Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Rhagolygol

Achosion arbennigLL+C

207Diffiniadau sy’n ymwneud â’r GoronLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “tir y Goron” yw tir y mae buddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth ynddo.

(3)Ystyr “buddiant y Goron” yw buddiant—

(a)sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron neu yn hawl Ei ystadau preifat, neu

(b)sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.

(4)Ystyr “buddiant y Ddugiaeth” yw—

(a)buddiant sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, neu

(b)buddiant sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw.

(5)Ystyr “buddiant preifat”, mewn perthynas â thir y Goron, yw buddiant nad yw’n fuddiant y Goron nac yn fuddiant y Ddugiaeth.

(6)Ystyr “awdurdod priodol y Goron”, mewn perthynas â thir y Goron, yw—

(a)yn achos tir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o Ystad y Goron, Comisiynwyr Ystad y Goron;

(b)mewn perthynas ag unrhyw dir arall sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron, yr adran o’r llywodraeth sy’n rheoli’r tir;

(c)mewn perthynas â thir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Ei ystadau preifat, person a benodir gan Ei Fawrhydi yn ysgrifenedig o dan y Llofnod Brenhinol neu, os na wneir unrhyw benodiad o’r fath, Gweinidogion Cymru;

(d)mewn perthynas â thir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, Canghellor y Ddugiaeth;

(e)mewn perthynas â thir sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw, person a benodir gan Ddug Cernyw neu gan berson sy’n meddu ar y Ddugiaeth am y tro;

(f)yn achos tir sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, yr adran.

(7)Mae “y Goron” i’w drin fel pe bai’n cynnwys Comisiwn y Senedd.

(8)Rhaid atgyfeirio unrhyw gwestiwn sy’n codi ynghylch pwy yw awdurdod priodol y Goron mewn perthynas ag unrhyw dir i’r Trysorlys, y mae ei benderfyniad yn derfynol.

(9)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriadau at ystadau preifat Ei Fawrhydi i’w darllen yn unol ag adran 1 o Ddeddf Ystadau Preifat y Goron 1862 (p. 37);

(b)mae cyfeiriadau at adran o’r llywodraeth yn cynnwys Gweinidog y Goron a Chomisiwn y Senedd (a gweler adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), sy’n darparu i gyfeiriadau at adran o’r llywodraeth gynnwys Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 207 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

208Tir Eglwys LoegrLL+C

(1)Pan fo unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn y Ddeddf hon neu a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall i berchennog ar dir, a thir Eglwys Loegr yw’r tir, rhaid cyflwyno dogfen gyfatebol i’r Bwrdd Cyllid priodol hefyd.

(2)Mae tir Eglwys Loegr sy’n perthyn i fywoliaeth eglwysig sydd heb ddeiliad i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n perthyn i’r Bwrdd Cyllid priodol.

(3)Rhaid i unrhyw ddigollediad sy’n daladwy o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â thir Eglwys Loegr—

(a)cael ei dalu i’r Bwrdd Cyllid priodol, a

(b)cael ei gymhwyso gan y Bwrdd hwnnw at y dibenion y byddai enillion gwerthu’r tir drwy gytundeb yn gymwys iddynt o dan unrhyw ddeddfiad neu Fesur gan Eglwys Loegr sy’n awdurdodi neu’n gwaredu enillion gwerthiant o’r fath.

(4)Pan fo swm yn adenilladwy o dan adran 22 mewn perthynas â thir Eglwys Loegr, caiff y Bwrdd Cyllid priodol gymhwyso unrhyw arian neu unrhyw warannau a ddelir ganddo i ad-dalu’r swm hwnnw.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “Bwrdd Cyllid priodol” (“appropriate Board of Finance”), mewn perthynas ag unrhyw dir, yw’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol ar gyfer yr esgobaeth y mae’r tir ynddi;

  • ystyr “Mesur gan Eglwys Loegr” (“Church Measure”) yw Mesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr;

  • ystyr “tir Eglwys Loegr” (“Church of England land”) yw tir—

    (a)

    sy’n perthyn i fywoliaeth eglwysig i Eglwys Loegr,

    (b)

    sy’n eglwys neu’n ffurfio rhan o eglwys sy’n ddarostyngedig i awdurdodaeth esgob yn un o esgobaethau Eglwys Loegr neu safle eglwys o’r fath, neu

    (c)

    sy’n gladdfa neu’n ffurfio rhan o gladdfa sy’n ddarostyngedig i awdurdodaeth esgob o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 208 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212