Chwilio Deddfwriaeth

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 1TERMAU ALLWEDDOL

2Ystyr “heneb” a “safle heneb”

(1)Yn y Ddeddf hon ystyr “heneb” yw—

(a)unrhyw adeilad, unrhyw strwythur neu unrhyw waith (pa un ai uwchben wyneb y tir neu o dan wyneb y tir) ac unrhyw ogof neu unrhyw gloddiad;

(b)safle olion unrhyw adeilad, unrhyw strwythur neu unrhyw waith neu safle olion unrhyw ogof neu gloddiad;

(c)safle unrhyw gerbyd, unrhyw lestr, unrhyw gerbyd awyr neu unrhyw strwythur symudol arall, neu ran o wrthrych o’r fath, nad yw’n waith, nac yn ffurfio rhan o unrhyw waith, sy’n heneb o fewn paragraff (a);

(d)safle olion unrhyw wrthrych neu unrhyw ran o wrthrych a grybwyllir ym mharagraff (c);

(e)safle unrhyw beth, neu unrhyw grŵp o bethau, sy’n dystiolaeth o weithgarwch dynol blaenorol (ac eithrio safle sy’n dod o fewn paragraff (b), (c) neu (d)).

(2)At ddibenion is-adran (1) mae unrhyw beiriannau sydd wedi eu gosod yn sownd wrth heneb i’w trin fel pe baent yn rhan o’r heneb os na ellid eu datgysylltu heb eu datgymalu.

(3)Nid yw is-adran (1)(a) yn gymwys i unrhyw adeilad crefyddol sy’n cael ei ddefnyddio am y tro at ddibenion crefyddol; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Nid yw is-adrannau (1)(c) a (d) yn gymwys—

(a)i safle unrhyw wrthrych neu ei olion oni bai bod lleoliad y gwrthrych hwnnw neu ei olion yn y safle penodol hwnnw yn fater o ddiddordeb i’r cyhoedd;

(b)i safle unrhyw lestr neu ei olion sy’n cael ei warchod gan orchymyn o dan adran 1 o Ddeddf Gwarchod Llongddrylliadau 1973 (p. 33) sy’n dynodi ardal o gwmpas y safle yn ardal gyfyngedig.

(5)At ddibenion y Ddeddf hon mae safle heneb yn cynnwys nid yn unig y tir y mae ynddo‍, arno neu odano ond hefyd unrhyw dir sy’n rhan o’r tir hwnnw neu sy’n cydffinio â’r tir hwnnw y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol, wrth arfer mewn perthynas â’r heneb honno unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau hwy neu o’i swyddogaethau ef o dan y Rhan hon, ei fod yn hanfodol er mwyn cynnal a diogelu’r heneb.

(6)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at heneb yn cynnwys—

(a)safle’r heneb o dan sylw,

(b)grŵp o henebion, ac

(c)unrhyw ran o heneb neu grŵp o henebion.

(7)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at safle heneb—

(a)yn gyfeiriadau at yr heneb ei hun pan fo’n safle, a

(b)mewn unrhyw achos arall yn cynnwys yr heneb ei hun.

(8)Yn yr adran hon mae “olion” yn cynnwys unrhyw arlliw neu unrhyw arwydd o fodolaeth flaenorol y peth o dan sylw.

PENNOD 2COFRESTR O HENEBION O BWYSIGRWYDD CENEDLAETHOL

Cofrestr o henebion

3Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi cofrestr o henebion

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o henebion yng Nghymru y maent yn ystyried eu bod o bwysigrwydd cenedlaethol, a rhaid iddynt gyhoeddi’r gofrestr gyfredol.

(2)Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer heneb gynnwys map a gynhelir gan Weinidogion Cymru sy’n nodi ffiniau’r heneb.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r gofrestr—

(a)drwy ychwanegu heneb;

(b)drwy ddileu heneb;

(c)drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb (pa un ai drwy ddileu unrhyw beth a gynhwyswyd yn flaenorol fel rhan o’r heneb neu ychwanegu unrhyw beth nas cynhwyswyd yn flaenorol, neu fel arall).

(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ychwanegu at y gofrestr unrhyw adeilad nac unrhyw strwythur a feddiennir fel annedd gan unrhyw berson ac eithrio gofalwr yr adeilad neu’r strwythur neu aelod o deulu’r gofalwr.

(5)Mae cofnod yn y gofrestr sy’n cofnodi i heneb gael ei chynnwys yn bridiant tir lleol.

(6)Yn y Rhan hon ystyr “y gofrestr” yw’r gofrestr a gynhelir o dan yr adran hon.

(7)Yn y Ddeddf hon ystyr “heneb gofrestredig” yw heneb sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr.

4Hysbysu perchennog etc. pan fo’r gofrestr wedi ei diwygio

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r gofrestr—

(a)drwy ychwanegu heneb,

(b)drwy ddileu heneb, neu

(c)drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb.

(2)Cyn gynted â phosibl ar ôl diwygio’r gofrestr rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad eu bod wedi gwneud hynny—

(a)i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb, a

(b)i bob awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal.

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ychwanegu heneb at y gofrestr neu wedi diwygio’r cofnod yn y gofrestr ar gyfer heneb—

(a)rhaid i’r hysbysiad bennu’r dyddiad y gwnaethant hynny, a

(b)rhaid iddynt gynnwys gyda’r hysbysiad gopi o’r cofnod neu’r cofnod diwygiedig ar gyfer yr heneb yn y gofrestr.

Cynigion i ychwanegu heneb at y gofrestr neu ddileu heneb o’r gofrestr: ymgynghori a gwarchodaeth interim

5Ymgynghori cyn ychwanegu heneb at y gofrestr neu ddileu heneb o’r gofrestr

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnig diwygio’r gofrestr—

(a)drwy ychwanegu heneb,

(b)drwy ddileu heneb, neu

(c)drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb i ddileu unrhyw beth a gynhwyswyd yn flaenorol fel rhan o’r heneb neu ychwanegu unrhyw beth nas cynhwyswyd yn flaenorol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r personau a grybwyllir yn is-adran (3)—

(a)sy’n nodi’r diwygiad arfaethedig, a

(b)sy’n gwahodd y personau hynny i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynghylch y cynnig.

(3)Y personau yw—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb,

(b)pob awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol gan fod ganddynt wybodaeth arbennig am yr heneb neu am henebion o ddiddordeb hanesyddol neu archaeolegol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddi neu ynddynt.

(4)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2)—

(a)pennu o fewn pa gyfnod y caniateir cyflwyno sylwadau, a

(b)yn achos cynnig i ychwanegu heneb neu i ychwanegu unrhyw beth fel rhan o heneb—

(i)cynnwys datganiad o effaith adran 6 (gwarchodaeth interim), a

(ii)pennu’r dyddiad y mae gwarchodaeth interim yn cymryd effaith o dan yr adran honno.

(5)Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-adran (4)(a) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.

6Gwarchodaeth interim wrth aros am benderfyniad ar ddiwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r gofrestr

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 5(2) ynghylch cynnig i ddiwygio’r gofrestr—

(a)drwy ychwanegu heneb, neu

(b)drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb drwy ychwanegu unrhyw beth fel rhan o’r heneb.

(2)O ddechrau’r diwrnod a bennir o dan adran 5(4)(b)(ii) mae’r Ddeddf hon yn cael effaith—

(a)yn achos cynnig i ychwanegu heneb at y gofrestr, fel pe bai’r heneb yn heneb gofrestredig;

(b)yn achos cynnig i ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb, fel pe bai’r diwygiad wedi ei wneud.

(3)Cyfeirir yn y Rhan hon at y warchodaeth a roddir yn rhinwedd is-adran (2) fel “gwarchodaeth interim”.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi rhestr o’r henebion sy’n ddarostyngedig i warchodaeth interim, a

(b)darparu copi o’r hysbysiad a gyflwynir o dan adran 5(2) mewn cysylltiad â heneb o’r fath i unrhyw berson sy’n gofyn am gopi.

7Pan ddaw gwarchodaeth interim i ben

(1)Daw gwarchodaeth interim a roddir gan adran 6(2)(a) (cynnig i ychwanegu heneb at y gofrestr) i ben mewn perthynas â heneb—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn ychwanegu’r heneb at y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 4(2), neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio ag ychwanegu’r heneb at y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir mewn hysbysiad a gyflwynir ganddynt i’r personau a grybwyllir yn is-adran (3).

(2)Daw gwarchodaeth interim a roddir gan adran 6(2)(b) (cynnig i ddiwygio cofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â heneb) i ben mewn perthynas â heneb—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r cofnod yn y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 4(2), neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â diwygio’r cofnod yn y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir mewn hysbysiad a gyflwynir ganddynt i’r personau a grybwyllir yn is-adran (3).

(3)Y personau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (1)(b) a (2)(b) yw—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb, a

(b)pob awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal.

(4)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch effaith gwarchodaeth interim yn dod i ben o dan is-adrannau (1)(b) a (2)(b).

8Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gwarchodaeth interim yn dod i ben mewn perthynas â heneb oherwydd hysbysiad o dan adran 7(1)(b) neu (2)(b).

(2)Mae gan unrhyw berson a oedd â buddiant yn yr heneb pan gymerodd y warchodaeth interim effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw golled neu unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r warchodaeth interim.

(3)Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir gan yr angen i stopio neu ganslo gwaith i’r heneb oherwydd y warchodaeth interim.

(4)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau pan ddaw’r warchodaeth interim i ben.

Adolygu penderfyniadau i ddiwygio’r gofrestr i ychwanegu henebion etc.

9Adolygu penderfyniad i ychwanegu heneb at y gofrestr etc.

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru—

(a)yn ychwanegu heneb at y gofrestr, neu

(b)yn diwygio’r cofnod yn y gofrestr ar gyfer heneb i ychwanegu unrhyw beth fel rhan o’r heneb,

rhaid i’r hysbysiad o dan adran 4(2) ddatgan y caiff unrhyw berchennog neu unrhyw feddiannydd ar yr heneb wneud cais i Weinidogion Cymru sy’n gofyn am adolygiad o’r penderfyniad.

(2)Ni chaniateir gwneud cais ond ar y sail nad yw’r heneb neu’r rhan o’r heneb (yn ôl y digwydd) o bwysigrwydd cenedlaethol.

(3)Pan fo perchennog neu feddiannydd yn gwneud cais am adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru benodi person—

(a)i gynnal yr adolygiad, a

(b)i wneud penderfyniad ar yr adolygiad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu disgrifiadau o achosion pan fo rhaid iddynt hwy, yn lle person a benodir ganddynt, gynnal adolygiad a gwneud penderfyniad arno.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud unrhyw ddiwygiad i’r gofrestr y maent yn ystyried ei fod yn briodol i roi effaith i’r penderfyniad ar adolygiad.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2)—

(a)i ychwanegu sail ar gyfer adolygiad;

(b)i addasu sail ar gyfer adolygiad;

(c)i ddileu sail ar gyfer adolygiad.

10Darpariaeth atodol ynghylch adolygiadau

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y ffurf a’r ffordd y mae rhaid i gais o dan adran 9 gael ei wneud;

(b)yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu i Weinidogion Cymru, neu y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol, mewn cysylltiad â chais;

(c)y cyfnod y mae rhaid i gais gael ei wneud ynddo.

(2)Rhaid i adolygiad o dan adran 9 gael ei gynnal mewn un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn (fel y’i penderfynir gan y person sy’n cynnal yr adolygiad)—

(a)drwy ymchwiliad lleol;

(b)drwy wrandawiad;

(c)ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag adolygiadau o dan adran 9.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) neu (3) awdurdodi Gweinidogion Cymru neu bersonau a benodir o dan adran 9(3)—

(a)i benderfynu materion o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, a

(b)i roi cyfarwyddydau mewn perthynas â’r materion hynny.

(5)Mae Atodlenni 2 a 6 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch adolygiadau o dan adran 9.

PENNOD 3RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG

Awdurdodi gwaith

11Gofyniad i waith gael ei awdurdodi

(1)Ni chaiff person gyflawni gwaith y mae’r adran hon yn gymwys iddo, na pheri na chaniatáu i waith o’r fath gael ei gyflawni, oni bai bod y gwaith wedi ei awdurdodi o dan y Bennod hon.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)i waith sy’n arwain at ddymchwel neu ddinistrio heneb gofrestredig, neu at unrhyw ddifrod i heneb gofrestredig;

(b)i waith at ddiben symud ymaith neu atgyweirio heneb gofrestredig neu unrhyw ran ohoni, neu wneud unrhyw addasiadau i’r heneb neu i unrhyw ran ohoni neu unrhyw ychwanegiadau ati neu at unrhyw ran ohoni;

(c)i weithrediadau i foddi tir, neu weithrediadau tipio ar dir, y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano.

12Awdurdodi dosbarthau o waith

(1)Mae gwaith y mae adran 11 yn gymwys iddo wedi ei awdurdodi os yw’r gwaith o fewn dosbarth o waith a ddisgrifir yn y tabl yn Atodlen 3.

(2)Mae awdurdodiad o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau neu unrhyw amodau a bennir yn y tabl mewn perthynas â gwaith o ddosbarth penodol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo nad yw is-adran (1) yn gymwys i unrhyw heneb gofrestredig a bennir yn y cyfarwyddyd.

(4)Nid yw cyfarwyddyd o dan is-adran (3) yn cymryd effaith hyd nes bod hysbysiad ohono wedi ei gyflwyno i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb o dan sylw.

(5)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi gwaith yn groes i unrhyw eithriad neu unrhyw amod sydd ynghlwm wrth gydsyniad heneb gofrestredig.

(6)Mae awdurdodiad o dan is-adran (1) yn cael effaith er budd yr heneb a phob person sydd â buddiant yn yr heneb am y tro; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn Atodlen 3.

13Awdurdodi gwaith drwy gydsyniad heneb gofrestredig

(1)Mae gwaith y mae adran 11 yn gymwys iddo wedi ei awdurdodi—

(a)os yw cydsyniad ysgrifenedig i’w gyflawni wedi ei roi gan Weinidogion Cymru, a

(b)os yw’r gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrtho).

(2)Pan—

(a)bo gwaith y mae adran 11 yn gymwys iddo wedi ei gyflawni heb fod wedi ei awdurdodi o dan y Bennod hon, a

(b)bo Gweinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer y gwaith,

mae’r gwaith wedi ei awdurdodi o adeg rhoi’r cydsyniad.

(3)Cyfeirir at gydsyniad o dan is-adran (1) neu (2) yn y Rhan hon fel cydsyniad heneb gofrestredig.

Ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig

14Gwneud cais am gydsyniad heneb gofrestredig

(1)Rhaid i gais am gydsyniad heneb gofrestredig gael ei wneud i Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i gais—

(a)nodi’r ardal o dir y mae’n ymwneud â hi,

(b)disgrifio’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ac effaith debygol y gwaith ar yr heneb, ac

(c)cynnwys unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ffurf a chynnwys cais (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio ffurflen sydd i’w chyhoeddi neu i’w darparu gan Weinidogion Cymru);

(b)sut y mae rhaid gwneud cais;

(c)dogfennau neu ddeunyddiau eraill y mae rhaid eu cynnwys gyda chais.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru gytuno â cheisydd y caniateir gwneud cais nad yw’n unol ag is-adran (2) neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3), os yw’r cais yn ymwneud â gwaith y mae is-adran (5) yn gymwys iddo.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys i fân waith a gyflawnir at ddiben—

(a)symud ymaith neu atgyweirio heneb gofrestredig neu unrhyw ran ohoni, neu

(b)gwneud unrhyw addasiadau i’r heneb neu unrhyw ychwanegiadau ati.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu achosion ychwanegol pan ganiateir i gais am gydsyniad heneb gofrestredig gael ei wneud mewn ffordd nad yw’n unol ag is-adran (2) neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3); a chaiff y rheoliadau roi disgresiwn i Weinidogion Cymru.

15Declarasiynau o berchnogaeth mewn cysylltiad â heneb

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig oni bai bod un o’r declarasiynau a ganlyn a lofnodwyd gan neu ar ran y ceisydd wedi ei gynnwys gyda’r cais—

(a)declarasiwn nad oedd unrhyw berson ac eithrio’r ceisydd yn berchennog ar yr heneb ar ddechrau’r 21 o ddiwrnodau a ddaeth i ben â diwrnod y cais,

(b)declarasiwn bod y ceisydd wedi rhoi hysbysiad i’r holl bersonau (ac eithrio’r ceisydd) a oedd, ar ddechrau’r cyfnod hwnnw, yn berchnogion ar yr heneb, o’r pethau sy’n ofynnol gan is-adran (2) ac unrhyw reoliadau o dan is-adran (3),

(c)declarasiwn bod y ceisydd—

(i)yn methu â gwneud declarasiwn o dan baragraff (a) na (b),

(ii)wedi rhoi hysbysiad i’r rhai hynny o’r personau a grybwyllir ym mharagraff (b) ac a enwir yn y declarasiwn, o’r pethau sy’n ofynnol gan is-adran (2) ac unrhyw reoliadau o dan is-adran (3), ond

(iii)wedi methu â chanfod enwau a chyfeiriadau gweddill y personau a grybwyllir ym mharagraff (b), er iddo gymryd pob cam rhesymol i wneud hynny, neu

(d)declarasiwn bod y ceisydd—

(i)yn methu â gwneud declarasiwn o dan baragraff (a), a

(ii)er iddo gymryd pob cam rhesymol i wneud hynny, wedi methu â chanfod enwau a chyfeiriadau unrhyw un o’r personau a grybwyllir ym mharagraff (b).

(2)Rhaid i hysbysiad at ddibenion is-adran (1)(b) neu (c)(ii)—

(a)nodi’r heneb y mae’n ymwneud â hi (gan gynnwys cyfeiriad neu leoliad yr heneb, a’i henw (os oes un)),

(b)datgan bod cais am gydsyniad heneb gofrestredig i’w wneud mewn perthynas â’r heneb,

(c)nodi’r person sy’n gwneud y cais (a, phan fo’r ceisydd yn gwneud cais ar ran rhywun, nodi’r person arall), a

(d)disgrifio’r gwaith y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu pethau ychwanegol y mae rhaid eu cynnwys mewn hysbysiad.

(4)Mae’n drosedd i berson gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio â’r adran hon—

(a)gwneud declarasiwn y mae’r person yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol, neu

(b)yn ddi-hid, wneud declarasiwn sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(6)Yn yr adran hon ystyr “perchennog” yw—

(a)perchennog ar yr ystad rydd-ddaliadol, neu

(b)tenant o dan les a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill.

16Pŵer i wrthod ystyried ceisiadau tebyg

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig—

(a)os yw Gweinidogion Cymru, yn y 2 flynedd sy’n dod i ben â’r diwrnod y daw’r cais i law, wedi gwrthod cais tebyg, a

(b)os ydynt yn ystyried na fu unrhyw newid sylweddol mewn unrhyw ystyriaethau perthnasol ers i’r cais tebyg gael ei wrthod.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig os gwneir y cais ar adeg pan fydd cais tebyg yn cael ei ystyried.

(3)At ddibenion yr adran hon mae cais yn debyg i gais arall os (a dim ond os) yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y gwaith y mae’r ceisiadau yn berthnasol iddo yr un fath neu’n sylweddol yr un fath.

Penderfynu ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig

17Y weithdrefn ar gyfer penderfynu ceisiadau ac effaith rhoi cydsyniad

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cydsyniad heneb gofrestredig mewn cysylltiad â’r holl waith neu unrhyw ran o’r gwaith y mae cais yn ymwneud ag ef.

(2)Cyn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gais, caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o’r canlynol—

(a)peri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal,

(b)rhoi cyfle i’r ceisydd, ac unrhyw berson arall, i ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru a chael gwrandawiad ganddo, neu

(c)rhoi cyfle i’r ceisydd, ac unrhyw berson arall, i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

(3)Cyn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gais, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ym mhob achos, ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson mewn cysylltiad â’r cais hwnnw, a

(b)os cynhaliwyd ymchwiliad neu wrandawiad neu os cyflwynwyd sylwadau yn unol ag is-adran (2)(c), ystyried adroddiad y person a gynhaliodd yr ymchwiliad neu’r gwrandawiad neu y cyflwynwyd y sylwadau iddo.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o’u penderfyniad mewn cysylltiad â’r cais i’r ceisydd ac i bob person sydd wedi cyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â’r cais.

(5)Mae cydsyniad heneb gofrestredig yn cael effaith er budd yr heneb a phob person sydd â buddiant yn yr heneb am y tro; ond mae hyn yn ddarostyngedig i delerau’r cydsyniad.

(6)Mae Atodlen 6 yn gymwys mewn perthynas ag achosion a gynhelir o dan is-adran (2).

Rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau

18Pŵer i roi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau

(1)Caniateir rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau.

(2)Caiff amod, er enghraifft—

(a)gosod gofynion mewn cysylltiad â’r ffordd y mae’r gwaith neu unrhyw ran o’r gwaith i’w gyflawni neu mewn cysylltiad â’r personau sydd i gyflawni’r gwaith neu unrhyw ran o’r gwaith;

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru gael cyfle, cyn i unrhyw waith ddechrau, i archwilio’r heneb a’i safle ac i gyflawni unrhyw gloddiadau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddymunol at ddiben ymchwiliad archaeolegol.

19Amod ynghylch y cyfnod y mae rhaid i’r gwaith ddechrau ynddo

(1)Rhaid rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr amod ac sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y cydsyniad.

(2)Os rhoddir cydsyniad heb yr amod sy’n ofynnol gan is-adran (1), mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau o fewn 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd y cydsyniad.

(3)Nid yw’r adran hon yn gymwys—

(a)i gydsyniad heneb gofrestredig sy’n darparu ei fod yn peidio â chael effaith ar ddiwedd cyfnod a bennir yn y cydsyniad (ni waeth a yw unrhyw waith wedi dechrau),

(b)i gydsyniad a roddir o dan adran 13(2) (cydsyniad ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni), nac

(c)i gydsyniad a roddir gan gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig neu gytundeb rheoli (gweler adrannau 25 a 51).

Addasu a dirymu cydsyniad heneb gofrestredig

20Addasu a dirymu cydsyniad

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn addasu neu ddirymu cydsyniad heneb gofrestredig i unrhyw raddau.

(2)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan yr adran hon mewn perthynas—

(a)â chydsyniad heneb gofrestredig a roddir o dan adran 13(2) (cydsyniad ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni), na

(b)â chydsyniad a roddir gan gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig (gweler Pennod 4).

(3)Mae Atodlenni 4 a 6 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gorchmynion o dan yr adran hon.

Digollediad

21Digollediad am wrthod cydsyniad heneb gofrestredig neu roi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo cais am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith o ddisgrifiad a grybwyllir yn is-adran (3) yn cael ei wrthod, neu

(b)pan fo cais am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith o ddisgrifiad o’r fath yn cael ei ganiatáu yn ddarostyngedig i amodau.

(2)Mae gan unrhyw berson sydd â buddiant yn yr heneb o dan sylw hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw wariant yr eir iddo neu unrhyw golled arall neu unrhyw ddifrod arall a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i effaith y penderfyniad ar y cais; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn yn yr adran hon.

(3)Y gwaith y mae digollediad yn daladwy mewn cysylltiad ag ef o dan yr adran hon yw—

(a)gwaith sy’n rhesymol angenrheidiol ar gyfer cyflawni unrhyw ddatblygiad yr oedd caniatâd cynllunio—

(i)wedi ei roi ar ei gyfer (ac eithrio drwy orchymyn datblygu cyffredinol) cyn i’r heneb o dan sylw ddod yn heneb gofrestredig, a

(ii)yn dal i fod yn effeithiol pan wnaed y cais am gydsyniad heneb gofrestredig,

(b)gwaith sy’n ddatblygiad y rhoddir caniatâd cynllunio ar ei gyfer drwy orchymyn datblygu cyffredinol,

(c)gwaith nad yw’n ddatblygiad, a

(d)gwaith sy’n rhesymol angenrheidiol er mwyn parhau â defnydd o’r heneb at ddiben yr oedd yn cael ei defnyddio ato yn union cyn dyddiad y cais am gydsyniad heneb gofrestredig (ond gan anwybyddu unrhyw ddefnydd sy’n torri unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol sy’n gymwys i’r defnydd o’r heneb).

(4)Mae’r digollediad sy’n daladwy o dan yr adran hon mewn cysylltiad â gwaith o fewn is-adran (3)(a) wedi ei gyfyngu i ddigollediad ar gyfer gwariant yr eir iddo neu golled arall neu ddifrod arall a ddioddefir yn rhinwedd y ffaith, o ganlyniad i benderfyniad Gweinidogion Cymru, na ellid cyflawni datblygiad y rhoddwyd y caniatâd cynllunio o dan sylw ar ei gyfer heb dorri adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi).

(5)Nid oes gan berson hawlogaeth i gael ei ddigolledu o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw waith o fewn is-adran (3)(b) nac (c) os byddai’r gwaith o dan sylw neu unrhyw ran o’r gwaith yn arwain at ddymchwel neu ddinistrio’r heneb yn gyfan gwbl neu’n rhannol, neu os gallai wneud hynny.

(6)Pan fo cydsyniad heneb gofrestredig yn cael ei roi yn ddarostyngedig i amodau, nid oes gan berson hawlogaeth i gael ei ddigolledu o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw waith o fewn is-adran (3)(d) oni fyddai cydymffurfio â’r amodau hynny i bob pwrpas yn ei gwneud yn amhosibl defnyddio’r heneb at y diben yr oedd yn cael ei defnyddio ato cyn dyddiad y cais.

(7)Wrth asesu unrhyw ddigollediad sy’n daladwy o dan yr adran hon am golled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir—

(a)mae i’w thybio y byddai unrhyw gais dilynol am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith o ddisgrifiad tebyg yn cael ei benderfynu yn yr un ffordd, ond

(b)os ymrwymodd Gweinidogion Cymru, yn achos gwrthod cydsyniad heneb gofrestredig, wrth wrthod y cydsyniad hwnnw, i roi cydsyniad ar gyfer gwaith arall a fyddai’n effeithio ar yr heneb pe bai cais yn cael ei wneud, rhaid rhoi sylw i’r ymrwymiad hwnnw.

(8)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â—

(a)diwrnod yr hysbysiad o wrthod cydsyniad heneb gofrestredig, neu

(b)y diwrnod y rhoddir cydsyniad heneb gofrestredig.

(9)Yn yr adran hon ystyr “gorchymyn datblygu cyffredinol” yw gorchymyn datblygu o dan adran 59 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) sy’n gymwys i’r holl dir yng Nghymru (yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau a bennir yn y gorchymyn).

22Adennill digollediad a dalwyd o dan adran 21 ar ôl rhoi cydsyniad dilynol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)mewn achos pan fo digollediad o dan adran 21 wedi ei dalu o ganlyniad i wrthod cydsyniad heneb gofrestredig, fo Gweinidogion Cymru wedyn yn rhoi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer y cyfan neu unrhyw ran o’r gwaith y talwyd y digollediad mewn cysylltiad ag ef, a

(b)mewn achos pan fo digollediad o dan yr adran honno wedi ei dalu o ganlyniad i roi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau, fo Gweinidogion Cymru wedyn—

(i)yn addasu’r cydsyniad fel nad yw’r amodau, neu unrhyw un neu ragor ohonynt, yn gymwys mwyach i’r cyfan neu unrhyw ran o’r gwaith y talwyd y digollediad mewn cysylltiad ag ef, neu

(ii)yn rhoi cydsyniad newydd ar gyfer y cyfan neu unrhyw ran o’r gwaith hwnnw heb yr amodau hynny, neu unrhyw un neu ragor ohonynt.

(2)Nid yw’r adran hon yn gymwys mewn unrhyw achos oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno hysbysiad o dalu digollediad i gyngor pob sir neu fwrdeistref sirol y mae’r heneb ynddi.

(3)Wrth roi neu addasu cydsyniad heneb gofrestredig mewn achos y mae’r adran hon yn gymwys iddo, caiff Gweinidogion Cymru wneud hynny ar delerau nad oes unrhyw waith y talwyd y digollediad mewn cysylltiad ag ef i’w gyflawni o dan y cydsyniad hyd nes y bydd y swm adenilladwy wedi ei ad-dalu i Weinidogion Cymru neu wedi ei sicrhau er boddhad iddynt.

(4)Yn is-adran (3) mae i “swm adenilladwy” yr ystyr a roddir gan adran 23.

(5)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2) bennu—

(a)y penderfyniad a arweiniodd at yr hawlogaeth i gael digollediad,

(b)yr heneb y mae’r penderfyniad yn effeithio arni, ac

(c)swm y digollediad.

(6)Mae hysbysiad o dan is-adran (2) yn bridiant tir lleol, ac at ddibenion Deddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (p. 76) mae’r cyngor y rhoddir hysbysiad iddo o dan yr is-adran honno i’w drin fel pe bai yr awdurdod tarddiadol mewn cysylltiad â’r pridiant.

23Penderfynu’r swm sy’n adenilladwy o dan adran 22

(1)Ystyr y “swm adenilladwy” at ddibenion adran 22 yw swm a bennir gan Weinidogion Cymru wrth roi hysbysiad o’u penderfyniad ar y cais am gydsyniad heneb gofrestredig neu yn y gorchymyn sy’n addasu’r cydsyniad (yn ôl y digwydd); ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (3).

(2)Pan fo person a chanddo fuddiant mewn heneb yn gwrthwynebu’r swm a bennir gan Weinidogion Cymru, caiff y person ei gwneud yn ofynnol i’r penderfyniad ar y swm gael ei atgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys.

(3)Pan fo atgyfeiriad yn cael ei wneud i’r Uwch Dribiwnlys o dan is-adran (2) y swm adenilladwy yw’r swm y mae’r Tribiwnlys yn ei benderfynu.

(4)Caiff y swm a bennir neu a benderfynir fel y swm adenilladwy o dan yr adran hon fod yn swm sy’n cynrychioli’r cyfan neu unrhyw ran o’r digollediad a delir o dan adran 21.

24Digollediad pan fo gwaith sy’n effeithio ar heneb gofrestredig yn peidio â chael ei awdurdodi

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gwaith sy’n effeithio ar heneb gofrestredig a awdurdodwyd yn flaenorol o dan y Bennod hon yn peidio â chael ei awdurdodi—

(a)oherwydd bod awdurdodiad o dan adran 12 yn peidio â bod yn gymwys (boed hynny oherwydd diwygiad i’r tabl yn Atodlen 3 neu gyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (3) o’r adran honno),

(b)oherwydd bod cydsyniad heneb gofrestredig wedi ei addasu neu ei ddirymu drwy orchymyn a wneir o dan adran 20, neu

(c)yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 4, oherwydd bod hysbysiad o addasiad neu ddirymiad arfaethedig cydsyniad heneb gofrestredig wedi ei gyflwyno o dan baragraff 1 o’r Atodlen honno.

(2)Mae gan unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr heneb hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am—

(a)unrhyw wariant y mae’r person yn mynd iddo wrth gyflawni gwaith a ddaw yn ofer oherwydd bod gwaith pellach yn peidio â chael ei awdurdodi, neu

(b)unrhyw golled arall neu unrhyw ddifrod arall a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r ffaith honno.

(3)Nid oes gan berson hawlogaeth i gael digollediad o dan yr adran hon mewn achos o fewn is-adran (1)(a) oni bai, ar gais am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer y gwaith o dan sylw, fod cydsyniad yn cael ei wrthod, neu’n cael ei roi yn ddarostyngedig i amodau ac eithrio’r rheini a oedd yn gymwys yn flaenorol yn rhinwedd adran 12.

(4)At ddibenion yr adran hon mae gwariant yr eir iddo wrth lunio planiau at ddibenion unrhyw waith, neu ar faterion tebyg eraill sy’n baratoadol i unrhyw waith, i’w drin fel pe bai’n wariant yr eir iddo wrth gyflawni’r gwaith.

(5)Yn ddarostyngedig i hynny, nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon mewn cysylltiad—

(a)â gwaith a gyflawnwyd cyn i awdurdodiad o dan adran 12 fod yn gymwys mewn perthynas â’r gwaith neu cyn i’r cydsyniad heneb gofrestredig o dan sylw gael ei roi (yn ôl y digwydd), neu

(b)â cholled arall neu ddifrod arall (ac eithrio colled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir) sy’n deillio o unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed cyn i’r awdurdodiad hwnnw fod yn gymwys neu cyn i’r cydsyniad hwnnw gael ei roi.

(6)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r gwaith yn peidio â chael ei awdurdodi.

PENNOD 4CYTUNDEBAU PARTNERIAETHAU HENEBION COFRESTREDIG

25Cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cytundeb o dan yr adran hon (“cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig”)—

(a)ag unrhyw berchennog ar heneb gofrestredig, neu

(b)ag unrhyw berchennog ar dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yng nghyffiniau heneb o’r fath (“tir cysylltiedig”).

(2)Caiff unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn hefyd fod yn barti i’r cytundeb (yn ogystal â’r perchennog a Gweinidogion Cymru)—

(a)unrhyw feddiannydd ar yr heneb neu ei thir cysylltiedig;

(b)unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb neu ei thir cysylltiedig;

(c)unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r heneb neu ei thir cysylltiedig;

(d)unrhyw awdurdod lleol y mae’r heneb neu ei thir cysylltiedig yn ei ardal;

(e)unrhyw awdurdod lleol sydd, yn rhinwedd Pennod 6, yn warcheidwad ar yr heneb neu ei thir cysylltiedig;

(f)unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol gan fod ganddo wybodaeth arbennig am yr heneb neu am henebion o ddiddordeb hanesyddol neu archaeolegol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddi neu ynddynt.

(3)Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig roi cydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13(1) ar gyfer gwaith penodedig at ddiben—

(a)symud ymaith neu atgyweirio’r heneb y mae’r cytundeb yn ymwneud â hi, neu

(b)gwneud unrhyw addasiadau i’r heneb neu unrhyw ychwanegiadau ati.

(4)Pan fo cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig yn rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r cytundeb bennu’r amodau hynny.

(5)Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig hefyd—

(a)pennu gwaith a fyddai, neu na fyddai, ym marn y partïon, yn waith y mae adran 11 yn gymwys iddo;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch cynnal a chadw a diogelu’r heneb neu ei thir cysylltiedig;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch cyflawni gwaith penodedig, neu wneud unrhyw beth penodedig, mewn perthynas â’r heneb neu ei thir cysylltiedig;

(d)darparu ar gyfer mynediad y cyhoedd i’r heneb neu ei thir cysylltiedig a darparu cyfleusterau cysylltiedig, gwybodaeth gysylltiedig neu wasanaethau cysylltiedig i’r cyhoedd;

(e)cyfyngu ar fynediad i’r heneb neu ei thir cysylltiedig neu ar y defnydd o’r heneb neu ei thir cysylltiedig;

(f)gwahardd gwneud unrhyw beth penodedig mewn perthynas â’r heneb neu ei thir cysylltiedig;

(g)darparu i Weinidogion Cymru, neu unrhyw awdurdod lleol y mae’r heneb neu ei thir cysylltiedig yn ei ardal, wneud taliadau o symiau penodedig ac ar delerau penodedig—

(i)am gostau unrhyw waith y darperir ar ei gyfer o dan y cytundeb, neu tuag at y costau hynny, neu

(ii)yn gydnabyddiaeth am unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth a dderbynnir gan unrhyw barti arall i’r cytundeb.

(6)Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig ymwneud â mwy nag un heneb neu fwy nag un darn o dir cysylltiedig.

(7)Yn yr adran hon ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu neu ei ddisgrifio mewn cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig.

26Darpariaeth bellach ynghylch cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig

(1)Rhaid i gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig fod yn ysgrifenedig.

(2)Rhaid i gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig—

(a)nodi’r heneb neu’r tir cysylltiedig y mae’n ymwneud â hi neu ag ef;

(b)disgrifio unrhyw waith y mae’n ymwneud ag ef;

(c)pennu’r dyddiad y mae’n cymryd effaith a’i hyd;

(d)gwneud darpariaeth i’r partïon adolygu telerau’r cytundeb ar ysbeidiau a bennir ynddo;

(e)gwneud darpariaeth ar gyfer ei amrywio (ond mae hyn yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan is-adran (5));

(f)gwneud darpariaeth ar gyfer ei derfynu (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 27).

(3)Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig gynnwys darpariaeth ddeilliadol a darpariaeth ganlyniadol.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu telerau eraill y mae rhaid eu cynnwys mewn cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)yr ymgynghoriad y mae rhaid iddo gael ei gynnal cyn i gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig gael ei wneud neu ei amrywio;

(b)y cyhoeddusrwydd y mae rhaid iddo gael ei roi i gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig cyn neu ar ôl iddo gael ei wneud neu ei amrywio.

(6)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (5)(a) ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn cyn gwneud cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb neu’r tir cysylltiedig y mae’r cytundeb arfaethedig yn ymwneud â hi neu ag ef;

(b)pob awdurdod lleol y mae’r heneb neu’r tir cysylltiedig yn ei ardal;

(c)unrhyw awdurdod lleol sydd, yn rhinwedd Pennod 6, yn warcheidwad ar yr heneb neu’r tir cysylltiedig.

(7)Ni chaiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig osod unrhyw rwymedigaeth neu unrhyw atebolrwydd ar berson nad yw’n barti i’r cytundeb, na rhoi unrhyw hawl i’r person hwnnw; ac nid yw cydsyniad heneb gofrestredig a roddir gan gytundeb o’r fath yn cael effaith ond er budd y partïon iddo.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddatgymhwyso, cymhwyso neu atgynhyrchu, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon at ddibenion cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig.

27Terfynu cytundeb neu ddarpariaeth mewn cytundeb

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn derfynu cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath.

(2)Caiff gorchymyn o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3)Caniateir i orchymyn o dan yr adran hon sy’n terfynu darpariaeth sy’n rhoi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer unrhyw waith gael ei wneud ar unrhyw adeg cyn cwblhau’r gwaith, ond nid yw’n effeithio ar gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith a gyflawnir cyn i’r gorchymyn gymryd effaith.

(4)Mae Atodlen 5 a pharagraff 1 o Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â gwneud gorchmynion o dan yr adran hon (gan gynnwys darparu ar gyfer hysbysiadau o derfyniad arfaethedig).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 5 neu 6, a chaiff y rheoliadau wneud diwygiadau canlyniadol i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon.

28Digollediad mewn perthynas â therfynu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru—

(a)yn cyflwyno hysbysiad o derfyniad arfaethedig, neu

(b)yn gwneud gorchymyn o dan adran 27,

mewn perthynas â chytundeb partneriaeth heneb gofrestredig.

(2)Mae gan unrhyw barti i’r cytundeb a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir y mae’r cytundeb yn gymwys iddi neu iddo hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt—

(a)am unrhyw wariant y mae’r parti yn mynd iddo wrth gyflawni gwaith a ddaw yn ofer oherwydd yr hysbysiad neu’r gorchymyn;

(b)am unrhyw golled arall neu unrhyw ddifrod arall a ddioddefir gan y parti y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r hysbysiad neu’r gorchymyn.

(3)At ddibenion yr adran hon mae gwariant yr eir iddo wrth lunio planiau at ddibenion unrhyw waith, neu ar faterion tebyg eraill sy’n baratoadol i unrhyw waith, i’w drin fel pe bai’n wariant yr eir iddo wrth gyflawni’r gwaith.

(4)Yn ddarostyngedig i hynny, nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon mewn cysylltiad—

(a)â gwaith a gyflawnwyd cyn i’r cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig, neu’r ddarpariaeth berthnasol yn y cytundeb, gymryd effaith, na

(b)â cholled arall neu ddifrod arall (ac eithrio colled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir) sy’n deillio o unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed cyn i’r cytundeb neu’r ddarpariaeth gymryd effaith.

(5)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hysbysiad o derfyniad arfaethedig neu’r gorchymyn yn cymryd effaith (yn ôl y digwydd).

29Dehongli

Yn y Bennod hon—

  • mae i “cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig” (“scheduled monument partnership agreement”) yr ystyr a roddir gan adran 25(1);

  • mae i “hysbysiad o derfyniad arfaethedig” (“notice of proposed termination”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 5;

  • ystyr “perchennog” (“owner”) yw—

    (a)

    perchennog ar yr ystad rydd-ddaliadol, neu

    (b)

    tenant o dan les a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill;

  • mae i “tir cysylltiedig” (“associated land”), mewn perthynas â heneb, yr ystyr a roddir gan adran 25(1)(b).

PENNOD 5GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD Â HENEBION COFRESTREDIG

Troseddau sy’n ymwneud â gwaith anawdurdodedig

30Y drosedd o gyflawni gwaith anawdurdodedig neu dorri amod mewn cydsyniad

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn cyflawni gwaith, neu’n peri neu’n caniatáu i waith gael ei gyflawni, mewn perthynas â heneb gofrestredig yn groes i adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi).

(2)Mae person hefyd yn cyflawni trosedd os yw’r person—

(a)yn cyflawni gwaith, neu’n peri neu’n caniatáu i waith gael ei gyflawni, mewn perthynas â heneb gofrestredig, a

(b)yn methu â chydymffurfio ag amod y rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig iddo ar gyfer y gwaith.

(3)Nid yw is-adran (2) yn cyfyngu ar yr hyn a all fod yn drosedd o dan is-adran (1).

(4)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1) mewn perthynas â heneb y rhoddir gwarchodaeth interim iddi—

(a)mae’n amddiffyniad i’r person brofi nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, bod y warchodaeth interim wedi ei rhoi, a

(b)pan fo’r amddiffyniad yn cael ei godi gan berson y dylai hysbysiad fod wedi cael ei gyflwyno iddo o dan adran 5(2), yr erlyniad sydd i brofi i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i’r person.

(5)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (2), mae’n amddiffyniad i’r person brofi iddo gymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi torri’r amod.

(6)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon mewn perthynas â gwaith o fewn adran 11(2)(a), mae’n amddiffyniad i’r person brofi iddo gymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi neu atal difrod i’r heneb.

(7)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon mewn perthynas â gwaith o fewn adran 11(2)(a) neu (c), mae’n amddiffyniad iddo brofi—

(a)ei fod, cyn cyflawni’r gwaith neu cyn peri neu ganiatáu i’r gwaith gael ei gyflawni, wedi cymryd pob cam rhesymol i ganfod a oedd heneb gofrestredig yn yr ardal yr oedd y gwaith yn effeithio arni, a

(b)nad oedd yn gwybod, ac nad oedd ganddo reswm dros gredu, bod yr heneb o fewn yr ardal yr oedd y gwaith yn effeithio arni neu (yn ôl y digwydd) ei bod yn heneb gofrestredig.

(8)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi—

(a)bod y gwaith yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd,

(b)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith, ac

(c)i hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn cyfiawnhau’n fanwl gyflawni’r gwaith gael ei roi i Weinidogion Cymru cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol.

(9)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

Hysbysiadau stop dros dro

31Pŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad stop dros dro

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad stop dros dro os ydynt yn ystyried—

(a)bod gwaith wedi cael ei gyflawni neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas â heneb gofrestredig sy’n golygu torri adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig iddo, a

(b)y dylai’r gwaith (neu unrhyw ran ohono) gael ei stopio ar unwaith, gan roi sylw i effaith y gwaith ar yr heneb fel un sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.

(2)Rhaid i hysbysiad stop dros dro—

(a)pennu’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef,

(b)gwahardd cyflawni’r gwaith (neu unrhyw ran o’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad),

(c)nodi rhesymau Gweinidogion Cymru dros ddyroddi’r hysbysiad, a

(d)datgan effaith adran 33 (y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru arddangos copi o hysbysiad stop dros dro ar yr heneb neu’r tir y mae’n ymwneud â hi neu ag ef, a rhaid i’r copi bennu’r dyddiad y caiff ei arddangos am y tro cyntaf.

(4)Ond—

(a)os nad yw’n rhesymol ymarferol arddangos copi o’r hysbysiad ar yr heneb neu’r tir, neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried y gallai arddangos copi o’r hysbysiad ar yr heneb neu’r tir ddifrodi’r heneb,

caiff Gweinidogion Cymru, yn lle hynny, arddangos copi mewn lle amlwg mor agos i’r heneb neu’r tir ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno copi o’r hysbysiad i unrhyw berson y maent yn ystyried—

(a)ei fod yn cyflawni’r gwaith y mae’r hysbysiad yn ei wahardd neu’n peri neu’n caniatáu iddo gael ei gyflawni,

(b)ei fod yn feddiannydd ar yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef, neu

(c)bod ganddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir.

32Hyd etc. hysbysiad stop dros dro

(1)Mae hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith pan arddangosir copi ohono yn unol ag adran 31 am y tro cyntaf.

(2)Mae hysbysiad stop dros dro yn peidio â chael effaith—

(a)ar ddiwedd 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod pan arddangosir y copi ohono yn unol ag adran 31 am y tro cyntaf, neu

(b)os yw’n pennu cyfnod byrrach sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(3)Ond os yw Gweinidogion Cymru yn tynnu’r hysbysiad yn ôl cyn diwedd y cyfnod y byddai fel arall yn cael effaith ar ei gyfer, mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith pan gaiff ei dynnu’n ôl.

(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi ail hysbysiad stop dros dro neu hysbysiad stop dros dro dilynol mewn perthynas â’r un gwaith oni bai eu bod, ers dyroddi’r hysbysiad blaenorol, wedi cymryd camau gorfodi eraill mewn perthynas â’r toriad y cyfeirir ato yn adran 31(1)(a).

(5)Yn is-adran (4) mae’r cyfeiriad at gymryd camau gorfodi eraill yn gyfeiriad at—

(a)dyroddi hysbysiad gorfodi o dan adran 35, neu

(b)cael gwaharddeb o dan adran 42.

33Y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, ar unrhyw adeg pan fydd hysbysiad stop dros dro yn cael effaith, yn cyflawni gwaith sydd wedi ei wahardd gan yr hysbysiad neu’n peri neu’n caniatáu i waith o’r fath gael ei gyflawni.

(2)Caniateir i berson gael ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon drwy gyfeirio at ddiwrnod neu gyfnod hwy, a chaniateir iddo gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad stop dros dro drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.

(3)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi nad oedd y person yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, am fodolaeth yr hysbysiad stop dros dro.

(4)Mewn achos am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad profi—

(a)bod y gwaith yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd,

(b)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith, ac

(c)i hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn cyfiawnhau’n fanwl gyflawni’r gwaith gael ei roi i Weinidogion Cymru cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

(6)Wrth benderfynu swm y ddirwy, rhaid i’r llys roi sylw yn benodol i unrhyw fudd ariannol sydd wedi cronni, neu yr ymddengys ei fod yn debygol o gronni, i’r person o ganlyniad i’r drosedd.

34Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan hysbysiad stop dros dro

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)na fo’r gwaith a bennir mewn hysbysiad stop dros dro, ar yr adeg y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith, yn golygu torri adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) nac amod y rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig iddo, neu

(b)bo Gweinidogion Cymru yn tynnu’n ôl hysbysiad stop dros dro ar ôl iddo gymryd effaith.

(2)Nid yw’r adran hon yn gymwys yn rhinwedd is-adran (1)(b) pan—

(a)bo cydsyniad heneb gofrestredig wedi ei roi ar gyfer y gwaith a bennir yn yr hysbysiad stop dros dro ar ôl i’r hysbysiad gymryd effaith, a

(b)bo Gweinidogion Cymru yn tynnu’r hysbysiad yn ôl ar ôl i’r cydsyniad hwnnw gael ei roi.

(3)Mae gan unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef ar‍ yr adeg y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw golled neu unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i effaith yr hysbysiad.

(4)Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir drwy gymryd camau gweithredu sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad.

(5)Nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon am golled neu ddifrod y gallai’r hawlydd fod wedi ei hosgoi neu ei osgoi—

(a)drwy ddarparu gwybodaeth yr oedd hysbysiad gwybodaeth a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 197 yn ei gwneud yn ofynnol i’r hawlydd ei darparu, neu

(b)drwy gydweithredu â Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd arall wrth ymateb i hysbysiad o’r fath.

(6)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau—

(a)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1)(a) ond nid o fewn is-adran (1)(b), â’r diwrnod y mae’r hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith;

(b)mewn achos sy’n dod o fewn is-adran (1)(b), â’r diwrnod y mae’r hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

Hysbysiadau gorfodi

35Pŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad gorfodi

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad gorfodi os ydynt yn ystyried—

(a)bod gwaith sy’n golygu torri adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig iddo wedi cael neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas â heneb gofrestredig neu dir y mae’r heneb ynddo, arno neu odano, a

(b)ei bod yn briodol dyroddi’r hysbysiad, gan roi sylw i effaith y gwaith ar yr heneb fel un sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.

(2)Rhaid i hysbysiad gorfodi—

(a)pennu’r toriad honedig, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i waith a bennir yn yr hysbysiad gael ei stopio, neu ei gwneud yn ofynnol i gamau a bennir yn yr hysbysiad gael eu cymryd at un neu ragor o’r dibenion a nodir yn is-adran (3).

(3)Y dibenion yw—

(a)adfer yr heneb neu’r tir i’w chyflwr neu ei gyflwr cyn i’r toriad ddigwydd,

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried na fyddai adfer yn rhesymol ymarferol neu y byddai’n annymunol, cyflawni gwaith pellach i leddfu effaith y toriad, neu

(c)rhoi’r heneb neu’r tir yn y cyflwr y byddai wedi bod ynddo pe cydymffurfiwyd â thelerau unrhyw gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer y gwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y cydsyniad).

(4)Pan fo hysbysiad gorfodi yn gosod gofyniad o dan is-adran (3)(b), mae cydsyniad heneb gofrestredig i’w drin fel pe bai wedi ei roi ar gyfer unrhyw waith sydd wedi ei gyflawni yn unol â’r gofyniad.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cynnal rhestr o bob heneb y mae hysbysiad gorfodi mewn grym mewn cysylltiad â hi a chyhoeddi’r rhestr gyfredol, a

(b)darparu copi o’r hysbysiad gorfodi sy’n ymwneud â heneb yn y rhestr i unrhyw berson sy’n gofyn am gopi.

36Cyflwyno hysbysiad gorfodi a’r hysbysiad yn cymryd effaith

(1)Rhaid i hysbysiad gorfodi bennu—

(a)y dyddiad y mae i gymryd effaith, a

(b)o fewn pa gyfnod y mae rhaid stopio’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad neu y mae rhaid cymryd y camau a bennir ynddo.

(2)Mae’r hysbysiad yn cymryd effaith ar ddechrau’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1)(a); ond pan fo apêl yn cael ei gwneud yn erbyn yr hysbysiad o dan adran 39, mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (4) o’r adran honno.

(3)Caiff hysbysiad gorfodi bennu cyfnodau gwahanol ar gyfer stopio gwaith gwahanol neu gymryd camau gwahanol.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyroddi hysbysiad gorfodi, rhaid iddynt gyflwyno copi o’r hysbysiad—

(a)i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef;

(b)os yw’r heneb neu’r tir wedi ei gosod neu ei osod ond nad y lesddeiliad yw’r meddiannydd, i’r lesddeiliad, ac

(c)i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr hysbysiad yn effeithio’n sylweddol arno.

(5)Rhaid‍ cyflwyno pob copi o’r hysbysiad—

(a)cyn diwedd 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a

(b)o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae i gymryd effaith.

37Amrywio hysbysiad gorfodi a thynnu hysbysiad gorfodi yn ôl

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyroddi hysbysiad gorfodi, cânt—

(a)tynnu’r hysbysiad yn ôl;

(b)hepgor neu lacio unrhyw ofyniad yn yr hysbysiad, ac yn benodol estyn y cyfnod y mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei stopio neu unrhyw gam gael ei gymryd ynddo.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwerau yn is-adran (1) pa un a yw’r hysbysiad wedi cymryd effaith ai peidio.

(3)Nid yw tynnu hysbysiad gorfodi yn ôl yn atal Gweinidogion Cymru rhag dyroddi hysbysiad gorfodi arall.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan oedd Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno copïau o’r hysbysiad gorfodi o dan adran 36(4) cyn arfer y pwerau yn is-adran (1).

(5)Yn union ar ôl arfer unrhyw un o’r pwerau hynny, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad eu bod wedi gwneud hynny i bob person y cyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi iddo (neu y byddai copi o’r hysbysiad yn cael ei gyflwyno iddo pe bai’n cael ei ailddyroddi).

38Effaith rhoi cydsyniad heneb gofrestredig ar hysbysiad gorfodi

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os rhoddir, ar ôl i hysbysiad gorfodi gael ei ddyroddi, gydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13(2)—

(a)sy’n awdurdodi unrhyw waith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef sydd wedi ei gyflawni yn groes i adran 11, neu

(b)sy’n awdurdodi gwaith sy’n golygu torri amod y rhoddwyd cydsyniad blaenorol yn ddarostyngedig iddo.

(2)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith (neu nid yw’n cymryd effaith) i’r graddau y mae’n—

(a)ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd sy’n anghyson â’r awdurdodiad i’r gwaith, neu

(b)ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’r amod.

(3)Nid yw’r ffaith bod hysbysiad gorfodi wedi peidio â chael effaith yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn rhinwedd yr adran hon yn effeithio ar atebolrwydd unrhyw berson am drosedd mewn cysylltiad â methiant blaenorol i gydymffurfio â’r hysbysiad (gweler adran 41).

39Apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi

(1)Caiff person y cyflwynir copi o hysbysiad gorfodi iddo, neu unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef, apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.

(2)Caniateir gwneud apêl ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—

(a)nad yw’r materion yr honnir eu bod yn torri adran 11 neu amod mewn cydsyniad heneb gofrestredig wedi digwydd;

(b)nad yw’r materion hynny (os digwyddasant) yn doriad o’r fath;

(c)bod yr amodau canlynol wedi eu bodloni—

(i)bod gwaith i’r heneb neu’r tir yn angenrheidiol ar frys er lles diogelwch neu iechyd,

(ii)bod y gwaith a gyflawnwyd wedi ei gyfyngu i isafswm y mesurau a oedd yn angenrheidiol ar unwaith, a

(iii)i hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn cyfiawnhau’n fanwl fod angen y gwaith gael ei roi i Weinidogion Cymru cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol;

(d)na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi i berson fel yr oedd yn ofynnol gan adran 36;

(e)bod y cyfnod y mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei stopio neu unrhyw gamau gael eu cymryd ynddo yn afresymol o fyr.

(3)Rhaid i apêl gael ei gwneud cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae i gymryd effaith.

(4)Pan fo apêl yn cael ei gwneud, nid yw’r hysbysiad yn cael effaith hyd nes bod yr apêl yn cael ei phenderfynu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.

(5)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff llys ynadon gadarnhau’r hysbysiad neu ei ddiddymu.

(6)Caiff y llys gadarnhau hysbysiad hyd yn oed os na chyflwynwyd copi ohono i berson yr oedd adran 36 yn ei gwneud yn ofynnol i gopi gael ei gyflwyno iddo, os yw’r llys wedi ei fodloni nad yw’r methiant wedi cael effaith andwyol sylweddol ar y person.

40Pwerau i fynd ar dir a chymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi

(1)Os yw’r cyfnod y mae hysbysiad gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam gael ei gymryd ynddo wedi dod i ben ac nad yw’r cam wedi ei gymryd, caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru—

(a)mynd ar y tir y mae’r heneb ynddo, arno neu odano a chymryd y cam, a

(b)adennill oddi wrth berson sydd ar y pryd yn berchennog neu’n lesddeiliad ar yr heneb neu’r tir y costau yr aed iddynt wrth wneud hynny.

(2)Mae’r atebolrwydd o dan is-adran (1) sydd gan berson sy’n berchennog heneb neu dir dim ond yn rhinwedd bod ganddo hawlogaeth i gael y crogrent fel ymddiriedolwr ar gyfer person arall wedi ei gyfyngu i gyfanswm yr arian sydd gan y person, neu y mae’r person wedi ei gael, yn rhinwedd yr hawlogaeth honno.

(3)Pan fo llys ynadon, ar gais drwy gŵyn a wneir gan berchennog ar heneb gofrestredig neu dir, wedi ei fodloni bod meddiannydd ar yr heneb neu’r tir yn atal y perchennog rhag cymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi, caiff y llys drwy warant awdurdodi’r perchennog i fynd ar y tir a chymryd y camau.

41Y drosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi

(1)Pan, ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod y mae hysbysiad gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei stopio neu i unrhyw gam gael ei gymryd ynddo, fo’r gwaith yn cael ei gyflawni neu na fo’r cam wedi ei gymryd, mae person sydd ar y pryd yn berchennog ar yr heneb gofrestredig neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef yn euog o drosedd.

(2)Caniateir i berson gael ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon drwy gyfeirio at ddiwrnod neu at gyfnod hwy, a chaniateir i berson gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad gorfodi drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.

(3)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r person brofi—

(a)iddo wneud popeth y gellid bod wedi disgwyl iddo ei wneud i sicrhau i’r gwaith a bennwyd yn yr hysbysiad gael ei stopio neu i’r camau a oedd yn ofynnol gan yr hysbysiad gael eu cymryd, neu

(b)nad oedd yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, am fodolaeth yr hysbysiad gorfodi.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

(5)Wrth benderfynu swm y ddirwy, rhaid i’r llys roi sylw yn benodol i unrhyw fudd ariannol sydd wedi cronni, neu yr ymddengys ei fod yn debygol o gronni, i’r person o ganlyniad i’r drosedd.

Gwaharddebau

42Gwaharddeb i atal gwaith anawdurdodedig neu fethiant i gydymffurfio ag amod mewn cydsyniad

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i’r Uchel Lys neu’r llys sirol am waharddeb sy’n atal—

(a)toriad gwirioneddol neu doriad disgwyliedig o adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) mewn perthynas â heneb gofrestredig neu dir y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano, neu

(b)methiant gwirioneddol neu fethiant disgwyliedig i gydymffurfio ag amod mewn cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith i heneb gofrestredig.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais pa un a ydynt wedi arfer, neu’n cynnig arfer, unrhyw un neu ragor o’u pwerau eraill o dan y Rhan hon ai peidio.

(3)Caiff y llys roi gwaharddeb ar unrhyw delerau y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben atal y toriad.

PENNOD 6CAFFAEL, GWARCHEIDIAETH A MYNEDIAD Y CYHOEDD

Caffael henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

43Caffael yn orfodol henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gaffael yn orfodol unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig at ddiben sicrhau ei diogelu.

(2)Mae Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67) yn gymwys i gaffaeliad o dan yr adran hon.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys at ddiben asesu digollediad am unrhyw gaffaeliad o dan yr adran hon o heneb sy’n heneb gofrestredig yn union cyn y diwrnod y gwneir y gorchymyn prynu gorfodol.

(4)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, mae i’w thybio na fyddai cydsyniad heneb gofrestredig yn cael ei roi ar gyfer unrhyw waith a fyddai’n arwain neu a allai arwain at ddymchwel, dinistrio neu symud ymaith yr heneb neu unrhyw ran ohoni.

44Caffael drwy gytundeb neu rodd henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gaffael drwy gytundeb unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig.

(2)Caiff awdurdod lleol gaffael drwy gytundeb unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod lleol dderbyn rhodd (pa un ai drwy weithred neu ewyllys) o unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig.

(4)Mae Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) yn gymwys (i’r graddau y mae’n berthnasol) i gaffaeliad o dan yr adran hon, ac eithrio adrannau 4 i 8, adran 10 ac adran 31 o’r Ddeddf honno.

Gwarcheidiaeth henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

45Pŵer i osod heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig o dan warcheidiaeth

(1)Caiff person sydd â buddiant cymhwysol mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, gyda chytundeb Gweinidogion Cymru, eu penodi drwy weithred yn warcheidwaid yr heneb.

(2)Caiff person sydd â buddiant cymhwysol mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, gyda chytundeb unrhyw awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal, benodi’r awdurdod drwy weithred yn warcheidwad yr heneb.

(3)Ni chaiff person nad yw’n feddiannydd heneb sefydlu gwarcheidiaeth yr heneb o dan yr adran hon oni bai bod y meddiannydd hefyd yn barti i’r weithred.

(4)Caiff unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb fod yn barti i’r weithred yn ogystal â’r person sy’n sefydlu gwarcheidiaeth yr heneb a (phan nad y person hwnnw yw’r meddiannydd) y meddiannydd.

(5)Mae’r buddiannau a ganlyn mewn heneb yn fuddiannau cymhwysol at ddibenion yr adran hon—

(a)ystad rydd-ddaliadol;

(b)ystad lesddaliadol, neu fuddiant mewn meddiant—

(i)sydd ag o leiaf 45 o flynyddoedd yn weddill, neu

(ii)y gellir ei hadnewyddu neu ei adnewyddu am o leiaf 45 o flynyddoedd;

(c)buddiant mewn meddiant am oes y person ei hun neu oes person arall, neu am oesau (pa un a ydynt yn cynnwys oes y person ei hun ai peidio), o dan unrhyw ymddiriedolaeth tir bresennol neu yn y dyfodol pan fo’r ystad neu’r buddiant sy’n ddarostyngedig i’r ymddiriedolaeth yn dod o fewn paragraff (a) neu (b).

(6)Yn is-adran (5)(c) mae i “ymddiriedolaeth tir” yr un ystyr ag a roddir i “trust of land” yn Neddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (p. 47).

(7)Yn y Bennod hon ystyr “gweithred warcheidiaeth” yw gweithred a gyflawnir o dan is-adran (1) neu (2).

46Darpariaeth atodol ynghylch gweithredoedd gwarcheidiaeth

(1)Mae gweithred warcheidiaeth yn bridiant tir lleol.

(2)Mae pob person y mae ei deitl i heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn deillio o, drwy neu o dan unrhyw berson sydd wedi cyflawni gweithred warcheidiaeth wedi ei rwymo gan y weithred oni bai mai yn rhinwedd unrhyw warediad a wnaed gan y person a gyflawnodd y weithred, cyn dyddiad y weithred honno, y mae teitl y person yn deillio.

(3)Ni chaiff Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol ddod yn warcheidwaid adeilad neu strwythur a feddiennir fel annedd gan unrhyw berson ac eithrio gofalwr yr adeilad neu’r strwythur neu aelod o deulu’r gofalwr.

(4)Mae gan unrhyw berson a chanddo unrhyw ystad neu unrhyw fuddiant mewn heneb sydd o dan warcheidiaeth yr un hawl a’r un teitl i’r heneb, a’r un ystad neu’r un buddiant ynddi, ym mhob cyswllt fel pe na bai’r heneb o dan warcheidiaeth; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y Rhan hon.

47Swyddogaethau cyffredinol gwarcheidwaid

(1)Rhaid i warcheidwad heneb ei chynnal a’i chadw, a chaiff wneud unrhyw beth y mae’r gwarcheidwad yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ar gyfer ei chynnal a’i chadw.

(2)Gwarcheidwad yr heneb sy’n ei rheolaethu ac yn ei rheoli’n llawn, a chaiff wneud unrhyw beth y mae’r gwarcheidwad yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ar gyfer ei rheolaethu a’i rheoli’n briodol.

(3)Mae’r pwerau yn is-adrannau (1) a (2) yn cynnwys pŵer i—

(a)gwneud unrhyw archwiliad o’r heneb;

(b)agor yr heneb neu wneud cloddiadau ohoni at ddiben archwilio neu fel arall;

(c)symud y cyfan neu unrhyw ran o’r heneb ymaith i fan arall at ddibenion ei diogelu.

(4)Mae’r pŵer yn is-adran (2) yn cynnwys pŵer i’w gwneud yn ofynnol talu tâl mewn cysylltiad ag unrhyw ddefnydd o’r heneb.

(5)Caiff gwarcheidwad heneb fynd i safle’r heneb at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o bwerau’r gwarcheidwad o dan yr adran hon mewn perthynas â hi (a chaiff awdurdodi unrhyw berson arall i fynd i’r safle ac arfer y pwerau hynny ar ei ran).

(6)Mae is-adrannau (2) i (4) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y weithred warcheidiaeth.

48Terfynu gwarcheidiaeth

(1)Caiff gwarcheidwad heneb gytuno â’r personau y mae gweithrediad y weithred warcheidiaeth, am y tro, yn cael effaith uniongyrchol arnynt—

(a)i eithrio unrhyw ran o’r heneb o’r warcheidiaeth, neu

(b)i ildio gwarcheidiaeth yr heneb.

(2)Yn absenoldeb cytundeb o’r fath, mae heneb yn parhau i fod o dan warcheidiaeth (oni bai ei bod yn cael ei chaffael gan ei gwarcheidwad) hyd nes bod meddiannydd ar yr heneb sydd â hawlogaeth i derfynu’r warcheidiaeth yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i warcheidwad yr heneb.

(3)Mae gan feddiannydd ar heneb hawlogaeth i derfynu gwarcheidiaeth yr heneb—

(a)os oes gan y meddiannydd fuddiant cymhwysol (o fewn ystyr adran 45(5)) yn yr heneb, a

(b)os nad yw’r meddiannydd wedi ei rwymo gan y weithred warcheidiaeth.

(4)Rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud cytundeb o dan is-adran (1).

(5)Ni chaiff gwarcheidwad heneb wneud cytundeb o dan is-adran (1) oni bai bod y gwarcheidwad wedi ei fodloni, mewn cysylltiad â’r rhan o’r heneb neu’r heneb gyfan (yn ôl y digwydd)—

(a)bod trefniadau boddhaol wedi eu gwneud i sicrhau y caiff ei diogelu ar ôl terfynu’r warcheidiaeth, neu

(b)nad yw’n ymarferol ei diogelu mwyach (pa un ai oherwydd y gost o’i diogelu neu fel arall).

(6)Rhaid i gytundeb o dan is-adran (1) gael ei wneud o dan sêl.

(7)At ddibenion is-adran (1) mae gweithrediad gweithred warcheidiaeth sy’n ymwneud â heneb yn cael effaith uniongyrchol ar berson os yw’r person wedi ei rwymo gan y weithred honno a bod yr heneb yn ei feddiant neu yn ei feddiannaeth.

Caffael a gwarcheidiaeth tir yng nghyffiniau heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig etc.

49Caffael a gwarcheidiaeth tir yng nghyffiniau heneb

(1)Mae cyfeiriadau yn adrannau 43 i 46 at heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn cynnwys unrhyw dir sy’n cydffinio â’r heneb neu sydd yn ei chyffiniau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried, neu (yn ôl y digwydd) y mae awdurdod lleol yn ystyried, bod ei angen yn rhesymol at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn is-adran (2).

(2)Y dibenion yw—

(a)cynnal a chadw’r heneb neu ei hamwynderau;

(b)storio offer neu ddeunyddiau ar gyfer cynnal a chadw’r heneb neu ei hamwynderau;

(c)darparu neu hwyluso mynediad i’r heneb;

(d)rheolaethu neu reoli’r heneb yn briodol;

(e)darparu cyfleusterau a gwasanaethau i’r cyhoedd ar gyfer darparu mynediad y cyhoedd i’r heneb neu mewn cysylltiad â darparu mynediad o’r fath.

(3)Mae’r pŵer i gaffael yn orfodol yn adran 43(1), fel y mae’n gymwys yn rhinwedd is-adran (1) o’r adran hon, i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn adran 49(2)” wedi eu rhoi yn lle “at ddiben sicrhau ei diogelu”.

(4)Caniateir i dir gael ei gaffael neu ei gymryd i warcheidiaeth yn rhinwedd yr adran hon naill ai ar yr un pryd â’r heneb neu’n ddiweddarach.

(5)Mae person sy’n warcheidwad unrhyw dir yn rhinwedd yr adran hon yn ei reolaethu ac yn ei reoli’n llawn, a chaiff wneud unrhyw beth y mae’r gwarcheidwad yn ystyried ei fod yn angenrheidiol—

(a)ar gyfer ei reolaethu a’i reoli’n briodol (gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol talu tâl mewn cysylltiad ag unrhyw ddefnydd o’r tir), a

(b)ar gyfer defnyddio’r tir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn is-adran (2) sy’n ymwneud â’r heneb.

(6)Caiff person sy’n warcheidwad unrhyw dir yn rhinwedd yr adran hon fynd ar y tir at ddiben arfer pwerau’r gwarcheidwad o dan is-adran (5) (a chaiff awdurdodi unrhyw berson arall i fynd i’r safle ac i arfer y pwerau hynny, ar ei ran).

(7)Mae adrannau 48(1) i (4) a (7) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dir a gymerir i warcheidiaeth yn rhinwedd yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn perthynas â heneb.

(8)Ar wahân i unrhyw derfyniad o warcheidiaeth yn rhinwedd adran 48, mae gwarcheidiaeth unrhyw dir o’r fath hefyd yn dod i ben os yw’r heneb o dan sylw—

(a)yn peidio â bod o dan warcheidiaeth ac eithrio yn rhinwedd cael ei chaffael gan ei gwarcheidwaid, neu

(b)yn peidio â bodoli.

(9)Pan fo Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn berchen ar heneb neu pan fo heneb o dan eu gwarcheidiaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon, mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at dir sy’n gysylltiedig â’r heneb honno (neu at dir cysylltiedig) yn gyfeiriadau at—

(a)unrhyw dir a gaffaelir neu a gymerir i warcheidiaeth yn rhinwedd yr adran hon at ddiben a grybwyllir yn is-adran (2), neu

(b)unrhyw dir a neilltuir at unrhyw ddiben o’r fath o dan bŵer a roddir gan unrhyw ddeddfiad arall.

50Caffael hawddfreintiau a hawliau tebyg eraill dros dir yng nghyffiniau heneb

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gaffael hawddfraint dros dir sy’n cydffinio ag unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth yn rhinwedd y Bennod hon neu sydd yn ei chyffiniau, os ydynt yn ystyried bod angen yr hawddfraint—

(a)at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn adran 49(2) sy’n ymwneud â’r heneb honno, neu

(b)ar gyfer defnyddio unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb honno at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hynny.

(2)Caniateir i gaffaeliad o dan is-adran (1) gael ei wneud drwy gytundeb neu’n orfodol.

(3)Caiff awdurdod lleol gaffael hawddfraint dros dir sy’n cydffinio ag unrhyw heneb sydd o dan ei berchnogaeth yn rhinwedd y Bennod hon neu sydd yn ei chyffiniau, os yw’n ymddangos iddo fod angen yr hawddfraint—

(a)at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn adran 49(2) sy’n ymwneud â’r heneb honno, neu

(b)ar gyfer defnyddio unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb honno at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hynny.

(4)Ni chaniateir i gaffaeliad o dan is-adran (3) gael ei wneud ond drwy gytundeb.

(5)Caiff gwarcheidwad heneb neu unrhyw dir gaffael, er budd yr heneb neu’r tir, hawl berthnasol dros dir sy’n cydffinio â’r heneb neu’r tir neu sydd yn ei chyffiniau neu ei gyffiniau, os yw’r gwarcheidwad yn ystyried bod angen yr hawl—

(a)at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn adran 49(2) sy’n ymwneud â’r heneb honno neu’r tir hwnnw, neu

(b)ar gyfer defnyddio unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb honno neu’r tir hwnnw at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hynny.

(6)At ddibenion is-adran (5) ystyr “hawl berthnasol” yw hawl (o unrhyw ddisgrifiad) a fyddai’n hawddfraint pe bai’n cael ei chaffael gan berchennog ar yr heneb neu’r tir o dan sylw.

(7)O ran caffael hawl o dan is-adran (5)—

(a)yn achos Gweinidogion Cymru, caniateir ei wneud drwy gytundeb neu’n orfodol;

(b)yn achos awdurdod lleol, ni chaniateir ei wneud ond drwy gytundeb.

(8)O ran hawl a gaffaelir o dan is-adran (5)—

(a)mae i’w thrin at ddibenion ei chaffael o dan yr adran hon ac ym mhob cyswllt arall fel pe bai’n hawddfraint gyfreithiol, a

(b)caniateir iddi gael ei gorfodi gan y gwarcheidwaid am y tro ar yr heneb neu’r tir y’i caffaelwyd er ei budd neu ei fudd fel pe baent yn berchennog mewn meddiant ar rydd-daliad yr heneb honno neu’r tir hwnnw.

(9)Os yw’r amod yn is-adran (10) wedi ei fodloni mewn perthynas â heneb, caniateir i hawl a gaffaelir o dan is-adran (5) drwy gytundeb —

(a)cael ei dirymu gan y grantwr, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y cytundeb y’i caffaelwyd odano, a

(b)cael ei dirymu gan unrhyw olynydd yn nheitl y grantwr mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r tir y mae’n arferadwy drosto ac y mae gan yr olynydd fuddiant ynddo.

(10)Yr amod a grybwyllir yn is-adran (9) yw bod yr heneb—

(a)yn peidio â bod o dan warcheidiaeth ac eithrio yn rhinwedd cael ei chaffael gan ei gwarcheidwaid, neu

(b)yn peidio â bodoli.

(11)Mae hawl a gaffaelir o dan is-adran (5) yn bridiant tir lleol.

(12)Mae’r pwerau caffael yn yr adran hon yn cynnwys pŵer i gaffael hawddfraint neu hawl drwy roi hawl newydd.

(13)Mae Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67) yn gymwys i unrhyw gaffaeliad gorfodol o dan yr adran hon.

(14)Mae Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) yn gymwys (i’r graddau y mae’n berthnasol) i gaffaeliad drwy gytundeb o dan yr adran hon, ac eithrio adrannau 4 i 8, adran 10 ac adran 31 o’r Ddeddf honno.

Cytundebau â meddianwyr henebion neu dir sy’n cydffinio etc.

51Cytundebau ynghylch rheoli henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig a thir yn eu cyffiniau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cytundeb o dan yr adran hon—

(a)ag unrhyw feddiannydd ar heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, neu

(b)ag unrhyw feddiannydd ar dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yn ei chyffiniau.

(2)Caiff awdurdod lleol wneud cytundeb o dan yr adran hon—

(a)ag unrhyw feddiannydd ar heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal, neu

(b)ag unrhyw feddiannydd ar dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yn ei chyffiniau.

(3)Cyfeirir at gytundeb o dan yr adran hon yn y Rhan hon fel “cytundeb rheoli”.

(4)Caiff unrhyw berson a chanddo fuddiant mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig neu mewn unrhyw dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yn ei chyffiniau fod yn barti i gytundeb rheoli (yn ogystal â’r meddiannydd).

(5)Caiff cytundeb rheoli—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch cynnal a chadw a diogelu’r heneb a’i hamwynderau (gan gynnwys, pan fo cytundeb wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, ddarpariaeth sy’n rhoi cydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13(1) ar gyfer gwaith cynnal a chadw neu ddiogelu penodedig);

(b)gwneud darpariaeth ynghylch cyflawni gwaith penodedig, neu wneud unrhyw beth penodedig, mewn perthynas â’r heneb neu’r tir;

(c)darparu ar gyfer mynediad y cyhoedd i’r heneb neu’r tir a darparu cyfleusterau cysylltiedig, gwybodaeth gysylltiedig neu wasanaethau cysylltiedig i’r cyhoedd;

(d)cyfyngu ar fynediad i’r heneb neu’r tir neu’r defnydd o’r heneb neu’r tir;

(e)gwahardd gwneud unrhyw beth penodedig mewn perthynas â’r heneb neu’r tir;

(f)darparu i Weinidogion Cymru neu’r awdurdod lleol (yn ôl y digwydd) wneud taliadau o symiau penodedig ac ar delerau penodedig—

(i)am gost unrhyw waith y darperir ar ei gyfer o dan y cytundeb, neu tuag at y gost honno, neu

(ii)yn gydnabyddiaeth am unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth a dderbynnir gan unrhyw barti arall i’r cytundeb.

(6)Caiff cytundeb rheoli hefyd gynnwys darpariaethau deilliadol a chanlyniadol.

(7)Pan fo cytundeb rheoli a wneir gan Weinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r cytundeb bennu’r amodau hynny.

(8)Mae is-adran (9) yn gymwys pan fo cytundeb rheoli yn darparu’n benodol fod y cytundeb yn ei gyfanrwydd neu unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth sy’n codi odano i rwymo olynwyr unrhyw barti i’r cytundeb.

(9)Mae pob person y mae ei deitl i‘r heneb neu’r tir o dan sylw yn deillio o’r parti hwnnw, drwyddo neu odano wedi ei rwymo gan y cytundeb, neu gan y cyfyngiad hwnnw, y gwaharddiad hwnnw neu’r rhwymedigaeth honno, oni bai mai yn rhinwedd unrhyw warediad a wnaed gan y parti hwnnw, cyn dyddiad y cytundeb, y mae teitl y person yn deillio.

(10)Nid yw adran 84 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (p. 20) (pŵer yr Uwch Dribiwnlys i ryddhau neu addasu cyfamodau cyfyngol) yn gymwys i gytundeb rheoli.

(11)Yn yr adran hon ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu neu ei ddisgrifio mewn cytundeb rheoli.

Pwerau perchnogion cyfyngedig

52Pwerau perchnogion cyfyngedig at ddibenion adrannau 45, 50 a 51

(1)Caiff person sefydlu gwarcheidiaeth heneb neu dir o dan adran 45 neu ymuno i gyflawni gweithred warcheidiaeth o dan yr adran honno, er mai perchennog cyfyngedig ar yr heneb neu’r tir ydyw.

(2)Caiff person roi hawddfraint neu hawl arall dros dir y mae Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod lleol wedi eu hawdurdodi neu ei awdurdodi i’w chaffael o dan adran 50, er mai perchennog cyfyngedig ar y tir ydyw.

(3)Caiff person wneud cytundeb rheoli o dan adran 51 mewn cysylltiad â heneb neu dir, er mai perchennog cyfyngedig ar yr heneb neu’r tir ydyw.

(4)At ddibenion yr adran hon—

(a)mae corff corfforedig neu gorfforaeth undyn yn berchennog cyfyngedig ar unrhyw dir y mae ganddo neu ganddi fuddiant ynddo, a

(b)mae unrhyw bersonau eraill yn berchnogion cyfyngedig ar dir y mae ganddynt fuddiant ynddo os ydynt yn dal y buddiant hwnnw yn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn is-adran (5).

(5)Y ffyrdd o ddal buddiant mewn tir y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yw—

(a)fel tenant am oes neu berchennog statudol (o fewn yr ystyr a roddir i “tenant for life” a “statutory owner” gan Ddeddf Tir Setledig 1925 (p. 18));

(b)fel ymddiriedolwyr tir (o fewn yr ystyr a roddir i “trustees of land” gan Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (p. 47));

(c)fel ymddiriedolwyr ar gyfer elusennau neu gomisiynwyr neu ymddiriedolwyr at ddibenion eglwysig, dibenion colegol neu ddibenion cyhoeddus eraill.

(6)Pan fo person sy’n berchennog cyfyngedig ar unrhyw dir yn rhinwedd dal buddiant yn y tir yn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn is-adran (5) yn cyflawni gweithred warcheidiaeth mewn perthynas â’r tir, mae’r weithred warcheidiaeth yn rhwymo pob perchennog olynol ar unrhyw ystad neu unrhyw fuddiant yn y tir.

(7)Ond pan fo’r tir, ar ddyddiad y weithred, yn ddarostyngedig i unrhyw lyffethair nad oes modd i’r perchennog cyfyngedig ei gorgyrraedd wrth arfer unrhyw bwerau gwerthu neu reoli a roddir i’r perchennog cyfyngedig gan y gyfraith neu o dan unrhyw setliad neu unrhyw offeryn arall, nid yw’r weithred yn rhwymo’r llyffetheiriwr.

(8)Pan fo cytundeb rheoli o dan adran 51 y mae perchennog cyfyngedig yn barti iddo yn darparu’n benodol fod y cytundeb yn ei gyfanrwydd neu unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth sy’n codi o dan y cytundeb yn rhwymo olynwyr y perchennog cyfyngedig, mae is-adrannau (9) a (10) yn gymwys i’r cytundeb neu (yn ôl y digwydd) i’r cyfyngiad, y gwaharddiad neu’r rhwymedigaeth o dan sylw.

(9)Pan fo person yn berchennog cyfyngedig yn rhinwedd dal buddiant yn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn is-adran (5), mae’r cytundeb neu’r cyfyngiad, y gwaharddiad neu’r rhwymedigaeth yn rhwymo pob perchennog olynol ar unrhyw ystad neu unrhyw fuddiant yn y tir.

(10)Ond pan fo’r tir, ar ddyddiad y cytundeb, yn ddarostyngedig i unrhyw lyffethair nad oes modd i’r perchennog cyfyngedig ei gorgyrraedd wrth arfer pwerau gwerthu neu reoli a roddir i’r perchennog cyfyngedig gan y gyfraith neu o dan unrhyw setliad neu unrhyw offeryn arall, nid yw’r cytundeb neu’r cyfyngiad, y gwaharddiad neu’r rhwymedigaeth yn rhwymo’r llyffetheiriwr.

Trosglwyddo perchnogaeth neu warcheidiaeth a gwaredu tir

53Trosglwyddo henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig rhwng awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn berchnogion neu’n warcheidwaid heneb neu dir cysylltiedig, cânt drosglwyddo perchnogaeth neu warcheidiaeth yr heneb honno neu’r tir hwnnw i unrhyw awdurdod lleol.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn berchennog neu’n warcheidwad heneb neu dir cysylltiedig, caiff drosglwyddo perchnogaeth neu warcheidiaeth yr heneb honno neu’r tir hwnnw—

(a)i Weinidogion Cymru, neu

(b)i awdurdod lleol arall.

(3)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol drosglwyddo gwarcheidiaeth heneb neu dir cysylltiedig o dan yr adran hon heb gytundeb y personau y mae gweithrediad y weithred warcheidiaeth, am y tro, yn cael effaith uniongyrchol arnynt.

(4)At ddibenion is-adran (3) mae gweithrediad gweithred warcheidiaeth sy’n ymwneud â heneb neu dir yn cael effaith uniongyrchol ar berson os yw’r person wedi ei rwymo gan y weithred honno a bod yr heneb neu’r tir yn ei feddiant neu yn ei feddiannaeth.

54Gwaredu tir a gaffaelir o dan y Bennod hon

(1)Caiff Gweinidogion Cymru waredu unrhyw dir a gaffaelir ganddynt o dan adran 43, 44 neu 53.

(2)Caiff awdurdod lleol waredu unrhyw dir a gaffaelir ganddo o dan adran 44 neu 53, ond rhaid iddo ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud hynny.

(3)Pan fo’r tir a waredir o dan yr adran hon yn heneb neu’n cynnwys heneb, rhaid i’r gwarediad gael ei wneud ar delerau y mae’r person sy’n gwaredu’r tir yn ystyried y byddant yn sicrhau y caiff yr heneb ei diogelu.

(4)Ond nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw’r person sy’n gwaredu’r tir yn ystyried nad yw’n ymarferol diogelu’r heneb mwyach (pa un ai oherwydd y gost o’i diogelu neu fel arall).

Mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddus

55Mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddus

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ac unrhyw awdurdod lleol sicrhau bod gan y cyhoedd fynediad i unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth neu warcheidiaeth neu ei berchnogaeth neu warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon; ond mae hyn yn ddarostyngedig—

(a)i’r darpariaethau a ganlyn yn yr adran hon,

(b)i unrhyw reoliadau neu is-ddeddfau a wneir o dan adran 56, ac

(c)i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw gytundeb sy’n ymwneud â’r heneb a wneir o dan adran 25 neu 51 (cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig a chytundebau rheoli).

(2)Mewn perthynas ag unrhyw heneb o dan warcheidiaeth, mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (1) hefyd yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y weithred warcheidiaeth.

(3)Mae cyfeiriadau yn yr is-adrannau a ganlyn at heneb—

(a)mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, yn gyfeiriadau at heneb—

(i)sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon;

(ii)sy’n cael ei rheolaethu neu ei rheoli ganddynt ac eithrio yn rhinwedd y Bennod hon;

(b)mewn perthynas ag awdurdod lleol, yn gyfeiriadau at heneb sydd o dan ei berchnogaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol reolaethu amseroedd arferol mynediad y cyhoedd i heneb.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol atal y cyhoedd rhag cael mynediad i heneb, neu i unrhyw ran ohoni, am unrhyw gyfnod y maent neu y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol—

(a)er lles diogelwch;

(b)ar gyfer ei chynnal a’i chadw neu ei diogelu;

(c)mewn cysylltiad â digwyddiadau a gynhelir neu weithgareddau eraill wedi eu trefnu a gyflawnir ynddi neu arni.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol hefyd osod cyfyngiadau a rheolaethau eraill ar fynediad y cyhoedd i heneb, neu i unrhyw ran ohoni, at ddiben a grybwyllir yn is-adran (5).

(7)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol godi tâl ar y cyhoedd am fynediad i heneb.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol wrthod mynediad i berson i heneb os oes ganddynt neu ganddo reswm dros gredu bod y person yn debygol o wneud unrhyw beth sy’n debygol o ddifrodi’r heneb neu ei hamwynderau neu darfu ar y cyhoedd yn eu mwynhad ohoni.

56Pŵer i wneud rheoliadau ac is-ddeddfau mewn cysylltiad â mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddus

(1)Caiff Gweinidogion Cymru reoleiddio mynediad y cyhoedd i unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon drwy wneud rheoliadau sy’n gwahardd neu’n rheoleiddio unrhyw weithred neu unrhyw beth sy’n debygol o ddifrodi’r heneb neu ei hamwynderau neu darfu ar y cyhoedd yn eu mwynhad ohoni.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd wneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw heneb sy’n cael ei rheolaethu neu ei rheoli gan Weinidogion Cymru ac eithrio yn rhinwedd y Bennod hon.

(3)Caiff awdurdod lleol reoleiddio mynediad y cyhoedd i unrhyw heneb sydd o dan ei berchnogaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon drwy wneud is-ddeddfau sy’n gwahardd neu’n rheoleiddio unrhyw weithred neu unrhyw beth sy’n debygol o ddifrodi’r heneb neu ei hamwynderau neu darfu ar y cyhoedd yn eu mwynhad ohoni.

(4)Mae person sy’n methu â chydymffurfio â darpariaeth a wneir gan reoliadau neu is-ddeddfau o dan yr adran hon yn cyflawni trosedd.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 2 ar y raddfa safonol.

(6)Caiff is-ddeddfau a wneir o dan yr adran hon wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â henebion gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o heneb.

(7)Nid yw is-ddeddfau o dan yr adran hon yn cymryd effaith oni chânt eu cadarnhau gan Weinidogion Cymru.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau’r is-ddeddfau gydag addasiadau neu hebddynt.

57Darparu cyfleusterau i’r cyhoedd mewn cysylltiad â henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cyfleusterau, gwybodaeth a gwasanaethau eraill i’r cyhoedd ar gyfer darparu mynediad y cyhoedd neu mewn cysylltiad â darparu mynediad y cyhoedd—

(a)i unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon, neu

(b)i unrhyw heneb sydd fel arall yn cael ei rheolaethu neu ei rheoli ganddynt.

(2)Caiff awdurdod lleol ddarparu cyfleusterau, gwybodaeth a gwasanaethau eraill i’r cyhoedd ar gyfer darparu mynediad y cyhoedd i unrhyw heneb sydd o dan ei berchnogaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon neu mewn cysylltiad â darparu mynediad o’r fath.

(3)Caniateir i gyfleusterau a gwybodaeth neu wasanaethau eraill i’r cyhoedd gael eu darparu o dan yr adran hon yn yr heneb ei hun neu arni neu ar unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol godi tâl am ddefnyddio unrhyw gyfleuster neu unrhyw wasanaeth a ddarperir ganddynt neu ganddo o dan yr adran hon.

PENNOD 7CYFFREDINOL

Difrodi henebion

58Y drosedd o ddifrodi henebion penodol o ddiddordeb hanesyddol arbennig

(1)Mae person sy’n dinistrio neu’n difrodi heneb warchodedig heb esgus cyfreithlon yn euog o drosedd os oedd y person—

(a)yn gwybod neu os dylai’n rhesymol fod wedi gwybod bod yr heneb yn heneb warchodedig, a

(b)yn bwriadu dinistrio neu ddifrodi’r heneb neu’n ddi-hid o ran a fyddai’r heneb yn cael ei difrodi neu ei dinistrio.

(2)Yn is-adran (1) ystyr “heneb warchodedig” yw—

(a)heneb gofrestredig, neu

(b)heneb sydd o dan berchnogaeth neu warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn rhinwedd y Bennod hon.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw beth a wneir gan neu o dan awdurdod perchennog yr heneb, ac eithrio gweithred ar gyfer cyflawni gwaith a eithrir, fel y mae’n gymwys i unrhyw beth a wneir gan unrhyw berson arall.

(4)Yn is-adran (3) ystyr “gwaith a eithrir” yw—

(a)gwaith sydd wedi ei awdurdodi o dan Bennod 3;

(b)gwaith y mae cydsyniad datblygu wedi ei roi ar ei gyfer o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29).

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

59Gorchmynion digolledu am ddifrod i henebion sydd o dan warcheidiaeth

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo perchennog neu unrhyw berson arall yn cael ei euogfarnu o drosedd sy’n ymwneud â difrod i heneb a oedd ar adeg y drosedd o dan warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod lleol yn rhinwedd Pennod 6.

(2)Mae unrhyw orchymyn digolledu a wneir o dan Bennod 2 o Ran 7 o’r Cod Dedfrydu (gorchmynion digolledu yn erbyn personau a euogfarnwyd) mewn cysylltiad â’r difrod hwnnw i’w wneud o blaid Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod lleol o dan sylw (yn ôl gofynion yr achos).

60Cyfyngiadau ar y defnydd o ddatgelyddion metel

(1)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cydsyniad” (“consent”) yw cydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru;

  • ystyr “datgelydd metel” (“metal detector”) yw unrhyw ddyfais sydd wedi ei dylunio neu ei haddasu i ganfod neu leoli unrhyw fetel neu unrhyw fwyn yn y ddaear;

  • ystyr “man gwarchodedig” (“protected place”) yw—

    (a)

    safle unrhyw heneb gofrestredig, neu

    (b)

    safle unrhyw heneb sydd o dan berchnogaeth neu warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn rhinwedd Pennod 6.

(2)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn defnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig heb gydsyniad i wneud hynny.

(3)Mae person y rhoddwyd cydsyniad iddo i ddefnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig yn cyflawni trosedd os yw’r person, wrth ddefnyddio’r datgelydd metel yn y man hwnnw, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod sydd ynghlwm wrth y cydsyniad.

(4)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, heb gydsyniad i wneud hynny, yn symud ymaith unrhyw wrthrych o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol y mae’r person wedi ei ddarganfod drwy ddefnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig.

(5)Mae person y rhoddwyd cydsyniad iddo i symud ymaith unrhyw wrthrych, neu i ymdrin fel arall ag unrhyw wrthrych, y mae’r person yn ei ddarganfod drwy ddefnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig yn cyflawni trosedd os yw’r person, wrth symud ymaith y gwrthrych neu wrth ymdrin fel arall ag ef, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod sydd ynghlwm wrth y cydsyniad.

(6)Mewn unrhyw achos am drosedd o dan is-adran (2) mae’n amddiffyniad i berson brofi iddo ddefnyddio’r datgelydd metel at ddiben ac eithrio i ganfod neu leoli gwrthrychau o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

(7)Mewn unrhyw achos am drosedd o dan is-adran (2) neu (4) mae’n amddiffyniad i berson brofi—

(a)ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i ganfod a oedd y man lle y defnyddiwyd y datgelydd metel yn fan gwarchodedig, a

(b)nad oedd yn gwybod, ac nad oedd ganddo reswm dros gredu, bod y man yn fan gwarchodedig.

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) neu (3) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(9)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) neu (5) yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

Gwaith brys ar gyfer diogelu heneb gofrestredig

61Gwaith ar gyfer diogelu heneb gofrestredig mewn achosion brys

(1)Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod unrhyw waith y mae adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) yn gymwys iddo yn angenrheidiol ar frys i ddiogelu heneb gofrestredig, cânt fynd i safle’r heneb a chyflawni’r gwaith hwnnw.

(2)Cyn arfer y pŵer yn is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru roi o leiaf 7 niwrnod clir o rybudd yn ysgrifenedig i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb.

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cyflawni gwaith o dan yr adran hon ar gyfer atgyweirio unrhyw ddifrod i heneb gofrestredig—

(a)mae unrhyw orchymyn digolledu a wnaed yn flaenorol mewn cysylltiad â’r difrod hwnnw o dan Bennod 2 o Ran 7 o’r Cod Dedfrydu o blaid unrhyw berson arall yn orfodadwy (i’r graddau na chydymffurfiwyd ag ef eisoes) fel pe bai wedi ei wneud o blaid Gweinidogion Cymru, a

(b)rhaid i unrhyw orchymyn o’r fath a wneir wedyn mewn cysylltiad â’r difrod hwnnw gael ei wneud o blaid Gweinidogion Cymru.

(4)Pan fo gwaith yn cael ei gyflawni o dan yr adran hon, mae’r gwaith i’w drin fel pe bai’n waith awdurdodedig at ddibenion Pennod 3 (rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig).

Gwariant a chyngor mewn perthynas â henebion

62Gwariant ar gaffael a diogelu henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig etc.

(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu cost caffael unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig gan unrhyw berson, neu gyfrannu tuag at y gost honno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)symud ymaith neu gynorthwyo i symud ymaith unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig neu unrhyw ran o unrhyw heneb o’r fath i fan arall at ddiben ei diogelu;

(b)talu cost symud ymaith unrhyw heneb o’r fath neu unrhyw ran o unrhyw heneb o’r fath i fan arall at ddiben ei diogelu, neu gyfrannu tuag at y gost honno.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais perchennog ar unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig—

(a)ymgymryd â gwaith i ddiogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb neu gynorthwyo’r gwaith hwnnw;

(b)talu am gost diogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb, neu gyfrannu tuag at y gost honno.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru gyfrannu tuag at gost darparu cyfleusterau neu wasanaethau i’r cyhoedd gan awdurdod lleol o dan adran 57.

(5)Caiff awdurdod lleol, ar gais perchennog ar unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal—

(a)ymgymryd â gwaith i ddiogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb neu gynorthwyo’r gwaith hwnnw;

(b)talu am gost diogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb, neu gyfrannu tuag at y gost honno.

(6)Ni chaiff Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol fynd i wariant o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw adeilad neu unrhyw strwythur a feddiennir fel annedd gan unrhyw berson ac eithrio gofalwr yr adeilad neu’r strwythur neu aelod o deulu’r gofalwr.

63Cyngor gan Weinidogion Cymru a goruchwylio gwaith ganddynt

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyngor ynghylch trin unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd oruchwylio unrhyw waith mewn cysylltiad ag unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig os ydynt yn cael eu gwahodd i wneud hynny gan berchennog ar yr heneb.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru oruchwylio gwaith mewn cysylltiad ag unrhyw heneb gofrestredig, os ydynt yn ystyried bod hynny yn ddoeth (pa un a yw perchennog yn gofyn iddynt wneud hynny ai peidio).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru godi tâl am roi cyngor neu oruchwylio gwaith o dan yr adran hon.

64Gwariant gan awdurdodau lleol ar ymchwiliad archaeolegol

(1)Os yw awdurdod lleol yn ystyried y gall unrhyw dir yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal gynnwys heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, neu unrhyw beth arall o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol, caiff yr awdurdod—

(a)cynnal ymchwiliad archaeolegol o’r tir neu gynorthwyo mewn ymchwiliad o’r fath, neu

(b)talu cost ymchwiliad archaeolegol o’r tir neu gyfrannu tuag at y gost honno.

(2)Caiff awdurdod lleol gyhoeddi canlyniadau unrhyw ymchwiliad archaeolegol a gynhelir ganddo, a gynorthwyir ganddo neu a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n rhannol ganddo o dan yr adran hon.

(3)Caniateir i’r pwerau yn is-adran (1) gael eu harfer mewn perthynas ag unrhyw dir sy’n ffurfio rhan o wely’r môr o fewn terfynau atfor y môr tiriogaethol sy’n gyfagos i Gymru.

Pwerau mynediad

65Pwerau mynediad i arolygu henebion cofrestredig etc.

(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i arolygu heneb gofrestredig yn y tir, arno neu odano i asesu ei chyflwr ac i asesu—

(a)a oes unrhyw waith sy’n effeithio ar yr heneb yn cael ei gyflawni yn groes i adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi), neu

(b)a yw wedi cael ei difrodi neu’n debygol o gael ei difrodi (gan waith o’r fath neu fel arall).

(2)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i arolygu heneb gofrestredig yn y tir, arno neu odano mewn cysylltiad—

(a)â chais am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith sy’n effeithio ar yr heneb honno,

(b)â chynnig i addasu neu ddirymu cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer unrhyw waith o’r fath, neu

(c)â chynnig i wneud gorchymyn o dan adran 27 (terfynu cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb).

(3)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i asesu a yw unrhyw waith y mae cydsyniad heneb gofrestredig neu awdurdodiad o dan adran 12 yn ymwneud ag ef yn cael ei gyflawni neu wedi cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad neu’r awdurdodiad (gan gynnwys unrhyw amodau).

(4)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir y mae unrhyw waith y mae cydsyniad heneb gofrestredig neu awdurdodiad o dan adran 12 yn ymwneud ag ef yn cael ei gyflawni arno er mwyn—

(a)arolygu’r tir (gan gynnwys unrhyw adeiladau neu unrhyw strwythurau eraill ar y tir) i gofnodi unrhyw faterion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol, neu

(b)arsylwi ar y gwaith hwnnw yn cael ei gyflawni gyda golwg—

(i)ar archwilio a chofnodi unrhyw wrthrychau neu unrhyw ddeunydd arall o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol a ddarganfyddir yng nghwrs y gwaith hwnnw, a

(ii)ar gofnodi unrhyw faterion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol a ddarganfyddir yng nghwrs y gwaith hwnnw.

(5)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano i godi a chynnal ar safle’r heneb neu gerllaw iddo unrhyw hysbysfyrddau ac unrhyw byst marcio y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddymunol i warchod yr heneb rhag difrod damweiniol neu fwriadol.

(6)Ni chaniateir i’r pŵer yn is-adran (5) gael ei arfer heb gytundeb pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir.

(7)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

66Pwerau mynediad sy’n ymwneud â gorfodi rheolaethau ar waith

(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir—

(a)i benderfynu a ddylai hysbysiad stop dros dro gael ei ddyroddi;

(b)i arddangos copi o hysbysiad stop dros dro yn unol ag adran 31 neu ei osod yn sownd at ddiben ei gyflwyno yn unol ag adran 206(5)(c);

(c)i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad stop dros dro.

(2)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir—

(a)i benderfynu a ddylai hysbysiad gorfodi gael ei ddyroddi;

(b)i osod hysbysiad gorfodi yn sownd at ddiben ei gyflwyno yn unol ag adran 206(5)(c);

(c)i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad gorfodi.

(3)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

67Pŵer mynediad i dir y credir ei fod yn cynnwys heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig

(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir y mae Gweinidogion Cymru yn gwybod neu y mae ganddynt reswm dros gredu bod heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig ynddo, arno neu odano er mwyn arolygu’r tir (gan gynnwys unrhyw adeilad neu unrhyw strwythur arall arno) gyda golwg ar gofnodi unrhyw faterion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

(2)Caiff person awdurdodedig sy’n mynd ar unrhyw dir wrth arfer y pŵer yn is-adran (1) gynnal cloddiadau yn y tir at ddibenion ymchwiliad archaeolegol.

(3)Er mwyn cynnal cloddiad o dan is-adran (2) mae’n ofynnol cael cytundeb pob person y byddai’n ofynnol cael ei gytundeb i wneud y cloddiad ar wahân i’r adran hon.

(4)Ond nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn gwybod neu os oes ganddynt reswm dros gredu bod heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig y maent yn gwybod neu’n credu ei bod yn y tir, arno neu odano mewn perygl, neu’n gallu bod mewn perygl, o fod ar fin cael ei difrodi neu ei dinistrio.

(5)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru

68Pŵer mynediad i gynnal arolwg a phrisiad mewn cysylltiad â hawliad am ddigollediad

(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i gynnal arolwg ohono, neu i amcangyfrif ei werth, mewn cysylltiad â hawliad am ddigollediad o dan y Rhan hon am unrhyw ddifrod i’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall.

(2)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw—

(a)swyddog o Swyddfa Brisio Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, neu

(b)person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

(3)Mae’r pŵer i gynnal arolwg o dir o dan yr adran hon yn cynnwys pŵer i chwilio a thurio i benderfynu natur yr isbridd neu i benderfynu a oes mwynau yn bresennol.

69Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad o dan y Rhan hon

(1)Caniateir i bŵer i fynd ar dir o dan y Rhan hon gael ei arfer ar unrhyw adeg resymol; ond nid yw’r is-adran hon yn gymwys i adran 65(5).

(2)Ni chaiff person sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan y Rhan hon fynnu mynediad fel hawl i unrhyw dir sydd wedi ei feddiannu oni bai bod rhybudd o’r mynediad bwriadedig wedi ei roi i bob meddiannydd—

(a)pan mai diben y mynediad yw cyflawni unrhyw waith ar y tir (ac eithrio cloddiadau wrth arfer y pŵer o dan adran 67), o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn diwrnod y mynediad bwriadedig, neu

(b)mewn unrhyw achos arall (gan gynnwys cloddiadau wrth arfer y pŵer o dan adran 67), o leiaf 24 awr cyn diwrnod y mynediad bwriadedig.

(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i fynediad o dan—

(a)adran 61 (ond gweler is-adran (2) o’r adran honno), na

(b)adran 66(1).

(4)Ni chaiff person sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan y Rhan hon fynd i unrhyw adeilad nac unrhyw strwythur na rhan o adeilad na strwythur a feddiennir fel annedd heb gytundeb pob meddiannydd; ond nid yw’r is-adran hon yn gymwys i’r pŵer yn adran 68.

(5)Rhaid i berson sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir o dan y Rhan hon—

(a)os yw’n ofynnol iddo wneud hynny gan neu ar ran perchennog neu feddiannydd ar y tir, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad y person a datgan diben mynd ar y tir cyn mynd arno;

(b)os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y person arno.

(6)Caiff person sy’n mynd ar dir wrth arfer pŵer mynediad o dan y Rhan hon fynd â chynhorthwy neu gyfarpar y bo ei angen yn rhesymol at y diben y mae’r mynediad yn ymwneud ag ef.

(7)Pan fo person yn cynnal unrhyw ymchwiliad archaeolegol neu unrhyw archwiliad archaeolegol o dir wrth arfer pŵer mynediad o dan y Rhan hon, caiff y person gymryd unrhyw samplau y mae’n ymddangos i’r person y bo eu hangen yn rhesymol at ddiben dadansoddi archaeolegol a symud unrhyw samplau o’r fath ymaith.

(8)Pan—

(a)bo pŵer mynediad o dan y Rhan hon yn arferadwy gan berson (“P1”) mewn perthynas ag unrhyw dir, a

(b)bo gwaith yn cael ei gyflawni ar y tir gan berson arall (“P2”),

rhaid i P1, wrth arfer y pŵer mynediad, gydymffurfio ag unrhyw ofynion rhesymol neu unrhyw amodau rhesymol a osodir gan P2 at ddiben atal ymyrryd â’r gwaith neu atal oedi i’r gwaith.

(9)Nid yw is-adran (8) yn gymwys pan fo’r gwaith o dan sylw yn cael ei gyflawni yn groes i adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi).

(10)At ddibenion is-adran (8), nid yw gofyniad neu amod yn rhesymol pe byddai cydymffurfio ag ef yn llesteirio arfer y pŵer mynediad neu ddiben y mynediad.

(11)Mae person sy’n fwriadol yn rhwystro person sy’n arfer pŵer mynediad o dan y Rhan hon yn cyflawni trosedd.

(12)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (11) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(13)Pan—

(a)bo person, wrth arfer y pŵer mynediad o dan adran 68, yn cynnig cyflawni gwaith a awdurdodir gan is-adran (3) o’r adran honno, a

(b)bo’n ofynnol iddo roi rhybudd o’r mynediad bwriadedig o dan is-adran (2)(a) o’r adran hon,

ni chaiff y person gyflawni’r gwaith oni bai bod y rhybudd o fynediad bwriadedig yn cynnwys hysbysiad o fwriad y person i gyflawni’r gwaith hwnnw.

(14)Pan—

(a)wrth arfer y pŵer mynediad o dan adran 68, bo person yn cynnig cyflawni unrhyw waith a awdurdodir gan is-adran (3) o’r adran honno ar dir sy’n perthyn i ymgymerwr statudol, a

(b)bo’r ymgymerwr yn gwrthwynebu’r cynnig ar y sail y byddai cyflawni’r gwaith yn ddifrifol niweidiol i gynnal ei ymgymeriad,

ni chaiff y person gyflawni’r gwaith heb gytundeb Gweinidogion Cymru.

70Digollediad am ddifrod a achosir drwy arfer pwerau penodol o dan y Rhan hon

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw bŵer i fynd ar unrhyw dir, neu i wneud unrhyw beth ar unrhyw dir, o dan adran 40 neu adrannau 65 i 68.

(2)Mae gan unrhyw berson sydd â buddiant mewn tir hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw ddifrod a achosir i’r tir neu i eiddo ar y tir wrth arfer pŵer y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

(3)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y difrod ei achosi (neu os cafodd y difrod ei achosi dros fwy nag un diwrnod, y diwrnod olaf y cafodd ei achosi).

71Trin a diogelu darganfyddiadau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn mynd ar dir wrth arfer pŵer mynediad o dan y Rhan hon—

(a)i gynnal cloddiadau yn y tir neu i gyflawni gwaith sy’n effeithio ar heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig sydd yn y tir, arno neu odano,

(b)i asesu neu arsylwi ar waith ar y tir o dan adran 65(3) neu (4)(b), neu

(c)i gynnal archwiliad archaeolegol o’r tir.

(2)Caiff y person—

(a)cymryd gwarchodaeth dros dro o unrhyw wrthrych o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol a ddarganfyddir yng nghwrs y cloddiadau, y gwaith neu’r archwiliad, a

(b)symud y gwrthrych ymaith o’i safle at ddiben ei archwilio, ei brofi, ei drin, ei gofnodi neu ei ddiogelu.

(3)Ni chaiff yr awdurdod priodol, heb gytundeb pob perchennog, gadw’r gwrthrych am gyfnod sy’n hwy nag y bo angen yn rhesymol—

(a)i’w archwilio a’i gofnodi, a

(b)i gynnal unrhyw brawf neu gyflawni unrhyw driniaeth y mae’n ymddangos i’r awdurdod ei fod neu ei bod yn ddymunol—

(i)at ddiben ymchwiliad neu ddadansoddiad archaeolegol, neu

(ii)i adfer neu ddiogelu’r gwrthrych.

(4)Yn is-adran (3) ystyr “awdurdod priodol” yw—

(a)mewn achos pan gafodd y pŵer mynediad ei arfer gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan, Gweinidogion Cymru, a

(b)mewn achos pan gafodd y pŵer mynediad ei arfer gan awdurdod lleol neu ar ei ran, yr awdurdod hwnnw.

(5)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan y Goron o dan Ddeddf Trysor 1996 (p. 24).

Atodol

72Dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynion penodol o dan y Rhan hon

(1)Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd penderfyniad neu orchymyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo mewn unrhyw achos cyfreithiol ac eithrio cais am adolygiad statudol o dan adran 73.

(2)Y penderfyniadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt yw—

(a)penderfyniad gan Weinidogion Cymru ar gais am gydsyniad heneb gofrestredig, a

(b)penderfyniad ar adolygiad o dan adran 9.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys i orchymyn o dan adran 20 sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad heneb gofrestredig.

(4)Nid yw’r adran hon yn atal unrhyw lys rhag arfer unrhyw awdurdodaeth mewn perthynas â gwrthodiad neu fethiant i wneud penderfyniad y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

73Cais i’r Uchel Lys am adolygiad statudol o benderfyniad neu orchymyn

(1)Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad neu orchymyn y mae adran 72 yn gymwys iddo wneud cais am adolygiad statudol.

(2)Mae cais am adolygiad statudol yn gais i’r Uchel Lys sy’n cwestiynu dilysrwydd y penderfyniad neu’r gorchymyn ar y sail—

(a)nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu

(b)na chydymffurfiwyd â gofyniad perthnasol mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn.

(3)Rhaid i gais am adolygiad statudol gael ei wneud cyn diwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y gwneir y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

(4)Ar unrhyw gais am adolygiad statudol, caiff yr Uchel Lys—

(a)gwneud gorchymyn interim sy’n atal dros dro weithrediad y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef, hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr achos;

(b)diddymu’r penderfyniad hwnnw neu’r gorchymyn hwnnw os yw wedi ei fodloni—

(i)nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu

(ii)bod methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn wedi cael effaith andwyol sylweddol ar fuddiannau’r ceisydd.

(5)Yn yr adran hon ystyr “gofyniad perthnasol” yw unrhyw ofyniad—

(a)yn y Ddeddf hon neu yn Neddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p. 53), neu

(b)mewn unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Ddeddf hon neu o dan y Ddeddf honno.

74Tir y Goron

(1)Nid yw’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â thir y Goron ond i’r graddau a nodir isod.

(2)Caniateir cynnwys heneb sydd ar dir y Goron, ynddo neu odano yn y gofrestr.

(3)Mae unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw bwerau a osodir neu a roddir gan y Rhan hon yn gymwys ac yn arferadwy mewn perthynas â thir y Goron ac mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir ar dir y Goron ac eithrio gan neu ar ran y Goron, ond nid fel y byddai’n effeithio ar unrhyw fuddiant sydd gan y Goron yn y tir.

(4)Nid yw’r adran hon yn caniatáu—

(a)i bŵer o dan y Rhan hon i fynd ar unrhyw dir, neu i wneud unrhyw beth ar unrhyw dir, gael ei arfer mewn perthynas â thir y Goron, na

(b)i fuddiant yn nhir y Goron a ddelir ac eithrio gan neu ar ran y Goron gael ei gaffael yn orfodol o dan y Rhan hon,

heb gytundeb awdurdod priodol y Goron.

75Dehongli’r Rhan hon

(1)Yn y Rhan hon—

  • mae i “archwiliad archaeolegol” (“archaeological examination”) yr ystyr a roddir gan is-adran (3);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—

    (a)

    cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, a

    (b)

    awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

  • mae i “cydsyniad heneb gofrestredig” (“scheduled monument consent”) yr ystyr a roddir gan adran 13;

  • mae i “y gofrestr” (“the schedule”) yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • mae “gwaith” (“works”) yn cynnwys—

    (a)

    gweithrediadau i foddi tir neu weithrediadau tipio,

    (b)

    unrhyw weithrediadau a gyflawnir at ddibenion amaethyddiaeth (o fewn ystyr “agriculture” yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8)) neu goedwigaeth (gan gynnwys coedwigo), ac

    (c)

    gweithrediadau o unrhyw ddisgrifiad arall;

  • mae “gwarcheidwad” (“guardian”) i’w ddehongli yn unol ag adrannau 45 a 49;

  • mae i “gwarchodaeth interim” (“interim protection”) yr ystyr a roddir gan adran 6(3);

  • mae i “gweithred warcheidiaeth” (“guardianship deed”) yr ystyr a roddir gan adran 45(7);

  • ystyr “gweithrediadau i foddi tir” (“flooding operations”) yw gorchuddio tir â dŵr neu â sylwedd arall sy’n hylifol neu’n rhannol hylifol;

  • ystyr “gweithrediadau tipio” (“tipping operations”) yw tipio pridd neu gloddion neu ddyddodi deunyddiau adeiladu neu ddeunyddiau eraill neu sylwedd adeiladu neu sylwedd arall (gan gynnwys gwastraff) ar unrhyw dir;

  • mae i “heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig” (“monument of special historic interest”) yr ystyr a roddir gan is-adran (6);

  • ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad gorfodi a ddyroddir o dan adran 35;

  • ystyr “hysbysiad stop dros dro” (“temporary stop notice”) yw hysbysiad stop dros dro a ddyroddir o dan adan 31;

  • mae “meddiant” (“possession”) yn cynnwys cael rhent ac elw neu’r hawl i gael rhent ac elw (os oes rhent neu elw);

  • mae i “ymchwiliad archaeolegol” (“archaeological investigation”) yr ystyr a roddir gan is-adran (2).

(2)Yn y Rhan hon ystyr “ymchwiliad archaeolegol” yw unrhyw ymchwiliad o dir, o wrthrychau neu o ddeunydd arall at ddiben cael a chofnodi unrhyw wybodaeth o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol ac mae’n cynnwys, yn achos ymchwiliad archaeolegol o dir—

(a)unrhyw ymchwiliad at ddiben darganfod a datgelu a (phan fo’n briodol) adennill a symud ymaith unrhyw wrthrychau neu unrhyw ddeunydd arall o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol yn y tir, arno neu odano, a

(b)archwilio, profi, trin, cofnodi a diogelu unrhyw wrthrychau o’r fath neu unrhyw ddeunydd o’r fath a ddarganfyddir yng nghwrs unrhyw gloddiadau neu unrhyw arolygiadau a gynhelir at ddibenion unrhyw ymchwiliad o’r fath.

(3)Yn y Rhan hon ystyr “archwiliad archaeolegol”, mewn perthynas â thir, yw unrhyw archwiliad neu unrhyw arolygiad o’r tir (gan gynnwys adeiladau neu strwythurau eraill ar y tir) at ddiben cael a chofnodi unrhyw wybodaeth o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

(4)Yn y Rhan hon (ac eithrio ym Mhennod 4) mae cyfeiriadau at dir sy’n gysylltiedig â heneb (neu at dir cysylltiedig) i’w dehongli yn unol ag adran 49(9).

(5)Yn y Rhan hon mae cyfeiriadau at heneb, mewn perthynas â chaffael neu drosglwyddo unrhyw heneb (pa un ai o dan y Rhan hon neu fel arall), yn cynnwys unrhyw fuddiant yn yr heneb neu hawl drosti.

(6)Yn y Rhan hon ystyr “heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig” yw—

(a)unrhyw heneb gofrestredig, a

(b)unrhyw heneb arall sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod o ddiddordeb i’r cyhoedd oherwydd y diddordeb hanesyddol, pensaernïol, traddodiadol, artistig neu archaeolegol sy’n gysylltiedig â hi.

(7)Ond nid yw’r cyfeiriad at heneb yn is-adran (6)(b) yn cynnwys heneb yn, ar neu o dan wely’r môr islaw’r marc distyll.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni

Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill