xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

RHAN 5LL+CDARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH

PENNOD 1LL+CARFER SWYDDOGAETHAU GAN AWDURDODAU CYNLLUNIO AC AWDURDODAU LLEOL ERAILL

167Ffioedd a thaliadau am arfer swyddogaethauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i ffi gael ei thalu neu i dâl gael ei dalu i awdurdod cynllunio am—

(a)cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan Ran 3, Rhan 4, y Rhan hon neu Ran 7 fel y mae’n gymwys at ddibenion unrhyw un neu ragor o’r Rhannau hynny;

(b)gwneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny, neu sy’n ffafriol i’w cyflawni neu’n ddeilliadol i’w cyflawni.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon yn benodol—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae rhaid talu ffi neu dâl;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch pwy y mae rhaid iddo dalu ffi neu dâl;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae ffi neu dâl i’w chyfrifo neu ei gyfrifo (gan gynnwys pwy sydd i’w chyfrifo neu ei gyfrifo);

(d)pennu amgylchiadau pan fo ffi neu dâl i’w hepgor neu i’w had-dalu neu ei ad-dalu (yn gyfan gwbl neu’n rhannol);

(e)pennu amgylchiadau pan nad oes ffi neu dâl i’w thalu neu ei dalu;

(f)gwneud darpariaeth ynghylch effaith talu neu fethu â thalu ffi neu dâl yn unol â’r rheoliadau (a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad, gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon);

(g)pennu amgylchiadau pan fo ffi neu dâl sy’n daladwy i un awdurdod cynllunio i’w throsglwyddo neu ei drosglwyddo i awdurdod cynllunio arall.

(3)Os yw rheoliadau o dan yr adran hon yn darparu i awdurdod cynllunio gyfrifo swm unrhyw ffioedd neu daliadau, rhaid i’r awdurdod sicrhau, gan ystyried un flwyddyn ariannol gydag un arall, nad yw ei incwm o’r ffioedd neu’r taliadau yn fwy na chost cyflawni’r swyddogaethau, neu wneud y pethau, y maent yn ymwneud â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 167 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

168Trefniadau ar gyfer arfer swyddogaethau mewn perthynas â cheisiadauLL+C

(1)Mae adrannau 319ZA i 319ZD o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) (cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â cheisiadau) yn gymwys i arfer gan awdurdod cynllunio ei swyddogaethau mewn perthynas â cheisiadau o dan neu yn rhinwedd Rhannau 3 a 4 fel y maent yn gymwys i arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â cheisiadau o dan y Ddeddf honno.

(2)Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd cydsyniad neu benderfyniad a roddir neu a wneir, neu yr ymhonnir ei fod wedi ei roi neu ei wneud, gan awdurdod cynllunio mewn cysylltiad â chais a wneir o dan neu yn rhinwedd y naill neu’r llall o’r Rhannau hynny mewn unrhyw achos cyfreithiol, nac mewn unrhyw achos arall o dan y Ddeddf hon, ar y sail y dylai’r cydsyniad neu’r penderfyniad fod wedi ei roi neu ei wneud gan awdurdod cynllunio arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 168 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

169Trefniadau ar gyfer cael cyngor arbenigolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio ar unrhyw adeg i gyflwyno i’w cymeradwyo ganddynt y trefniadau y mae’r awdurdod yn cynnig eu gwneud ar gyfer cael cyngor arbenigol mewn cysylltiad â’i swyddogaethau perthnasol.

(2)Rhaid i’r awdurdod gyflwyno ei drefniadau arfaethedig i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni â’r trefniadau y mae’r awdurdod (“awdurdod A”) yn cynnig eu gwneud, cânt gyfarwyddo awdurdod A ac awdurdod cynllunio arall a bennir yn y cyfarwyddyd (“awdurdod B”)—

(a)i wneud cytundeb o dan adran 113 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) i osod ar gael i awdurdod A wasanaethau personau a gyflogir gan awdurdod B sy’n gymwys i roi’r cyngor arbenigol, neu

(b)i wneud trefniadau i awdurdod B arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau perthnasol awdurdod A.

(4)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b) wneud darpariaeth ynghylch telerau’r trefniadau.

(5)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r ddau awdurdod cynllunio.

(6)At ddibenion yr adran hon swyddogaethau perthnasol awdurdod cynllunio yw ei swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd—

(a)adrannau 83 a 84 (rhestru adeiladau dros dro),

(b)Pennod 2 (rhoi, addasu a dirymu cydsyniad) o Ran 3,

(c)Pennod 3 (cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig) o’r Rhan honno,

(d)Pennod 4 (gorfodi rheolaethau) o’r Rhan honno,

(e)adran 314A(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) (caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig), ac

(f)adrannau 158 i 163 o’r Ddeddf hon (dynodi ardaloedd cadwraeth, dyletswyddau awdurdodau cynllunio a rheolaethu dymchwel).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 169 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

170Ffurf ar ddogfennauLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu ffurf a chynnwys unrhyw hysbysiad, unrhyw orchymyn neu unrhyw ddogfen arall y mae awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i’w gyflwyno neu ei chyflwyno, i’w wneud neu ei gwneud neu i’w ddyroddi neu ei dyroddi neu y mae’n ofynnol iddo ei gyflwyno neu ei chyflwyno, ei wneud neu ei gwneud neu ei ddyroddi neu ei dyroddi o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4, y Rhan hon neu Ran 7 fel y mae’n gymwys at ddibenion unrhyw un neu ragor o’r Rhannau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 170 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

171Cyfraniadau tuag at wariant gan awdurdodau lleolLL+C

(1)Caiff unrhyw awdurdod lleol neu unrhyw ymgymerwr statudol gyfrannu tuag at wariant yr eir iddo gan awdurdod cynllunio neu awdurdod lleol arall wrth arfer, neu mewn cysylltiad ag arfer, ei swyddogaethau o dan Ran 3 (gan gynnwys ei swyddogaethau o dan y Rhan honno fel y’i cymhwysir gan adran 163).

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i wariant yr eir iddo—

(a)wrth dalu digollediad o dan adrannau 80, 86, 108, 116 a 122 (ond nid yw hyn yn atal awdurdod rhag cydymffurfio â chyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b)), neu

(b)wrth arfer, neu mewn cysylltiad ag arfer, swyddogaethau o dan adrannau 143 i 146, 148 a 149.

(3)Pan fo digollediad yn daladwy gan awdurdod cynllunio neu awdurdod lleol arall o ganlyniad i unrhyw beth a wneir o dan Benodau 1 i 4 o Ran 3 (gan gynnwys unrhyw beth a wneir o dan Bennod 2 neu 4 o’r Rhan honno fel y’i cymhwysir gan adran 163), caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfrannu tuag at dalu’r digollediad, os gwnaed y peth yn gyfan gwbl neu’n rhannol er budd gwasanaeth a ddarperir gan Weinidogion Cymru, neu

(b)cyfarwyddo awdurdod lleol arall i gyfrannu swm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn rhesymol, gan roi sylw i unrhyw fudd sy’n cronni i’r awdurdod arall hwnnw o ganlyniad i wneud y peth.

(4)Nid yw is-adran (3)(b) yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio yn agored i dalu digollediad o dan adran 116 o ganlyniad i derfynu cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath.

(5)Mewn achos o’r fath, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw awdurdod cynllunio arall sy’n barti i’r cytundeb, neu a oedd yn barti i’r cytundeb, i ad-dalu’r awdurdod y mae’r digollediad yn daladwy ganddo, yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

(6)Ni chaiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan is-adran (5) oni bai eu bod wedi ymgynghori â’r holl awdurdodau cynllunio sy’n bartïon i’r cytundeb, neu a oedd yn bartïon i’r cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 171 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

PENNOD 2LL+CACHOSION GERBRON GWEINIDOGION CYMRU

Darpariaethau gweithdrefnol sy’n gymwys i apelau i Weinidogion CymruLL+C

172Ffioedd am apelauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gwneud apêl y mae’r adran hon yn gymwys iddo dalu ffi i Weinidogion Cymru.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)i apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth, i amrywio neu ddileu amodau neu i gymeradwyo manylion);

(b)i apêl o dan adran 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi).

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon yn benodol—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae rhaid talu ffi;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae ffi i’w chyfrifo (gan gynnwys pwy sydd i’w chyfrifo);

(c)pennu amgylchiadau pan fo ffi i’w hepgor neu ei had-dalu (yn gyfan gwbl neu’n rhannol);

(d)pennu amgylchiadau pan nad oes ffi i’w thalu;

(e)gwneud darpariaeth ynghylch effaith talu neu fethu â thalu ffi yn unol â’r rheoliadau (a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad, gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 172 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

173Penderfynu apêl gan berson a benodirLL+C

(1)Mae apêl y mae’r adran hon yn gymwys iddi i’w phenderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru (yn hytrach na chan Weinidogion Cymru).

(2)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)i apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth, i amrywio neu ddileu amodau neu i gymeradwyo manylion);

(b)i apêl o dan adran 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi).

(3)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys i apêl—

(a)os yw’n apêl o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo bod yr apêl i’w phenderfynu ganddynt hwy yn hytrach na chan berson a benodir.

(4)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu mewn rheoliadau a wneir odani sy’n darparu y caniateir i apêl gael ei gwneud i Weinidogion Cymru, neu fod rhaid i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru.

(5)Pan fo person a benodir yn penderfynu apêl, mae penderfyniad y person a benodir i’w drin fel pe bai’n benderfyniad gan Weinidogion Cymru.

(6)Mae Atodlen 12 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â phenodiadau o dan is-adran (1) a chyfarwyddydau o dan is-adran (3)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 173 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Darpariaethau gweithdrefnol sy’n gymwys i apelau ac achosion eraill gerbron Gweinidogion CymruLL+C

174Dewis o ymchwiliad, gwrandawiad neu weithdrefn ysgrifenedigLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ym mhob achos benderfynu’r weithdrefn ar gyfer ystyried achos y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

(2)Rhaid i benderfyniad ddarparu i’r achos gael ei ystyried mewn un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn—

(a)mewn ymchwiliad lleol;

(b)mewn gwrandawiad;

(c)ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad cyn diwedd y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Caniateir i benderfyniad gael ei amrywio drwy benderfyniad pellach ar unrhyw adeg cyn penderfynu’r achos y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r personau a ganlyn am benderfyniad—

(a)y ceisydd neu’r apelydd (fel y bo’n briodol), a

(b)yr awdurdod cynllunio o dan sylw.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r meini prawf y byddant yn eu cymhwyso wrth wneud penderfyniadau.

(7)Mae’r adran hon yn gymwys i’r achosion a ganlyn—

(a)cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 94 (atgyfeirio cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth neu i amrywio neu ddileu amodau);

(b)apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais am gydsyniad, i amrywio neu ddileu amodau neu i gymeradwyo manylion);

(c)cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 106 (gwaith brys ar dir y Goron);

(d)apêl o dan adran 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi).

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (7)—

(a)i ychwanegu achos o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon,

(b)i ddileu achos, neu

(c)i addasu disgrifiad o achos.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 174 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

175Gofynion gweithdrefnolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad—

(a)ag achos ar unrhyw gais, unrhyw apêl neu unrhyw atgyfeiriad a wneir i neu at Weinidogion Cymru o dan neu yn rhinwedd Rhan 3 neu 4 (pa un a yw’n cael ei ystyried mewn ymchwiliad lleol, mewn gwrandawiad neu ar sail sylwadau ysgrifenedig);

(b)ag unrhyw ymchwiliad lleol neu unrhyw wrandawiad arall a gynhelir neu sydd i’w gynnal gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan o dan neu yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rhannau hynny neu’r Rhan hon.

(2)Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â materion paratoadol ar gyfer ymchwiliad neu wrandawiad neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu faterion sy’n codi yn dilyn ymchwiliad neu wrandawiad neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig;

(b)cynnal achos.

(3)Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn—

(a)pan fo camau wedi eu cymryd gyda golwg ar gynnal ymchwiliad neu wrandawiad nad yw’n digwydd,

(b)pan fo camau wedi eu cymryd gyda golwg ar benderfynu unrhyw fater gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru a bod yr achos yn destun cyfarwyddyd bod rhaid i’r mater gael ei benderfynu yn lle hynny gan Weinidogion Cymru, neu

(c)pan fo camau wedi eu cymryd yn unol â chyfarwyddyd o’r fath a bod cyfarwyddyd pellach yn cael ei roi sy’n dirymu’r cyfarwyddyd hwnnw,

a chânt ddarparu bod camau o’r fath i’w trin fel pe baent yn cydymffurfio, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, â gofynion y rheoliadau.

(4)Caiff y rheoliadau—

(a)pennu terfyn amser y mae rhaid i barti i achos gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ac unrhyw ddogfennau ategol oddi mewn iddo, neu alluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau sy’n gosod y terfyn amser mewn achos penodol neu mewn achosion o ddisgrifiad penodol;

(b)galluogi Gweinidogion Cymru i fynd ymlaen i wneud penderfyniad gan ystyried dim ond y sylwadau ysgrifenedig a’r dogfennau ategol a gyflwynwyd o fewn y terfyn amser;

(c)galluogi Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r partïon o’u bwriad i wneud hynny, i fynd ymlaen i wneud penderfyniad er na chyflwynwyd unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y terfyn amser, os ydynt yn ystyried bod ganddynt ddigon o ddeunydd ger eu bron i’w galluogi i ddod i benderfyniad ar rinweddau’r achos.

(5)Caiff y rheoliadau hefyd wneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan—

(a)caniateir i gyfarwyddyd ynghylch talu costau Gweinidogion Cymru gael ei roi o dan adran 180;

(b)caniateir i orchymyn ynghylch talu costau parti gael ei wneud o dan adran 181.

(6)Caiff y rheoliadau ddarparu na chaniateir, o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, godi mater mewn achos ar apêl i Weinidogion Cymru oni bai—

(a)y codwyd y mater yn flaenorol cyn adeg a bennir yn y rheoliadau, neu

(b)y dangosir na ellid bod wedi codi’r mater cyn yr adeg honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 175 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Ymchwiliadau lleolLL+C

176Pŵer Gweinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal at ddibenion arfer unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon.

(2)Gweler hefyd baragraff 3(1) o Atodlen 12 ar gyfer y pŵer sydd gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 173 i gynnal ymchwiliad lleol mewn cysylltiad ag apêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 176 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

177Pŵer person sy’n cynnal ymchwiliad i wneud tystiolaeth yn ofynnolLL+C

(1)Caiff person sy’n cynnal ymchwiliad lleol o dan y Rhan hon ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs i unrhyw berson—

(a)bod yn bresennol yn yr ymchwiliad, ar adeg ac mewn lle a ddatgenir yn y wŷs, a rhoi tystiolaeth, neu

(b)dangos unrhyw ddogfennau sydd ym meddiant y person neu sydd o dan reolaeth y person, sy’n ymwneud ag unrhyw fater o dan sylw yn yr ymchwiliad.

(2)Caiff y person sy’n cynnal yr ymchwiliad gymryd tystiolaeth ar lw, ac at y diben hwnnw caiff weinyddu llwon.

(3)Nid yw gwŷs o dan yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol yn yr ymchwiliad oni bai bod treuliau angenrheidiol y person ar gyfer bod yn bresennol yn cael eu talu neu eu cynnig i’r person.

(4)Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan yr adran hon i berson ddangos teitl (nac unrhyw offeryn sy’n ymwneud â theitl) unrhyw dir nad yw’n perthyn i awdurdod lleol.

(5)Mae’n drosedd i berson—

(a)gwrthod cydymffurfio â gofyniad mewn gwŷs o dan yr adran hon neu fethu’n fwriadol â chydymffurfio â gofyniad o’r fath, neu

(b)newid, atal, cuddio neu ddinistrio’n fwriadol ddogfen y mae’n ofynnol i’r person ei dangos o dan yr adran hon, neu y mae’r person yn agored i orfod ei dangos o dan yr adran hon.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (5) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r uchafswm cyfnod am droseddau diannod, neu’r ddau.

(7)Yn is-adran (6) ystyr “yr uchafswm cyfnod am droseddau diannod” yw—

(a)mewn perthynas â throsedd a gyflawnir cyn i adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) ddod i rym, 6 mis;

(b)mewn perthynas â throsedd a gyflawnir ar ôl iddi ddod i rym, 51 o wythnosau.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 177 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

178Mynediad at dystiolaeth mewn ymchwiliadLL+C

(1)Mewn ymchwiliad lleol a gynhelir o dan y Rhan hon—

(a)rhaid clywed tystiolaeth lafar yn gyhoeddus, a

(b)rhaid i dystiolaeth ddogfennol fod ar gael i’r cyhoedd edrych arni.

(2)Ond os yw awdurdod gweinidogol wedi ei fodloni bod y ddau amod yn is-adran (3) wedi eu bodloni mewn perthynas ag ymchwiliad, caiff gyfarwyddo nad yw tystiolaeth o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd i’w chlywed nac ar gael i edrych arni yn yr ymchwiliad hwnnw ond gan bersonau a bennir yn y cyfarwyddyd neu gan bersonau o ddisgrifiad a bennir ynddo.

(3)Yr amodau yw—

(a)y byddai rhoi tystiolaeth o ddisgrifiad penodol yn gyhoeddus neu ei rhoi ar gael i’r cyhoedd edrych arni yn debygol o arwain at ddatgelu gwybodaeth—

(i)am ddiogelwch cenedlaethol, neu

(ii)am y mesurau a gymerwyd neu sydd i’w cymryd i sicrhau diogelwch unrhyw dir neu unrhyw eiddo arall, a

(b)y byddai datgelu’r wybodaeth i’r cyhoedd yn erbyn y buddiant cenedlaethol.

(4)Os yw awdurdod gweinidogol yn ystyried rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, caiff y Cwnsler Cyffredinol benodi person (“cynrychiolydd a benodir”) i gynrychioli buddiannau unrhyw berson a fydd yn cael ei atal rhag clywed unrhyw dystiolaeth neu edrych ar unrhyw dystiolaeth mewn ymchwiliad lleol os rhoddir y cyfarwyddyd.

(5)Os nad oes cynrychiolydd a benodir pan fydd awdurdod gweinidogol yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, caiff y Cwnsler Cyffredinol benodi person yn gynrychiolydd a benodir ar unrhyw adeg at ddibenion yr ymchwiliad.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn gan awdurdod gweinidogol cyn iddo roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon mewn achos pan fo cynrychiolydd a benodir;

(b)swyddogaethau cynrychiolydd a benodir.

(7)Yn yr adran hon ac adran 179, ystyr “awdurdod gweinidogol” yw Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 178 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

179Talu cynrychiolydd a benodir pan fo mynediad i dystiolaeth wedi ei gyfynguLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw person wedi ei benodi o dan adran 178 yn gynrychiolydd a benodir at ddibenion ymchwiliad lleol, pa un a yw’r ymchwiliad yn digwydd ai peidio.

(2)Caiff awdurdod gweinidogol gyfarwyddo person (“y person cyfrifol”) i dalu ffioedd a threuliau’r cynrychiolydd a benodir.

(3)Rhaid i’r person cyfrifol fod yn berson y mae’r awdurdod gweinidogol yn ystyried ei fod â‍ buddiant yn yr ymchwiliad, neu y byddai wedi bod â buddiant yn yr ymchwiliad, mewn perthynas—

(a)â diogelwch cenedlaethol, neu

(b)â’r mesurau a gymerwyd neu sydd i’w cymryd i sicrhau diogelwch unrhyw dir neu unrhyw eiddo arall.

(4)Os nad yw’r cynrychiolydd a benodir a’r person cyfrifol yn gallu cytuno ar swm y ffioedd a’r treuliau, rhaid i’r swm gael ei benderfynu gan yr awdurdod gweinidogol a roddodd y cyfarwyddyd.

(5)Rhaid i’r awdurdod gweinidogol beri i’r swm y cytunir arno rhwng y cynrychiolydd a benodir a’r person cyfrifol, neu a benderfynir gan yr awdurdod gweinidogol, gael ei ardystio.

(6)Gellir adennill y swm ardystiedig oddi wrth y person cyfrifol fel dyled.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 179 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Costau achosion gerbron Gweinidogion CymruLL+C

180Talu costau Gweinidogion CymruLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i’r achosion a ganlyn—

(a)achos ar gais, apêl neu atgyfeiriad a wneir i neu at Weinidogion Cymru o dan neu yn rhinwedd Rhan 3 neu 4 (pa un a yw’n cael ei ystyried neu ei hystyried mewn ymchwiliad lleol, mewn gwrandawiad neu ar sail sylwadau ysgrifenedig);

(b)unrhyw ymchwiliad lleol neu unrhyw wrandawiad arall a gynhelir neu sydd i’w gynnal gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan o dan neu yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rhannau hynny neu’r Rhan hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd neu’r apelydd, neu awdurdod cynllunio neu barti arall i’r achos, dalu’r costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt mewn perthynas â’r achos (neu gymaint o’r costau ag a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru).

(3)Mae’r costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt mewn perthynas ag unrhyw achos yn cynnwys—

(a)yr holl gost weinyddol y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddi mewn cysylltiad â’r achos, gan gynnwys yn benodol swm rhesymol y maent yn ei benderfynu mewn cysylltiad â chostau staff cyffredinol a gorbenion Llywodraeth Cymru;

(b)costau mewn cysylltiad ag ymchwiliad neu wrandawiad nad yw’n digwydd.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu swm dyddiol safonol ar gyfer achos o ddisgrifiad penodedig.

(5)Pan fo achos o ddisgrifiad penodedig yn digwydd, rhaid cymryd mai’r costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt yw—

(a)y swm dyddiol safonol am bob diwrnod (neu gyfran briodol o’r swm hwnnw am ran o ddiwrnod) y mae person penodedig yn ymwneud ag ymdrin â’r achos;

(b)costau yr eir iddynt mewn gwirionedd mewn cysylltiad ag ymdrin â’r achos —

(i)ar lwfansau teithio neu gynhaliaeth, neu

(ii)ar ddarparu llety neu gyfleusterau eraill;

(c)unrhyw gostau y gellir eu priodoli i benodi personau penodedig i gynorthwyo i ymdrin â’r achos;

(d)unrhyw gostau neu alldaliadau cyfreithiol yr eir iddynt neu a wneir gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan mewn cysylltiad â’r achos.

(6)Yn yr adran hon ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 180 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

181Gorchmynion sy’n ymwneud â chostau partïonLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i’r achosion a ganlyn—

(a)achos ar gais, apêl neu atgyfeiriad a wneir i neu at Weinidogion Cymru o dan neu yn rhinwedd Rhan 3 neu 4 (pa un a yw’n cael ei ystyried neu ei hystyried mewn ymchwiliad lleol, mewn gwrandawiad neu ar sail sylwadau ysgrifenedig);

(b)unrhyw ymchwiliad lleol neu unrhyw wrandawiad arall a gynhelir neu sydd i’w gynnal gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan o dan neu yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rhannau hynny neu’r Rhan hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchmynion ynghylch—

(a)costau’r ceisydd neu’r apelydd neu awdurdod cynllunio neu barti arall i’r achos (a all gynnwys costau mewn cysylltiad ag ymchwiliad neu wrandawiad nad yw’n digwydd), a

(b)y person neu’r personau sydd i dalu’r costau hynny.

(3)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru orchymyn i berson dalu costau parti arall oni bai eu bod wedi eu bodloni—

(a)bod y person wedi ymddwyn yn afresymol mewn perthynas â’r achos, a

(b)bod ymddygiad afresymol y person wedi achosi i’r parti arall fynd i wariant diangen neu wariant a wastraffwyd.

(4)Rhaid i’r pŵer i wneud gorchmynion o dan yr adran hon hefyd gael ei arfer yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 175(5)(b) (gofynion gweithdrefnol).

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 181 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

PENNOD 3LL+CDILYSRWYDD PENDERFYNIADAU A’U CYWIRO

Dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynionLL+C

182Dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynion penodol sy’n ymwneud ag adeiladauLL+C

(1)Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd penderfyniad neu orchymyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo mewn unrhyw achos cyfreithiol ac eithrio cais am adolygiad statudol o dan adran 183.

(2)Y penderfyniadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt yw—

(a)penderfyniad ar adolygiad o dan adran 81 (adolygu penderfyniad rhestru);

(b)penderfyniad ar gais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 94 (atgyfeirio cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth neu i amrywio neu ddileu amodau);

(c)penderfyniad ar apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais am gydsyniad, i amrywio neu ddileu amodau neu i gymeradwyo manylion);

(d)penderfyniad ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 106 (gwaith brys ar dir y Goron);

(e)penderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i gadarnhau neu beidio â chadarnhau hysbysiad prynu, gan gynnwys—

(i)penderfyniad i gadarnhau’r hysbysiad mewn perthynas â rhan yn unig o’r tir y mae’n ymwneud ag ef, a

(ii)penderfyniad i roi cydsyniad adeilad rhestredi‍g neu gydsyniad ardal gadwraeth, neu gyfarwyddo bod rhaid rhoi cydsyniad, yn hytrach na chadarnhau’r hysbysiad mewn perthynas â’r tir neu unrhyw ran ohono;

(f)penderfyniad o dan adran 128(3)(a) neu (b) (penderfynu apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi) i roi cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth neu i ddileu amod mewn cydsyniad.

(3)Y gorchmynion y mae’r adran hon yn gymwys iddynt yw—

(a)gorchymyn o dan adran 107 (addasu neu ddirymu cydsyniad) a wneir gan awdurdod cynllunio (pa un a yw wedi ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru ai peidio) neu Weinidogion Cymru;

(b)gorchymyn o dan adran 115 (terfynu cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb) a wneir gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru;

(c)gorchymyn o dan adran 181 (gorchmynion sy’n ymwneud â chostau partïon) a wneir mewn cysylltiad â phenderfyniad a grybwyllir yn is-adran (2) neu orchymyn a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

(4)Nid yw’r adran hon yn atal unrhyw lys rhag arfer unrhyw awdurdodaeth mewn perthynas â gwrthodiad neu fethiant i wneud penderfyniad y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 182 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

183Cais i’r Uchel Lys am adolygiad statudol o benderfyniad neu orchymynLL+C

(1)Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad neu orchymyn y mae adran 182 yn gymwys iddo, neu’r awdurdod sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phenderfyniad neu orchymyn o’r fath, wneud cais am adolygiad statudol.

(2)Mae cais am adolygiad statudol yn gais i’r Uchel Lys sy’n cwestiynu dilysrwydd y penderfyniad neu’r gorchymyn ar y sail—

(a)nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu

(b)na chydymffurfiwyd â gofyniad yn y Ddeddf hon, neu mewn is-ddeddfwriaeth a wneir odani, mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn.

(3)Ni chaniateir gwneud cais am adolygiad statudol ond gyda chaniatâd yr Uchel Lys.

(4)Rhaid i gais am ganiatâd gael ei wneud cyn diwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth—

(a)yn achos cais sy’n ymwneud â penderfyniad a grybwyllir yn adran 182(2), y diwrnod y gwneir y penderfyniad;

(b)yn achos cais sy’n ymwneud â gorchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio o dan adran 107 ac a gadarnheir gan Weinidogion Cymru (gydag addasiadau neu hebddynt), y diwrnod y cadarnheir y gorchymyn;

(c)yn achos unrhyw gais arall sy’n ymwneud â gorchymyn o dan adran 107, y diwrnod y mae’r gorchymyn yn cymryd effaith;

(d)yn achos cais sy’n ymwneud â gorchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio o dan adran 115, y diwrnod y cadarnheir y gorchymyn;

(e)yn achos cais sy’n ymwneud ag unrhyw orchymyn arall a grybwyllir yn adran 182(3), y diwrnod y gwneir y gorchymyn.

(5)Wrth ystyried pa un ai i roi caniatâd, caiff yr Uchel Lys wneud gorchymyn interim sy’n atal dros dro weithrediad y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais arfaethedig am adolygiad statudol yn ymwneud ag ef hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr achos—

(a)ar y cais am ganiatâd, neu

(b)pan fo caniatâd wedi ei roi, ar y cais am adolygiad statudol.

(6)Ar gais am adolygiad statudol, caiff yr Uchel Lys—

(a)gwneud gorchymyn interim sy’n atal dros dro weithrediad y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr achos;

(b)diddymu’r penderfyniad hwnnw neu’r gorchymyn hwnnw os yw wedi ei fodloni—

(i)nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu

(ii)bod methiant i gydymffurfio â gofyniad yn y Ddeddf hon, neu mewn is-ddeddfwriaeth a wneir odani, mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn, wedi cael effaith andwyol sylweddol ar fuddiannau’r ceisydd.

(7)At ddibenion yr adran hon yr awdurdod sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phenderfyniad neu orchymyn yw—

(a)yn achos penderfyniad ar gais a atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru o dan adran 94, yr awdurdod cynllunio a wnaeth yr atgyfeiriad;

(b)yn achos penderfyniad ar apêl o dan adran 100, yr awdurdod cynllunio y gwnaed y cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef iddo;

(c)yn achos penderfyniad i gadarnhau neu i beidio â chadarnhau hysbysiad prynu—

(i)yr awdurdod cynllunio y cyflwynwyd yr hysbysiad prynu iddo (gweler adran 109), a

(ii)os yw Gweinidogion Cymru wedi addasu’r hysbysiad yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy roi awdurdod lleol arall neu ymgymerwr statudol yn lle’r awdurdod cynllunio, yr awdurdod lleol arall hwnnw neu’r ymgymerwr statudol hwnnw;

(d)yn achos penderfyniad o dan adran 128(3)(a) neu (b) ar apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi a ddyroddwyd gan awdurdod cynllunio, yr awdurdod a ddyroddodd yr hysbysiad;

(e)yn achos gorchymyn o dan adran 107, yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef yn ei ardal;

(f)yn achos gorchymyn o dan adran 115, unrhyw awdurdod cynllunio sy’n barti i’r cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef neu a oedd yn barti i’r cytundeb hwnnw;

(g)yn achos gorchymyn a wnaed o dan adran 181 mewn cysylltiad â phenderfyniad neu orchymyn a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (f), yr awdurdod a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r penderfyniad hwnnw neu’r gorchymyn hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 183 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

184Apelio i’r Uchel Lys yn erbyn penderfyniad sy’n ymwneud â hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Rhaid i reolau llys ddarpar‍u naill ai—

(a)y caiff person sydd â buddiant apelio i’r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol yn erbyn penderfyniad perthnasol a wneir gan Weinidogion Cymru, neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad perthnasol, y caiff person sydd â buddiant ei gwneud yn ofynnol iddynt ddatgan a llofnodi achos i gael barn yr Uchel Lys.

(2)At ddibenion yr adran hon—

(a)mae penderfyniad perthnasol yn unrhyw benderfyniad (gan gynnwys cyfarwyddyd neu orchymyn) a wneir mewn achos ar apêl o dan adran 127 yn erbyn hysbysiad gorfodi, ac eithrio penderfyniad o dan adran 128(3)(a) neu (b) i roi cydsyniad neu i ddileu amod mewn cydsyniad;

(b)mae’r personau a ganlyn yn bersonau sydd â buddiant—

(i)y person a wnaeth yr apêl,

(ii)yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad y mae’r hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef yn ei ardal, a

(iii)unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr adeilad.

(3)Ar unrhyw gam o’r achos ar apêl o dan adran 127, caiff Gweinidogion Cymru ddatgan cwestiwn cyfreithiol sy’n codi yn ystod yr achos ar ffurf achos arbennig i gael penderfyniad yr Uchel Lys.

(4)Mae penderfyniad gan yr Uchel Lys ar achos a ddatgenir o dan is-adran (3) i’w drin fel pe bai’n ddyfarniad gan y llys at ddibenion adran 16 o Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54) (awdurdodaeth y Llys Apêl i glywed a phenderfynu apelau o ddyfarniadau neu orchmynion yr Uchel Lys).

(5)Pan fo achos yn cael ei ddwyn yn rhinwedd yr adran hon, caiff yr Uchel Lys neu’r Llys Apêl (yn ôl y digwydd) orchymyn bod yr hysbysiad gorfodi i gael effaith, naill ai’n llawn neu i’r graddau a bennir yn y gorchymyn, hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr achos ac unrhyw ail wrandawiad a phenderfyniad ar yr apêl gan Weinidogion Cymru.

(6)Caniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (5) ar ba delerau bynnag y mae’r llys yn ystyried eu bod yn briodol, a all gynnwys telerau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio roi ymgymeriad ynghylch iawndal neu unrhyw fater arall.

(7)Caiff rheolau llys wneud darpariaeth—

(a)i Weinidogion Cymru fod yn barti i achos yn yr Uchel Lys neu’r Llys Apêl a ddygir yn rhinwedd yr adran hon, naill ai’n gyffredinol neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheolau;

(b)ynghylch pwerau’r Uchel Lys neu’r Llys Apêl i anfon y mater yn ôl at Weinidogion Cymru ar gyfer ail wrandawiad a phenderfyniad yn unol â barn neu gyfarwyddyd y llys.

(8)Ni chaniateir dwyn achos yn yr Uchel Lys o dan yr adran hon ond gyda chaniatâd yr Uchel Lys.

(9)Ni chaniateir dwyn apêl i’r Llys Apêl yn rhinwedd yr adran hon ond gyda chaniatâd yr Uchel Lys neu’r Llys Apêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 184 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Cywiro penderfyniadau Gweinidogion CymruLL+C

185Ystyr “dogfen penderfyniad” a “gwall cywiradwy”LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 186 a 187.

(2)Ystyr “dogfen penderfyniad” yw dogfen sy’n cofnodi—

(a)penderfyniad y mae adran 182 yn gymwys iddo (gweler is-adran (2) o’r adran honno),

(b)penderfyniad ar apêl o dan adran 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi), neu

(c)unrhyw benderfyniad arall a wneir o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon sydd o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Ystyr “gwall cywiradwy” yw gwall—

(a)sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw ran o’r ddogfen penderfyniad sy’n cofnodi’r penderfyniad, ond

(b)nad yw’n rhan o unrhyw resymau a roddir dros y penderfyniad,

ac mae “gwall” yn cynnwys hepgoriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 185 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

186Pŵer i gywiro gwallau cywiradwy mewn dogfennau penderfyniadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo dogfen penderfyniad yn cael ei dyroddi sy’n cynnwys gwall cywiradwy.

(2)Os bydd Gweinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod adolygu—

(a)yn cael cais ysgrifenedig i gywiro’r gwall oddi wrth unrhyw berson, neu

(b)yn anfon datganiad ysgrifenedig at y ceisydd sy’n esbonio’r gwall ac yn datgan eu bod yn ystyried ei gywiro,

rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu pa un ai i gywiro’r gwall ai peidio.

(3)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud cywiriad oni bai eu bod wedi hysbysu’r awdurdod cynllunio eu bod wedi cael y cais a grybwyllir yn is-adran (2)(a) neu wedi anfon y datganiad a grybwyllir yn is-adran (2)(b).

(4)Y cyfnod adolygu yw—

(a)pan fo’r ddogfen penderfyniad yn cofnodi penderfyniad y mae adran 182 yn gymwys iddo, y cyfnod y caniateir i gais am ganiatâd i wneud cais am adolygiad statudol o dan adran 183 gael ei wneud ynddo i’r Uchel Lys;

(b)pan fo’r ddogfen penderfyniad yn cofnodi penderfyniad ar apêl o dan adran 127 nad yw adran 182 yn gymwys iddo, y cyfnod y caniateir i gais am ganiatâd i ddwyn achos o dan adran 184 gael ei wneud ynddo i’r Uchel Lys, heb gynnwys unrhyw amser y caiff yr Uchel Lys estyn y cyfnod hwnnw,

ac nid oes gwahaniaeth a wneir unrhyw gais o’r fath mewn gwirionedd.

(5)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gywiro’r gwall neu ar ôl iddynt benderfynu peidio â’i gywiro, rhaid iddynt ddyroddi hysbysiad cywiro.

(6)Mae hysbysiad cywiro yn hysbysiad sydd—

(a)yn pennu cywiriad y gwall, neu

(b)yn rhoi hysbysiad o benderfyniad i beidio â’i gywiro.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno’r hysbysiad cywiro—

(a)i’r ceisydd;

(b)os nad y ceisydd yw perchennog yr adeilad neu’r tir arall y mae’r penderfyniad gwreiddiol yn ymwneud ag ef, i bob perchennog ar yr adeilad neu’r tir;

(c)i’r awdurdod cynllunio;

(d)os gofynnodd unrhyw berson arall am y cywiriad, i’r person hwnnw;

(e)i unrhyw berson arall a bennir, neu sydd o ddisgrifiad a bennir, mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(8)Pan ddyroddwyd y ddogfen penderfyniad gan berson a benodir o dan adran 173, caniateir i swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan yr adran hon gael eu harfer hefyd gan y person hwnnw neu gan unrhyw berson arall a benodir o dan yr adran honno i benderfynu apelau yn lle Gweinidogion Cymru.

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “yr awdurdod cynllunio” (“the planning authority”) yw’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad neu’r tir arall y mae’r penderfyniad gwreiddiol yn ymwneud ag ef yn ei ardal;

  • ystyr “y ceisydd” (“the applicant”) yw’r person a wnaeth y cais neu’r apêl, neu a gyflwynodd yr hysbysiad prynu, y mae’r penderfyniad gwreiddiol yn ymwneud ag ef neu hi;

  • ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag adeilad neu dir arall, yw—

    (a)

    perchennog ar yr ystad rydd-ddaliadol yn yr adeilad neu’r tir, neu

    (b)

    tenant o dan les ar yr adeilad neu’r tir a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 186 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

187Effaith a dilysrwydd hysbysiad cywiroLL+C

(1)Os gwneir cywiriad o dan adran 186—

(a)mae’r penderfyniad gwreiddiol i’w drin fel pe na bai wedi ei wneud;

(b)mae’r penderfyniad i’w drin at bob diben fel pe bai wedi ei wneud ar y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad cywiro.

(2)Os na wneir cywiriad—

(a)mae’r penderfyniad gwreiddiol yn parhau i gael effaith;

(b)nid yw adran 186 na’r adran hon yn effeithio ar unrhyw beth a wneir yn unol â’r penderfyniad neu mewn perthynas ag ef.

(3)Pan fo hysbysiad cywiro yn cael ei ddyroddi mewn perthynas â phenderfyniad y mae adran 182 yn gymwys iddo, mae adran 183 yn gymwys i’r hysbysiad cywiro fel pe bai’n benderfyniad y mae adran 182 yn gymwys iddo.

(4)Pan fo hysbysiad cywiro yn cael ei ddyroddi mewn perthynas â phenderfyniad y mae adran 184 yn gymwys iddo, mae adran 184 yn gymwys i’r hysbysiad cywiro fel pe bai’n benderfyniad y mae’r adran honno yn gymwys iddo.

(5)Pan fo rheoliadau o dan adran 185(2)(c) yn pennu disgrifiad o benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth sy’n cyfateb i adran 183 neu 184 ar gyfer cwestiynu dilysrwydd hysbysiad cywiro a ddyroddir mewn perthynas â phenderfyniad o’r disgrifiad hwnnw.

(6)Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd hysbysiad cywiro mewn unrhyw achos cyfreithiol ac eithrio i’r graddau a ddarperir yn rhinwedd yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 187 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

PENNOD 4LL+CCYFFREDINOL

Y GoronLL+C

188Cynrychiolaeth buddiannau’r Goron a buddiannau’r Ddugiaeth mewn tirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu sydd wedi ei awdurdodi i’w wneud at ddibenion Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon gan berchennog ar fuddiant mewn tir (gan gynnwys buddiant fel meddiannydd ar y tir yn unig) neu mewn perthynas â pherchennog o’r fath.

(2)I’r graddau y mae’r buddiant yn fuddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth, rhaid i’r peth gael ei wneud gan awdurdod priodol y Goron neu mewn perthynas â’r awdurdod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 188 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

189Cyflwyno dogfennau i’r GoronLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall i’r Goron yn ofynnol neu wedi ei awdurdodi o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon.

(2)Rhaid cyflwyno’r ddogfen i awdurdod priodol y Goron.

(3)Nid yw adrannau 205 a 206 (darpariaethau cyffredinol ynghylch dulliau cyflwyno) yn gymwys i gyflwyno’r ddogfen.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 189 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

190Camau gorfodi mewn perthynas â thir y GoronLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod cynllunio gymryd cam gorfodi perthnasol mewn perthynas â thir y Goron heb gytundeb awdurdod priodol y Goron.

(2)Caiff awdurdod priodol y Goron roi cytundeb yn ddarostyngedig i amodau.

(3)Yn yr adran hon ystyr “cam gorfodi perthnasol” yw unrhyw beth a wneir mewn cysylltiad â gorfodi gofyniad neu waharddiad a osodir gan neu o dan Ran 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon.

(4)Mae’n cynnwys—

(a)mynd ar dir, a

(b)dwyn achos neu wneud cais.

(5)Ond nid yw’n cynnwys—

(a)dyroddi neu gyflwyno hysbysiad (er enghraifft hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop dros dro), neu

(b)gwneud gorchymyn (er enghraifft gorchymyn o dan adran 107 neu 115).

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 190 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

DehongliLL+C

191Ystyr “awdurdod lleol” yn y Rhan honLL+C

Yn y Rhan hon mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir gan adran 157.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 191 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)