PENNOD 7CYFFREDINOL
Difrodi henebion
58Y drosedd o ddifrodi henebion penodol o ddiddordeb hanesyddol arbennig
(1)Mae person sy’n dinistrio neu’n difrodi heneb warchodedig heb esgus cyfreithlon yn euog o drosedd os oedd y person—
(a)yn gwybod neu os dylai’n rhesymol fod wedi gwybod bod yr heneb yn heneb warchodedig, a
(b)yn bwriadu dinistrio neu ddifrodi’r heneb neu’n ddi-hid o ran a fyddai’r heneb yn cael ei difrodi neu ei dinistrio.
(2)Yn is-adran (1) ystyr “heneb warchodedig” yw—
(a)heneb gofrestredig, neu
(b)heneb sydd o dan berchnogaeth neu warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn rhinwedd y Bennod hon.
(3)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw beth a wneir gan neu o dan awdurdod perchennog yr heneb, ac eithrio gweithred ar gyfer cyflawni gwaith a eithrir, fel y mae’n gymwys i unrhyw beth a wneir gan unrhyw berson arall.
(4)Yn is-adran (3) ystyr “gwaith a eithrir” yw—
(a)gwaith sydd wedi ei awdurdodi o dan Bennod 3;
(b)gwaith y mae cydsyniad datblygu wedi ei roi ar ei gyfer o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29).
(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored—
(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;
(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.
59Gorchmynion digolledu am ddifrod i henebion sydd o dan warcheidiaeth
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo perchennog neu unrhyw berson arall yn cael ei euogfarnu o drosedd sy’n ymwneud â difrod i heneb a oedd ar adeg y drosedd o dan warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod lleol yn rhinwedd Pennod 6.
(2)Mae unrhyw orchymyn digolledu a wneir o dan Bennod 2 o Ran 7 o’r Cod Dedfrydu (gorchmynion digolledu yn erbyn personau a euogfarnwyd) mewn cysylltiad â’r difrod hwnnw i’w wneud o blaid Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod lleol o dan sylw (yn ôl gofynion yr achos).
60Cyfyngiadau ar y defnydd o ddatgelyddion metel
(1)Yn yr adran hon—
ystyr “cydsyniad” (“consent”) yw cydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru;
ystyr “datgelydd metel” (“metal detector”) yw unrhyw ddyfais sydd wedi ei dylunio neu ei haddasu i ganfod neu leoli unrhyw fetel neu unrhyw fwyn yn y ddaear;
ystyr “man gwarchodedig” (“protected place”) yw—
(a)safle unrhyw heneb gofrestredig, neu
(b)safle unrhyw heneb sydd o dan berchnogaeth neu warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn rhinwedd Pennod 6.
(2)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn defnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig heb gydsyniad i wneud hynny.
(3)Mae person y rhoddwyd cydsyniad iddo i ddefnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig yn cyflawni trosedd os yw’r person, wrth ddefnyddio’r datgelydd metel yn y man hwnnw, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod sydd ynghlwm wrth y cydsyniad.
(4)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, heb gydsyniad i wneud hynny, yn symud ymaith unrhyw wrthrych o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol y mae’r person wedi ei ddarganfod drwy ddefnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig.
(5)Mae person y rhoddwyd cydsyniad iddo i symud ymaith unrhyw wrthrych, neu i ymdrin fel arall ag unrhyw wrthrych, y mae’r person yn ei ddarganfod drwy ddefnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig yn cyflawni trosedd os yw’r person, wrth symud ymaith y gwrthrych neu wrth ymdrin fel arall ag ef, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod sydd ynghlwm wrth y cydsyniad.
(6)Mewn unrhyw achos am drosedd o dan is-adran (2) mae’n amddiffyniad i berson brofi iddo ddefnyddio’r datgelydd metel at ddiben ac eithrio i ganfod neu leoli gwrthrychau o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.
(7)Mewn unrhyw achos am drosedd o dan is-adran (2) neu (4) mae’n amddiffyniad i berson brofi—
(a)ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i ganfod a oedd y man lle y defnyddiwyd y datgelydd metel yn fan gwarchodedig, a
(b)nad oedd yn gwybod, ac nad oedd ganddo reswm dros gredu, bod y man yn fan gwarchodedig.
(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) neu (3) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(9)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) neu (5) yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.
Gwaith brys ar gyfer diogelu heneb gofrestredig
61Gwaith ar gyfer diogelu heneb gofrestredig mewn achosion brys
(1)Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod unrhyw waith y mae adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) yn gymwys iddo yn angenrheidiol ar frys i ddiogelu heneb gofrestredig, cânt fynd i safle’r heneb a chyflawni’r gwaith hwnnw.
(2)Cyn arfer y pŵer yn is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru roi o leiaf 7 niwrnod clir o rybudd yn ysgrifenedig i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb.
(3)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cyflawni gwaith o dan yr adran hon ar gyfer atgyweirio unrhyw ddifrod i heneb gofrestredig—
(a)mae unrhyw orchymyn digolledu a wnaed yn flaenorol mewn cysylltiad â’r difrod hwnnw o dan Bennod 2 o Ran 7 o’r Cod Dedfrydu o blaid unrhyw berson arall yn orfodadwy (i’r graddau na chydymffurfiwyd ag ef eisoes) fel pe bai wedi ei wneud o blaid Gweinidogion Cymru, a
(b)rhaid i unrhyw orchymyn o’r fath a wneir wedyn mewn cysylltiad â’r difrod hwnnw gael ei wneud o blaid Gweinidogion Cymru.
(4)Pan fo gwaith yn cael ei gyflawni o dan yr adran hon, mae’r gwaith i’w drin fel pe bai’n waith awdurdodedig at ddibenion Pennod 3 (rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig).
Gwariant a chyngor mewn perthynas â henebion
62Gwariant ar gaffael a diogelu henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig etc.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu cost caffael unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig gan unrhyw berson, neu gyfrannu tuag at y gost honno.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)symud ymaith neu gynorthwyo i symud ymaith unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig neu unrhyw ran o unrhyw heneb o’r fath i fan arall at ddiben ei diogelu;
(b)talu cost symud ymaith unrhyw heneb o’r fath neu unrhyw ran o unrhyw heneb o’r fath i fan arall at ddiben ei diogelu, neu gyfrannu tuag at y gost honno.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais perchennog ar unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig—
(a)ymgymryd â gwaith i ddiogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb neu gynorthwyo’r gwaith hwnnw;
(b)talu am gost diogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb, neu gyfrannu tuag at y gost honno.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru gyfrannu tuag at gost darparu cyfleusterau neu wasanaethau i’r cyhoedd gan awdurdod lleol o dan adran 57.
(5)Caiff awdurdod lleol, ar gais perchennog ar unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal—
(a)ymgymryd â gwaith i ddiogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb neu gynorthwyo’r gwaith hwnnw;
(b)talu am gost diogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb, neu gyfrannu tuag at y gost honno.
(6)Ni chaiff Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol fynd i wariant o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw adeilad neu unrhyw strwythur a feddiennir fel annedd gan unrhyw berson ac eithrio gofalwr yr adeilad neu’r strwythur neu aelod o deulu’r gofalwr.
63Cyngor gan Weinidogion Cymru a goruchwylio gwaith ganddynt
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyngor ynghylch trin unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd oruchwylio unrhyw waith mewn cysylltiad ag unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig os ydynt yn cael eu gwahodd i wneud hynny gan berchennog ar yr heneb.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru oruchwylio gwaith mewn cysylltiad ag unrhyw heneb gofrestredig, os ydynt yn ystyried bod hynny yn ddoeth (pa un a yw perchennog yn gofyn iddynt wneud hynny ai peidio).
(4)Caiff Gweinidogion Cymru godi tâl am roi cyngor neu oruchwylio gwaith o dan yr adran hon.
64Gwariant gan awdurdodau lleol ar ymchwiliad archaeolegol
(1)Os yw awdurdod lleol yn ystyried y gall unrhyw dir yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal gynnwys heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, neu unrhyw beth arall o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol, caiff yr awdurdod—
(a)cynnal ymchwiliad archaeolegol o’r tir neu gynorthwyo mewn ymchwiliad o’r fath, neu
(b)talu cost ymchwiliad archaeolegol o’r tir neu gyfrannu tuag at y gost honno.
(2)Caiff awdurdod lleol gyhoeddi canlyniadau unrhyw ymchwiliad archaeolegol a gynhelir ganddo, a gynorthwyir ganddo neu a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n rhannol ganddo o dan yr adran hon.
(3)Caniateir i’r pwerau yn is-adran (1) gael eu harfer mewn perthynas ag unrhyw dir sy’n ffurfio rhan o wely’r môr o fewn terfynau atfor y môr tiriogaethol sy’n gyfagos i Gymru.
Pwerau mynediad
65Pwerau mynediad i arolygu henebion cofrestredig etc.
(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i arolygu heneb gofrestredig yn y tir, arno neu odano i asesu ei chyflwr ac i asesu—
(a)a oes unrhyw waith sy’n effeithio ar yr heneb yn cael ei gyflawni yn groes i adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi), neu
(b)a yw wedi cael ei difrodi neu’n debygol o gael ei difrodi (gan waith o’r fath neu fel arall).
(2)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i arolygu heneb gofrestredig yn y tir, arno neu odano mewn cysylltiad—
(a)â chais am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith sy’n effeithio ar yr heneb honno,
(b)â chynnig i addasu neu ddirymu cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer unrhyw waith o’r fath, neu
(c)â chynnig i wneud gorchymyn o dan adran 27 (terfynu cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb).
(3)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i asesu a yw unrhyw waith y mae cydsyniad heneb gofrestredig neu awdurdodiad o dan adran 12 yn ymwneud ag ef yn cael ei gyflawni neu wedi cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad neu’r awdurdodiad (gan gynnwys unrhyw amodau).
(4)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir y mae unrhyw waith y mae cydsyniad heneb gofrestredig neu awdurdodiad o dan adran 12 yn ymwneud ag ef yn cael ei gyflawni arno er mwyn—
(a)arolygu’r tir (gan gynnwys unrhyw adeiladau neu unrhyw strwythurau eraill ar y tir) i gofnodi unrhyw faterion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol, neu
(b)arsylwi ar y gwaith hwnnw yn cael ei gyflawni gyda golwg—
(i)ar archwilio a chofnodi unrhyw wrthrychau neu unrhyw ddeunydd arall o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol a ddarganfyddir yng nghwrs y gwaith hwnnw, a
(ii)ar gofnodi unrhyw faterion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol a ddarganfyddir yng nghwrs y gwaith hwnnw.
(5)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano i godi a chynnal ar safle’r heneb neu gerllaw iddo unrhyw hysbysfyrddau ac unrhyw byst marcio y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddymunol i warchod yr heneb rhag difrod damweiniol neu fwriadol.
(6)Ni chaniateir i’r pŵer yn is-adran (5) gael ei arfer heb gytundeb pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir.
(7)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.
66Pwerau mynediad sy’n ymwneud â gorfodi rheolaethau ar waith
(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir—
(a)i benderfynu a ddylai hysbysiad stop dros dro gael ei ddyroddi;
(b)i arddangos copi o hysbysiad stop dros dro yn unol ag adran 31 neu ei osod yn sownd at ddiben ei gyflwyno yn unol ag adran 206(5)(c);
(c)i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad stop dros dro.
(2)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir—
(a)i benderfynu a ddylai hysbysiad gorfodi gael ei ddyroddi;
(b)i osod hysbysiad gorfodi yn sownd at ddiben ei gyflwyno yn unol ag adran 206(5)(c);
(c)i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad gorfodi.
(3)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.
67Pŵer mynediad i dir y credir ei fod yn cynnwys heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig
(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir y mae Gweinidogion Cymru yn gwybod neu y mae ganddynt reswm dros gredu bod heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig ynddo, arno neu odano er mwyn arolygu’r tir (gan gynnwys unrhyw adeilad neu unrhyw strwythur arall arno) gyda golwg ar gofnodi unrhyw faterion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.
(2)Caiff person awdurdodedig sy’n mynd ar unrhyw dir wrth arfer y pŵer yn is-adran (1) gynnal cloddiadau yn y tir at ddibenion ymchwiliad archaeolegol.
(3)Er mwyn cynnal cloddiad o dan is-adran (2) mae’n ofynnol cael cytundeb pob person y byddai’n ofynnol cael ei gytundeb i wneud y cloddiad ar wahân i’r adran hon.
(4)Ond nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn gwybod neu os oes ganddynt reswm dros gredu bod heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig y maent yn gwybod neu’n credu ei bod yn y tir, arno neu odano mewn perygl, neu’n gallu bod mewn perygl, o fod ar fin cael ei difrodi neu ei dinistrio.
(5)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru
68Pŵer mynediad i gynnal arolwg a phrisiad mewn cysylltiad â hawliad am ddigollediad
(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i gynnal arolwg ohono, neu i amcangyfrif ei werth, mewn cysylltiad â hawliad am ddigollediad o dan y Rhan hon am unrhyw ddifrod i’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall.
(2)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw—
(a)swyddog o Swyddfa Brisio Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, neu
(b)person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.
(3)Mae’r pŵer i gynnal arolwg o dir o dan yr adran hon yn cynnwys pŵer i chwilio a thurio i benderfynu natur yr isbridd neu i benderfynu a oes mwynau yn bresennol.
69Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad o dan y Rhan hon
(1)Caniateir i bŵer i fynd ar dir o dan y Rhan hon gael ei arfer ar unrhyw adeg resymol; ond nid yw’r is-adran hon yn gymwys i adran 65(5).
(2)Ni chaiff person sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan y Rhan hon fynnu mynediad fel hawl i unrhyw dir sydd wedi ei feddiannu oni bai bod rhybudd o’r mynediad bwriadedig wedi ei roi i bob meddiannydd—
(a)pan mai diben y mynediad yw cyflawni unrhyw waith ar y tir (ac eithrio cloddiadau wrth arfer y pŵer o dan adran 67), o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn diwrnod y mynediad bwriadedig, neu
(b)mewn unrhyw achos arall (gan gynnwys cloddiadau wrth arfer y pŵer o dan adran 67), o leiaf 24 awr cyn diwrnod y mynediad bwriadedig.
(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i fynediad o dan—
(a)adran 61 (ond gweler is-adran (2) o’r adran honno), na
(b)adran 66(1).
(4)Ni chaiff person sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan y Rhan hon fynd i unrhyw adeilad nac unrhyw strwythur na rhan o adeilad na strwythur a feddiennir fel annedd heb gytundeb pob meddiannydd; ond nid yw’r is-adran hon yn gymwys i’r pŵer yn adran 68.
(5)Rhaid i berson sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan y Rhan hon—
(a)os yw’n ofynnol iddo wneud hynny gan neu ar ran perchennog neu feddiannydd ar y tir, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person a datgan diben mynd ar y tir cyn mynd arno;
(b)os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno.
(6)Caiff person sy’n mynd ar dir wrth arfer pŵer mynediad o dan y Rhan hon fynd â chynhorthwy neu gyfarpar y bo ei angen yn rhesymol at y diben y mae’r mynediad yn ymwneud ag ef.
(7)Pan fo person yn cynnal unrhyw ymchwiliad archaeolegol neu unrhyw archwiliad archaeolegol o dir wrth arfer pŵer mynediad o dan y Rhan hon, caiff y person gymryd unrhyw samplau y mae’n ymddangos i’r person y bo eu hangen yn rhesymol at ddiben dadansoddi archaeolegol a symud unrhyw samplau o’r fath ymaith.
(8)Pan—
(a)bo pŵer mynediad o dan y Rhan hon yn arferadwy gan berson (“P1”) mewn perthynas ag unrhyw dir, a
(b)bo gwaith yn cael ei gyflawni ar y tir gan berson arall (“P2”),
rhaid i P1, wrth arfer y pŵer mynediad, gydymffurfio ag unrhyw ofynion rhesymol neu unrhyw amodau rhesymol a osodir gan P2 at ddiben atal ymyrryd â’r gwaith neu atal oedi i’r gwaith.
(9)Nid yw is-adran (8) yn gymwys pan fo’r gwaith o dan sylw yn cael ei gyflawni yn groes i adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi).
(10)At ddibenion is-adran (8), nid yw gofyniad neu amod yn rhesymol pe byddai cydymffurfio ag ef yn llesteirio arfer y pŵer mynediad neu ddiben y mynediad.
(11)Mae person sy’n fwriadol yn rhwystro person sy’n arfer pŵer mynediad o dan y Rhan hon yn cyflawni trosedd.
(12)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (11) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(13)Pan—
(a)bo person, wrth arfer y pŵer mynediad o dan adran 68, yn cynnig cyflawni gwaith a awdurdodir gan is-adran (3) o’r adran honno, a
(b)bo’n ofynnol iddo roi rhybudd o’r mynediad bwriadedig o dan is-adran (2)(a) o’r adran hon,
ni chaiff y person gyflawni’r gwaith oni bai bod y rhybudd o fynediad bwriadedig yn cynnwys hysbysiad o fwriad y person i gyflawni’r gwaith hwnnw.
(14)Pan—
(a)wrth arfer y pŵer mynediad o dan adran 68, bo person yn cynnig cyflawni unrhyw waith a awdurdodir gan is-adran (3) o’r adran honno ar dir sy’n perthyn i ymgymerwr statudol, a
(b)bo’r ymgymerwr yn gwrthwynebu’r cynnig ar y sail y byddai cyflawni’r gwaith yn ddifrifol niweidiol i gynnal ei ymgymeriad,
ni chaiff y person gyflawni’r gwaith heb gytundeb Gweinidogion Cymru.
70Digollediad am ddifrod a achosir drwy arfer pwerau penodol o dan y Rhan hon
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw bŵer i fynd ar unrhyw dir, neu i wneud unrhyw beth ar unrhyw dir, o dan adran 40 neu adrannau 65 i 68.
(2)Mae gan unrhyw berson sydd â buddiant mewn tir hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw ddifrod a achosir i’r tir neu i eiddo ar y tir wrth arfer pŵer y mae’r adran hon yn gymwys iddo.
(3)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y difrod ei achosi (neu os cafodd y difrod ei achosi dros fwy nag un diwrnod, y diwrnod olaf y cafodd ei achosi).
71Trin a diogelu darganfyddiadau
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn mynd ar dir wrth arfer pŵer mynediad o dan y Rhan hon—
(a)i gynnal cloddiadau yn y tir neu i gyflawni gwaith sy’n effeithio ar heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig sydd yn y tir, arno neu odano,
(b)i asesu neu arsylwi ar waith ar y tir o dan adran 65(3) neu (4)(b), neu
(c)i gynnal archwiliad archaeolegol o’r tir.
(2)Caiff y person—
(a)cymryd gwarchodaeth dros dro o unrhyw wrthrych o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol a ddarganfyddir yng nghwrs y cloddiadau, y gwaith neu’r archwiliad, a
(b)symud y gwrthrych ymaith o’i safle at ddiben ei archwilio, ei brofi, ei drin, ei gofnodi neu ei ddiogelu.
(3)Ni chaiff yr awdurdod priodol, heb gytundeb pob perchennog, gadw’r gwrthrych am gyfnod sy’n hwy nag y bo angen yn rhesymol—
(a)i’w archwilio a’i gofnodi, a
(b)i gynnal unrhyw brawf neu gyflawni unrhyw driniaeth y mae’n ymddangos i’r awdurdod ei fod neu ei bod yn ddymunol—
(i)at ddiben ymchwiliad neu ddadansoddiad archaeolegol, neu
(ii)i adfer neu ddiogelu’r gwrthrych.
(4)Yn is-adran (3) ystyr “awdurdod priodol” yw—
(a)mewn achos pan gafodd y pŵer mynediad ei arfer gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan, Gweinidogion Cymru, a
(b)mewn achos pan gafodd y pŵer mynediad ei arfer gan awdurdod lleol neu ar ei ran, yr awdurdod hwnnw.
(5)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan y Goron o dan Ddeddf Trysor 1996 (p. 24).
Atodol
72Dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynion penodol o dan y Rhan hon
(1)Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd penderfyniad neu orchymyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo mewn unrhyw achos cyfreithiol ac eithrio cais am adolygiad statudol o dan adran 73.
(2)Y penderfyniadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt yw—
(a)penderfyniad gan Weinidogion Cymru ar gais am gydsyniad heneb gofrestredig, a
(b)penderfyniad ar adolygiad o dan adran 9.
(3)Mae’r adran hon yn gymwys i orchymyn o dan adran 20 sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad heneb gofrestredig.
(4)Nid yw’r adran hon yn atal unrhyw lys rhag arfer unrhyw awdurdodaeth mewn perthynas â gwrthodiad neu fethiant i wneud penderfyniad y mae’r adran hon yn gymwys iddo.
73Cais i’r Uchel Lys am adolygiad statudol o benderfyniad neu orchymyn
(1)Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad neu orchymyn y mae adran 72 yn gymwys iddo wneud cais am adolygiad statudol.
(2)Mae cais am adolygiad statudol yn gais i’r Uchel Lys sy’n cwestiynu dilysrwydd y penderfyniad neu’r gorchymyn ar y sail—
(a)nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu
(b)na chydymffurfiwyd â gofyniad perthnasol mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn.
(3)Rhaid i gais am adolygiad statudol gael ei wneud cyn diwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y gwneir y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
(4)Ar unrhyw gais am adolygiad statudol, caiff yr Uchel Lys—
(a)gwneud gorchymyn interim sy’n atal dros dro weithrediad y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef, hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr achos;
(b)diddymu’r penderfyniad hwnnw neu’r gorchymyn hwnnw os yw wedi ei fodloni—
(i)nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu
(ii)bod methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn wedi cael effaith andwyol sylweddol ar fuddiannau’r ceisydd.
(5)Yn yr adran hon ystyr “gofyniad perthnasol” yw unrhyw ofyniad—
(a)yn y Ddeddf hon neu yn Neddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p. 53), neu
(b)mewn unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Ddeddf hon neu o dan y Ddeddf honno.
74Tir y Goron
(1)Nid yw’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â thir y Goron ond i’r graddau a nodir isod.
(2)Caniateir cynnwys heneb sydd ar dir y Goron, ynddo neu odano yn y gofrestr.
(3)Mae unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw bwerau a osodir neu a roddir gan y Rhan hon yn gymwys ac yn arferadwy mewn perthynas â thir y Goron ac mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir ar dir y Goron ac eithrio gan neu ar ran y Goron, ond nid fel y byddai’n effeithio ar unrhyw fuddiant sydd gan y Goron yn y tir.
(4)Nid yw’r adran hon yn caniatáu—
(a)i bŵer o dan y Rhan hon i fynd ar unrhyw dir, neu i wneud unrhyw beth ar unrhyw dir, gael ei arfer mewn perthynas â thir y Goron, na
(b)i fuddiant yn nhir y Goron a ddelir ac eithrio gan neu ar ran y Goron gael ei gaffael yn orfodol o dan y Rhan hon,
heb gytundeb awdurdod priodol y Goron.
75Dehongli’r Rhan hon
(1)Yn y Rhan hon—
mae i “archwiliad archaeolegol” (“archaeological examination”) yr ystyr a roddir gan is-adran (3);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—
(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, a
(b)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
mae i “cydsyniad heneb gofrestredig” (“scheduled monument consent”) yr ystyr a roddir gan adran 13;
mae i “y gofrestr” (“the schedule”) yr ystyr a roddir gan adran 3;
mae “gwaith” (“works”) yn cynnwys—
(a)gweithrediadau i foddi tir neu weithrediadau tipio,
(b)unrhyw weithrediadau a gyflawnir at ddibenion amaethyddiaeth (o fewn ystyr “agriculture” yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8)) neu goedwigaeth (gan gynnwys coedwigo), ac
(c)gweithrediadau o unrhyw ddisgrifiad arall;
mae “gwarcheidwad” (“guardian”) i’w ddehongli yn unol ag adrannau 45 a 49;
mae i “gwarchodaeth interim” (“interim protection”) yr ystyr a roddir gan adran 6(3);
mae i “gweithred warcheidiaeth” (“guardianship deed”) yr ystyr a roddir gan adran 45(7);
ystyr “gweithrediadau i foddi tir” (“flooding operations”) yw gorchuddio tir â dŵr neu â sylwedd arall sy’n hylifol neu’n rhannol hylifol;
ystyr “gweithrediadau tipio” (“tipping operations”) yw tipio pridd neu gloddion neu ddyddodi deunyddiau adeiladu neu ddeunyddiau eraill neu sylwedd adeiladu neu sylwedd arall (gan gynnwys gwastraff) ar unrhyw dir;
mae i “heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig” (“monument of special historic interest”) yr ystyr a roddir gan is-adran (6);
ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad gorfodi a ddyroddir o dan adran 35;
ystyr “hysbysiad stop dros dro” (“temporary stop notice”) yw hysbysiad stop dros dro a ddyroddir o dan adan 31;
mae “meddiant” (“possession”) yn cynnwys cael rhent ac elw neu’r hawl i gael rhent ac elw (os oes rhent neu elw);
mae i “ymchwiliad archaeolegol” (“archaeological investigation”) yr ystyr a roddir gan is-adran (2).
(2)Yn y Rhan hon ystyr “ymchwiliad archaeolegol” yw unrhyw ymchwiliad o dir, o wrthrychau neu o ddeunydd arall at ddiben cael a chofnodi unrhyw wybodaeth o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol ac mae’n cynnwys, yn achos ymchwiliad archaeolegol o dir—
(a)unrhyw ymchwiliad at ddiben darganfod a datgelu a (phan fo’n briodol) adennill a symud ymaith unrhyw wrthrychau neu unrhyw ddeunydd arall o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol yn y tir, arno neu odano, a
(b)archwilio, profi, trin, cofnodi a diogelu unrhyw wrthrychau o’r fath neu unrhyw ddeunydd o’r fath a ddarganfyddir yng nghwrs unrhyw gloddiadau neu unrhyw arolygiadau a gynhelir at ddibenion unrhyw ymchwiliad o’r fath.
(3)Yn y Rhan hon ystyr “archwiliad archaeolegol”, mewn perthynas â thir, yw unrhyw archwiliad neu unrhyw arolygiad o’r tir (gan gynnwys adeiladau neu strwythurau eraill ar y tir) at ddiben cael a chofnodi unrhyw wybodaeth o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.
(4)Yn y Rhan hon (ac eithrio ym Mhennod 4) mae cyfeiriadau at dir sy’n gysylltiedig â heneb (neu at dir cysylltiedig) i’w dehongli yn unol ag adran 49(9).
(5)Yn y Rhan hon mae cyfeiriadau at heneb, mewn perthynas â chaffael neu drosglwyddo unrhyw heneb (pa un ai o dan y Rhan hon neu fel arall), yn cynnwys unrhyw fuddiant yn yr heneb neu hawl drosti.
(6)Yn y Rhan hon ystyr “heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig” yw—
(a)unrhyw heneb gofrestredig, a
(b)unrhyw heneb arall sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod o ddiddordeb i’r cyhoedd oherwydd y diddordeb hanesyddol, pensaernïol, traddodiadol, artistig neu archaeolegol sy’n gysylltiedig â hi.
(7)Ond nid yw’r cyfeiriad at heneb yn is-adran (6)(b) yn cynnwys heneb yn, ar neu o dan wely’r môr islaw’r marc distyll.