xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Gwaharddiad ar gyflenwi cynhyrchion plastig untro penodol

1Cysyniadau allweddol: “cynnyrch plastig”, “untro” a “plastig”

(1)Mae’r adran hon yn diffinio cysyniadau allweddol penodol at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “cynnyrch plastig” yw cynnyrch—

(a)y mae ei holl brif gydrannau strwythurol, neu unrhyw un neu ragor o’r prif gydrannau hynny, wedi ei wneud o blastig yn gyfan gwbl neu’n rhannol, neu

(b)sydd â leinin neu araen sydd wedi ei gwneud o blastig yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

(3)Ystyr “untro”, mewn perthynas â chynnyrch plastig, yw cynnyrch nad yw wedi ei ddylunio neu ei weithgynhyrchu i’w ddefnyddio at y diben y’i dyluniwyd neu y’i gweithgynhyrchwyd ar ei gyfer fwy nag unwaith (neu ar fwy nag un achlysur) cyn ei waredu.

(4)Ystyr “plastig” yw deunydd ar ffurf polymer, ac eithrio adlyn, paent neu inc, ac mae’n cynnwys deunydd ar ffurf polymer‍ sydd â sylweddau eraill wedi eu hychwanegu ato.

(5)Yn is-adran (4), o ran y cyfeiriad at “polymer”—

(a)mae’n golygu polymer sy’n gallu gweithredu fel prif gydran strwythurol cynnyrch;

(b)nid yw’n cynnwys polymer naturiol nad yw wedi ei addasu yn gemegol.

(6)At ddibenion is-adran (3), ystyrir bod bag siopa wedi ei ddylunio i’w ddefnyddio i gludo nwyddau fwy nag unwaith cyn ei waredu oni bai ei fod wedi ei wneud o ffilm blastig o ddim mwy na 49 micron o drwch (ac os felly caiff ei ystyried yn gynnyrch plastig untro).