Chwilio Deddfwriaeth

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Parciau a gerddi hanesyddol

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, Croes Bennawd: Parciau a gerddi hanesyddol yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 01 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Parciau a gerddi hanesyddolLL+C

192Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi cofrestr o barciau a gerddi hanesyddolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o barciau a gerddi yng Nghymru y maent yn ystyried eu bod o ddiddordeb hanesyddol arbennig, a rhaid iddynt gyhoeddi’r gofrestr gyfredol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu‍ pa un ai i gynnwys, neu i ba raddau y dylid cynnwys, fel rhan o gofrestriad parc neu ardd—

(a)unrhyw adeilad neu ddŵr sydd arno neu arni, sy’n cydffinio ag ef neu â hi neu sy’n gyfagos iddo neu iddi, neu

(b)unrhyw dir sy’n cydffinio ag ef neu â hi neu sy’n gyfagos iddo neu iddi.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r gofrestr drwy—

(a)ychwanegu cofnod,

(b)dileu cofnod, neu

(c)diwygio cofnod.

(4)Cyn gynted ag y bo’n bosibl ar ôl diwygio’r gofrestr, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyflwyno hysbysiad eu bod wedi gwneud hynny i’r personau a grybwyllir yn is-adran (5), a

(b)yn achos unrhyw ddiwygiad o dan is-adran (3)(a) neu (c), gynnwys gyda’r hysbysiad gopi o’r cofnod neu’r cofnod diwygiedig yn y gofrestr.

(5)Y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (4) yw—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar y parc neu’r ardd o dan sylw (gan gynnwys, os ydynt yn wahanol, berchnogion a meddianwyr unrhyw beth sy’n ymddangos yn y gofrestr yn rhinwedd is-adran (2));

(b)yr awdurdod cynllunio y mae’r parc neu’r ardd yn ei ardal (gan gynnwys, os yw’n wahanol, yr awdurdod cynllunio y mae unrhyw beth sy’n ymddangos yn y gofrestr yn rhinwedd is-adran (2) yn ei ardal).

(6)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at barciau a gerddi yn cynnwys—

(a)mannau hamdden, a

(b)unrhyw diroedd eraill sydd wedi eu dylunio (gan gynnwys tirweddau addurnol sydd wedi eu dylunio).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 192 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 192 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(c)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?