ddefnyddiwr mewn mangre yng Nghymru.
19.Mae is-adran (2) yn darparu na ellir cyflawni’r troseddau yn is-adran (1) ond gan y personau a ganlyn (“
corff corfforedig (gan gynnwys corff sy’n arfer unrhyw swyddogaeth o natur gyhoeddus);
partneriaeth;
cymdeithas anghorfforedig heblaw partneriaeth;
person sy’n gweithredu fel unig fasnachwr.
20.Mae is-adran (3) yn darparu bod P yn cyflawni’r drosedd o gyflenwi os yw naill ai P neu berson sy’n atebol i P yn gwerthu’r cynnyrch, neu’n darparu’r cynnyrch am ddim i ddefnyddiwr.
21.Mae is-adran (4) yn darparu bod P yn cynnig cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig o dan is-adran (1) os yw naill ai P neu berson sy’n atebol i P yn arddangos y cynnyrch yn y fangre (er enghraifft mewn ffenestr siop) neu’n cadw’r cynnyrch yn y fangre fel ei fod yn hygyrch i ddefnyddiwr, neu ar gael i ddefnyddiwr, yn y fangre (er enghraifft ar gownter siop).
22.Mae is-adran (5) yn darparu bod person yn “atebol i P” os yw’r person hwnnw:
yn gyflogai i P,
â chontract ar gyfer gwasanaethau gyda P,
yn asiant i P, neu
fel arall yn ddarostyngedig i reoli, rheolaeth neu oruchwyliaeth P,
a bod y person hwnnw—
yn gweithredu yng nghwrs busnes, masnach neu broffesiwn P,
yn gweithredu mewn perthynas ag arfer swyddogaethau P gan P,
yn gweithredu mewn perthynas ag amcanion neu ddibenion P, neu
fel arall yn gweithredu o dan reoli, rheolaeth neu oruchwyliaeth P.
23.Mae is-adran (6) yn egluro, at ddiben y drosedd o gyflenwi, pan ddangosir bod P wedi trefnu i gynnyrch gael ei ddanfon i ddefnyddiwr mewn cyfeiriad yng Nghymru drwy’r post neu drwy unrhyw ddull arall, y bernir bod y cynnyrch wedi ei gyflenwi i’r defnyddiwr yn y cyfeiriad y mae P yn trefnu i’r cynnyrch gael ei ddanfon iddo, hyd yn oed os caiff ei ddanfon i gyfeiriad arall neu nad yw’n cael ei ddanfon o gwbl.
24.Mae is-adran (7) yn darparu amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan is-adran (1) i ddangos ei fod wedi arfer diwydrwydd dyladwy ac wedi cymryd pob rhagofal rhesymol i osgoi cyflawni’r drosedd. Os dibynnir ar yr amddiffyniad, mae is-adran (8) yn egluro ar bwy y mae’r baich profi yn gorffwys. Os codir tystiolaeth ddigonol, mae’r baich o wrthbrofi’r amddiffyniad y tu hwnt i amheuaeth resymol yn gorffwys ar yr erlyniad.
25.Mae is-adran (9) yn nodi, mewn achos ar gyfer trosedd o dan is-adran (1), bydd honiad bod cynnyrch yn gynnyrch plastig untro a restrir yng ngholofn 1 o’r Tabl ym mharagraff 1 o’r Atodlen yn cael ei dderbyn fel ei fod wedi ei brofi yn absenoldeb tystiolaeth i’r gwrthwyneb.
26.Mae is-adran (10) yn darparu eglurhad, pan gyflenwir dau neu ragor o gynhyrchion plastig untro gwaharddedig, neu pan gynigir cyflenwi dau neu ragor o gynhyrchion plastig untro gwaharddedig, gyda’i gilydd, at ddibenion is-adran (1) fod hyn i’w drin fel un weithred gyflenwi, neu gynnig i gyflenwi, cynnyrch plastig untro gwaharddedig.
27.Mae is-adran (11) yn darparu, at ddibenion yr adran hon, mai ystyr ‘defnyddiwr’ yw unigolyn sy’n gweithredu at ddibenion sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf y tu allan i fasnach, busnes neu broffesiwn yr unigolyn hwnnw (pa un ai’r unigolyn a brynodd y cynnyrch ai peidio). Er enghraifft, byddai unigolyn sy’n prynu platiau plastig untro i’w defnyddio yn ei gartref yn cael ei ystyried yn ddefnyddiwr at ddibenion y Ddeddf, tra na fyddai unigolyn sy’n prynu platiau plastig untro o gyfanwerthwr ar ran bwyty lle y mae’r unigolyn yn gweithio yn cael ei ystyried yn ddefnyddiwr at ddibenion y Bil. Fodd bynnag, byddai cyflenwi plât o’r fath gan y bwyty hwnnw i ddefnyddiwr yng Nghymru yn drosedd.
28.Mae’r adran hon yn darparu bod y drosedd o dan adran 5 yn drosedd ddiannod ac felly yn drosedd y gellir ei rhoi ar brawf yn y Llys Ynadon. Os ceir person yn euog o’r drosedd, caiff y Llys osod dirwy ddiderfyn.
29.Mae is-adran (1) yn darparu y caiff awdurdod lleol ymchwilio i gwynion mewn cysylltiad â throseddau o dan adran 5 o’r Ddeddf yr honnir eu bod wedi eu cyflawni yn ei ardal, caiff awdurdod lleol ddwyn erlyniadau mewn cysylltiad â throseddau o dan adran 5 o’r Ddeddf a gyflawnwyd yn ei ardal a chaiff awdurdod lleol gymryd camau eraill gyda’r nod o leihau mynychder troseddau o’r fath yn ei ardal.
30.Mae is-adran (2) yn esbonio bod unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf at swyddog awdurdodedig awdurdod lleol yn gyfeiriad at unrhyw berson a awdurdodir gan yr awdurdod lleol.
31.Mae’r adran hon yn galluogi swyddog awdurdodedig i wneud pryniannau a threfniadau, a sicrhau y darperir gwasanaethau os yw’r swyddog yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol at ddiben swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon. Er enghraifft mae hyn yn caniatáu i bryniannau prawf ddigwydd.
32.Mae’r adran hon yn galluogi swyddog awdurdodedig i fynd, ar unrhyw adeg resymol, i fangre (ac eithrio mangre breswyl) os oes gan y swyddog seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a bod y swyddog yn ystyried ei fod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a gyflawnwyd y drosedd honno. Nid yw’r pŵer hwn i fynd i fangre yn galluogi’r swyddog awdurdodedig i fynd i fangre drwy rym. Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i swyddog awdurdodedig, cyn mynd i’r fangre, ddangos tystiolaeth o’i awdurdodiad.
33.Mae is-adran (5) yn egluro, at ddibenion adrannau 9, 10 ac 11 o’r Ddeddf, mai ystyr “mangre breswyl” yw mangre, neu unrhyw ran o fangre, a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.
34.Mae’r adran hon yn darparu y caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant i alluogi swyddog awdurdodedig i fynd i fangre breswyl o dan amgylchiadau penodol.
35.Ni chaniateir dyroddi gwarant ond pan fo’r ynad heddwch wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw bod seiliau rhesymol i gredu bod trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a’i bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod pa un a yw’r drosedd honno wedi ei chyflawni. Caniateir cael mynediad drwy rym pe bai angen.
36.Bydd unrhyw warant o’r fath mewn grym am y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
37.Os oes angen cael mynediad i fangre nad yw’n fangre breswyl (sefyllfa yr ymdrinnir â hi o dan adran 10) oherwydd bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni, a bod angen mynediad i ganfod pa un a gyflawnwyd trosedd o’r fath ai peidio, mae’r adran hon yn galluogi ynad heddwch i ddyroddi gwarant yn awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i fangre o’r fath, drwy rym pe bai angen. Rhaid i’r fangre y ceisir mynediad iddi o dan yr adran hon gael ei defnyddio at ddibenion busnes, neu at ddiben busnes ac fel preswylfa.
38.Er mwyn i warant gael ei dyroddi, rhaid bodloni un neu ragor o’r gofynion a nodir yn is-adrannau (3) i (4). Mae’r gofynion hynny yn cynnwys bod gofyn am fynd i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod a bod hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant wedi ei roi; a bod gofyn am fynd i’r fangre, neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant, yn debygol o danseilio diben y mynediad.
39.Bydd unrhyw warant o’r fath mewn grym am y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
40.Mae is-adran (1) yn galluogi swyddog awdurdodedig sydd wedi mynd i fangre o dan y pwerau a nodir yn adrannau 9, 10 neu 11 fynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.
41.Mae is-adran (2) yn nodi bod y pwerau mynediad o dan adran 9, 10, neu 11 hefyd yn gymwys i gerbydau.
42.Mae is-adran (3) yn nodi os yw swyddog awdurdodedig yn gweithredu gwarant a ddyroddir o dan adrannau 10 neu 11 o’r Ddeddf pan fydd y meddiannydd yn bresennol, rhaid iddo hysbysu’r meddiannydd ynghylch ei enw, cyflwyno tystiolaeth ddogfennol o’i awdurdod a chyflenwi copi o’r warant i’r meddiannydd.
43.Mae is-adran (4) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, rhaid i’r swyddog awdurdodedig ei gadael wedi ei diogelu yn un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.
44.Mae’r adran hon yn rhoi pwerau i swyddogion awdurdodedig sy’n mynd i fangre o dan adrannau 9, 10 neu 11 wneud amryw o bethau i ganfod a yw trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni. Caiff swyddogion gynnal arolygiadau ac archwiliadau yn y fangre. Caiff swyddogion hefyd ofyn am eitemau, eu harolygu, cymryd samplau ohonynt a/neu fynd â’r eitem(au) a/neu’r samplau o’r fangre. Er enghraifft, efallai y bydd swyddogion yn dymuno gwylio lluniau Teledu Cylch Cyfyng o’r fangre, neu fel arall fynd â dogfennau neu gopïau o ddogfennau.
45.Caiff y swyddog hefyd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth a chymorth, ond nid yw’n ofynnol i’r person hwnnw ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl ganddo i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru a Lloegr.
46.Rhaid i’r swyddog awdurdodedig adael yn y fangre ddatganiad sy’n rhoi manylion unrhyw eitemau sydd wedi eu cymryd ac sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.
47.Mae’r adran hon hefyd yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.
48.Mae is-adran (1) yn darparu bod person yn cyflawni trosedd os yw’n rhwystro yn fwriadol swyddog awdurdodedig rhag arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 9 i 13.
49.Mae is-adran (2) yn darparu bod person yn cyflawni trosedd os yw’r person, heb achos rhesymol, yn methu â darparu i swyddog awdurdodedig gyfleusterau y mae’n rhesymol i’r swyddog awdurdodedig eu gwneud yn ofynnol o dan adran 13(1) neu os yw’n methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 13(1)(b), (d) neu (4)(b) megis darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â materion sydd o fewn rheolaeth y person hwnnw.
50.Mae is-adran (3) yn nodi bod person a geir yn euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol. Nodir lefelau’r raddfa safonol yn adran 122 o Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17).
51.Mae is-adran (4) yn darparu nad yw gwrthod ateb unrhyw gwestiwn neu wrthod cyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru a Lloegr yn drosedd o dan yr adran hon.
52.Mae’r adran hon yn galluogi person a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o’r fangre gan swyddog awdurdodedig o dan adran 13(1)(c) i wneud cais i lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo gael ei ryddhau. Yn dibynnu ar ystyriaeth y llys o gais, caiff y llys wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.
53.Mae’r adran hon yn darparu hawl i berson a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y cymerwyd meddiant ohono o dan adran 13(1)(c) wneud cais i lys ynadon i gael ei ddigolledu. Pan fo’r amgylchiadau a nodir yn is-adran (2) wedi eu bodloni, caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol dalu digollediad i’r ceisydd. Yr amgylchiadau yw bod eiddo wedi ei gymryd; nad oedd yn angenrheidiol cymryd yr eiddo i ganfod a oedd trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni; bod y ceisydd wedi dioddef colled neu ddifrod o ganlyniad i hynny; ac nad oedd y golled neu’r difrod oherwydd esgeulustod neu ddiffyg y ceisydd ei hun.
54.Mae’r adran hon yn galluogi rheoliadau sy’n darparu ar gyfer sancsiynau sifil i gael eu gwneud mewn cysylltiad â throseddau sy’n cael eu creu o dan adran 5 o’r Ddeddf. Mae’r pŵer hwn yn cyfateb i’r pŵer hwnnw yn Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13) (“DGRhS”).
55.Mae Rhan 3 o DGRhS yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer pwerau sancsiynu sifil amgen ar gyfer troseddau perthnasol sy’n ymwneud â diffyg cydymffurfio rheoleiddiol. Y sancsiynau sifil sydd ar gael o dan DGRhS yw cosbau ariannol penodedig, gofynion yn ôl disgresiwn, hysbysiadau stop ac ymgymeriadau gorfodi. Maent yn ddewis amgen i euogfarn droseddol, yn hytrach nag yn cymryd lle euogfarn droseddol, yn enwedig ar gyfer mân achosion o dorri gofynion rheoleiddiol.
56.Mae is-adran (3) yn cymhwyso adran 63 i 69 o DGRhS i reoliadau a wneir o dan yr adran hon fel y byddent yn gymwys i orchymyn a wneir o dan Ran 3 o DGRhS. Nodir effaith is-adran (3) yn y paragraffau a ganlyn.
57.Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi pŵer i awdurdod lleol i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â throsedd, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd sicrhau’r canlyniadau a ganlyn (gweler adran 63 o DGRhS)—
bod yr awdurdod yn cyhoeddi canllawiau ar ei ddefnydd o’r sancsiwn;
bod y canllawiau hynny yn cynnwys gwybodaeth benodedig, gan ddibynnu ar y math o sancsiwn – megis o dan ba amgylchiadau y mae cosb ariannol neu hysbysiad stop yn debygol o gael ei gosod neu ei osod, o dan ba amgylchiadau na ellir ei gosod neu ei osod; swm unrhyw gosb ariannol; sut i ryddhau cosbau a hawliau apelio ac ati;
bod y canllawiau yn cael eu diwygio pan fo’n briodol;
bod yr awdurdod yn ymgynghori â phersonau a bennir yn rheoliadau Gweinidogion Cymru cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau; a
bod yr awdurdod yn rhoi sylw i’r canllawiau wrth arfer swyddogaethau.
58.Pan roddir pŵer i awdurdod lleol i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â throsedd rhaid i’r awdurdod hefyd—
llunio a chyhoeddi canllawiau ar sut y mae’r drosedd i’w gorfodi (gweler adran 64 o DGRhS);
cyhoeddi adroddiadau am yr achosion lle y gosodwyd y sancsiwn sifil (gweler adran 65 o DGRhS).
59.Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth yn galluogi awdurdod lleol i osod sancsiwn sifil mewn perthynas â throsedd oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd yr awdurdod yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion a ganlyn (y cyfeirir atynt yn DGRhS fel yr egwyddorion rheoleiddiol (“regulatory principles”)) wrth arfer y pŵer hwnnw—
bod gweithgarwch rheoleiddiol yn cael ei gynnal mewn ffordd sy’n dryloyw, yn atebol, yn gymesur ac yn gyson; a
na ddylai gweithgarwch rheoleiddiol fod wedi ei dargedu ond at achosion lle bod angen gweithredu.
60.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi pŵer i osod sancsiynau sifil, rhaid iddynt adolygu sut y mae’r pŵer hwnnw yn cael ei weithredu (gweler adran 67 o DGRhS) a chânt atal pŵer awdurdod lleol i osod sancsiynau o’r fath (gweler adran 68 o DGRhS).
61.Rhaid i dderbyniadau o sancsiynau sifil — e.e. o dalu cosbau ariannol — gael eu talu i Gronfa Gyfunol Cymru pan fo gan yr awdurdod lleol swyddogaethau o ran Cymru yn unig; ac i Gronfa Gyfunol y DU pan fo gan yr awdurdod gorfodi swyddogaethau o ran Cymru a rhan arall o’r DU (gweler adran 69 o DGRhS).
62.Mae is-adran (4) yn cymhwyso adran 60(1) a (2) o DGRhS i reoliadau a wneir o dan yr adran hon fel y byddent yn gymwys i orchymyn a wneir o dan Ran 3 o DGRhS.
63.Rhaid i reoliadau sy’n gwneud darpariaeth a alluogir gan yr adran hon fod wedi eu gwneud o dan y weithdrefn gadarnhaol.
64.Mae’r adran hon yn darparu bod achos am droseddau o dan y Ddeddf hon yr honnir eu bod wedi eu cyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig heblaw partneriaeth i’w dwyn yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i haelodau. Mae unrhyw ddirwyon ar euogfarn am drosedd o dan y Ddeddf i’w talu o asedau’r bartneriaeth neu gronfeydd y gymdeithas.
65.Pan fo trosedd o dan y Ddeddf yn cael ei chyflawni gan gorff corfforedig, partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig heblaw partneriaeth mae’r adran hon yn ei gwneud yn bosibl, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), i unigolion sy’n dal swyddi cyfrifol yn y corff perthnasol, y bartneriaeth berthnasol neu’r gymdeithas berthnasol (yr “uwch-swyddogion” a ddiffinnir gan yr adran) i fod yn droseddol atebol am drosedd.
66.Mae’r adran hon yn darparu diffiniadau a chyfeiriadau at ddiffiniadau ar gyfer y termau a ganlyn a ddefnyddir yn y Ddeddf: ‘awdurdod lleol’, ‘bag siopa’, ‘cynnyrch plastig’, ‘cynnyrch plastig untro gwaharddedig’, ‘defnyddiwr’, ‘partneriaeth’, ‘plastig’, ‘swyddog awdurdodedig awdurdod lleol’, ‘untro’.
67.Mae’r adran hon yn esbonio sut y mae pwerau i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w harfer ac yn nodi’r weithdrefn gymwys i’w dilyn wrth wneud y rheoliadau hynny.
68.Mae’r adran hon yn nodi darpariaethau’r Ddeddf a ddaw i rym ar y diwrnod drannoeth dyddiad y Cydsyniad Brenhinol (adrannau 3, 4, 17, 21, 22, 23); a’r rheini a ddaw i rym yn unol â gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru (sef y gweddill).
69.Cyflwynir yr Atodlen gan adran 2 ac mae’n cynnwys tabl sy’n nodi’r cynhyrchion plastig untro gwaharddedig o dan y Ddeddf. Mae’r cynhyrchion plastig untro gwaharddedig a restrir yng ngholofn 1 o’r tabl fel a ganlyn:
Cwpanau
Cytleri
Troyddion diodydd
Caeadau ar gyfer cwpanau neu gynhwysyddion cludfwyd
Gwellt
Platiau
Cynhwysyddion cludfwyd
Ffyn balwnau
Bagiau siopa
Ffyn cotwm
Unrhyw gynnyrch a wnaed o blastig ocso-ddiraddiadwy
70.Ar y cyfan, mae cynnyrch wedi ei restru yng Ngholofn 1 ni waeth o ba math o blastig y’i gwnaed. Yr unig eithriad i’r egwyddor hon yw cynhyrchion a wnaed o blastig ocso-ddiraddiadwy. Mae’r cynhyrchion hyn wedi eu gwahardd oherwydd y math o blastig y’u gwnaed ohono yn hytrach nag oherwydd y cynnyrch ei hun. Mae cyflenwi cynhyrchion ocso-ddiraddiadwy wedi ei wahardd ym mhob achos, pa un a yw’r cynnyrch hefyd wedi ei restru mewn lle arall yn y tabl, ac y gall fod yn ddarostyngedig i esemptiadau yn rhinwedd hynny, ai peidio. Er enghraifft, ni fyddai cyflenwi bag siopa plastig untro sy’n ddarostyngedig i esemptiadau wedi ei esemptio mewn gwirionedd os yw’r bag wedi ei wneud o blastig ocso-ddiraddiadwy.
71.Mae Colofn 2 o’r tabl yn darparu ar gyfer esemptiadau sy’n gymwys mewn cysylltiad â math penodol o gynnyrch neu at y diben y cyflenwir y cynnyrch ar ei gyfer. Mae’r rhain yn cynnwys esemptiadau ar gyfer unrhyw gwpan neu gynhwysydd cludfwyd nad yw wedi ei wneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog ac esemptiad ar gyfer cyflenwi gwelltyn plastig untro i berson sydd ei angen am resymau iechyd neu anabledd.
72.Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer o dan adran 3 i wneud rheoliadau i ddiwygio’r esemptiadau hyn yn y dyfodol; er enghraifft gellid dileu’r esemptiad ar gyfer cwpanau neu gynhwysyddion cludfwyd a wnaed o blastig heblaw polystyren.
73.Mae’r Atodlen hefyd yn darparu’r diffiniadau ar gyfer y cynhyrchion plastig untro gwaharddedig a restrir yn y tabl, ac ar gyfer y diffiniadau o dermau a ddefnyddir yn yr esemptiadau yng ngholofn 2 o’r tabl.
74.Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023.