xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
(a gyflwynir gan adran 161(5))
1Mae’r Atodlen hon yn gymwys pan fo adeilad yn peidio â bod yn adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 11 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
2Nid yw’r ffaith bod yr adeilad yn peidio â bod yn adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo yn effeithio ar atebolrwydd unrhyw berson i gael ei erlyn a’i gosbi am drosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd tra oedd adran 161 yn gymwys iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 11 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
3Mae unrhyw achos ynghylch cais am gydsyniad ardal gadwraeth sy’n ymwneud â’r adeilad, neu sy’n deillio o gais o’r fath, yn darfod; ac mae unrhyw gydsyniad o’r fath yn peidio â chael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 11 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
4Mae unrhyw hysbysiad stop dros dro sy’n ymwneud â’r adeilad yn peidio â chael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 11 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
5(1)Mae unrhyw hysbysiad gorfodi a ddyroddir sy’n ymwneud â’r adeilad yn peidio â chael effaith.
(2)Mae unrhyw achos ynghylch apêl yn erbyn hysbysiad o’r fath yn darfod.
(3)Er gwaethaf is-baragraff (1), mae adran 132(1) i (6) (fel y’i cymhwysir gan adran 163) yn parhau i gael effaith mewn perthynas—
(a)ag unrhyw dreuliau yr eir iddynt gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru, neu gan berchennog neu feddiannydd, fel y’i crybwyllir yn yr adran honno, a
(b)ag unrhyw symiau a delir o ganlyniad i’r treuliau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 11 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
6Mae unrhyw achos ynghylch cais am waharddeb o dan adran 135 (fel y’i cymhwysir gan adran 163) sy’n ymwneud â’r adeilad yn darfod.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 11 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)