Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

(a gyflwynir gan adran 161(5))

ATODLEN 11EFFAITH ADRAN 161 YN PEIDIO Â BOD YN GYMWYS I ADEILAD

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

Cyflwyniad

1Mae’r Atodlen hon yn gymwys pan fo adeilad yn peidio â bod yn adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo.

Atebolrwydd troseddol

2Nid yw’r ffaith bod yr adeilad yn peidio â bod yn adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo yn effeithio ar atebolrwydd unrhyw berson i gael ei erlyn a’i gosbi am drosedd‍ o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd tra oedd adran 161 yn gymwys iddo.

Cydsyniad ardal gadwraeth

3Mae unrhyw achos ynghylch cais am gydsyniad ardal gadwraeth sy’n ymwneud â’r adeilad, neu sy’n deillio o gais o’r fath, yn darfod; ac mae unrhyw gydsyniad o’r fath yn peidio â chael effaith.

Hysbysiadau stop dros dro

4Mae unrhyw hysbysiad stop dros dro sy’n ymwneud â’r adeilad yn peidio â chael effaith.

Hysbysiadau gorfodi

5(1)Mae unrhyw hysbysiad gorfodi a ddyroddir sy’n ymwneud â’r adeilad yn peidio â chael effaith.

(2)Mae unrhyw achos ynghylch apêl yn erbyn hysbysiad o’r fath yn darfod.

(3)Er gwaethaf is-baragraff (1), mae adran 132(1) i (6) (fel y’i cymhwysir gan adran 163) yn parhau i gael effaith mewn perthynas—

(a)ag unrhyw dreuliau yr eir iddynt gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, neu gan berchennog neu feddiannydd, fel y’i crybwyllir yn yr adran honno, a

(b)ag unrhyw symiau a delir o ganlyniad i’r treuliau hynny.

Gwaharddebau

6Mae unrhyw achos ynghylch cais am waharddeb o dan adran 135 (fel y’i cymhwysir gan adran 163) sy’n ymwneud â’r adeilad yn darfod.