Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/11/2024. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Atodlen yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rhagolygol
(a gyflwynir gan adran 173(6))
1Yn yr Atodlen hon—
ystyr “yr awdurdod cynllunio” (“the planning authority”) yw’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef yn ei ardal;
ystyr “person a benodir” (“appointed person”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 173 i benderfynu apêl o dan adran 100 neu 127.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 12 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
2(1)Mae gan berson a benodir yr un pwerau a dyletswyddau—
(a)mewn perthynas ag apêl o dan adran 100 ag sydd gan Weinidogion Cymru o dan adran 104;
(b)mewn perthynas ag apêl o dan adran 127 ag sydd gan Weinidogion Cymru o dan adran 128.
(2)Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan fo unrhyw ddeddfiad (ac eithrio’r Atodlen hon neu adran 174)—
(a)yn cyfeirio (neu i’w ddarllen fel pe bai’n cyfeirio) at Weinidogion Cymru mewn cyd-destun sy’n ymwneud neu sy’n gallu ymwneud ag apêl y mae adran 173 yn gymwys iddi, neu
(b)yn cyfeirio (neu i’w ddarllen fel pe bai’n cyfeirio) at unrhyw beth a wneir neu a awdurdodir neu y mae’n ofynnol ei wneud gan Weinidogion Cymru, iddynt neu ger eu bron mewn cysylltiad ag unrhyw apêl o’r fath.
(3)I’r graddau y mae’r cyd-destun yn caniatáu hynny, mae’r deddfiad i’w ddarllen, mewn perthynas ag apêl a benderfynir neu sydd i’w phenderfynu gan berson a benodir, fel pe bai’r cyfeiriad at Weinidogion Cymru yn gyfeiriad at berson a benodir neu’n cynnwys cyfeiriad o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 12 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
3(1)Caiff person a benodir gynnal ymchwiliad lleol neu wrandawiad mewn cysylltiad ag apêl pan fo penderfyniad o dan adran 174 yn darparu i’r apêl gael ei hystyried yn y ffordd honno.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru neu berson a benodir benodi asesydd i gynghori’r person a benodir ar unrhyw faterion sy’n codi—
(a)mewn ymchwiliad lleol neu wrandawiad a gynhelir gan y person a benodir mewn cysylltiad ag apêl neu o ganlyniad i ymchwiliad neu wrandawiad o’r fath, neu
(b)mewn sylwadau ysgrifenedig a gyflwynir i’r person a benodir mewn cysylltiad ag apêl neu o ganlyniad i sylwadau o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 12 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
4(1)Ar unrhyw adeg cyn i berson a benodir benderfynu apêl, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)dirymu penodiad y person, a
(b)penodi person arall o dan adran 173 i benderfynu’r apêl.
(2)Pan fo penodiad newydd yn cael ei wneud, rhaid dechrau ystyried yr apêl, ac unrhyw ymchwiliad neu unrhyw wrandawiad arall mewn cysylltiad â’r apêl, o’r newydd.
(3)Nid yw is-baragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson gael cyfle—
(a)i gyflwyno sylwadau newydd, neu
(b)i addasu neu dynnu’n ôl unrhyw sylwadau y mae’r person eisoes wedi eu cyflwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 12 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 173(3)(b) bod apêl a fyddai fel arall yn cael ei phenderfynu gan berson a benodir i’w phenderfynu ganddynt hwy yn lle hynny.
(2)Rhaid i’r cyfarwyddyd ddatgan y rhesymau dros ei roi a rhaid ei gyflwyno—
(a)i’r person, os oes un, a benodir i benderfynu’r apêl,
(b)i’r apelydd,
(c)i’r awdurdod cynllunio, a
(d)yn achos apêl o dan adran 100, i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau sy’n ymwneud â phwnc yr apêl y mae rheoliadau o dan adran 91(4) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio eu hystyried.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) i (d) i gyflwyno sylwadau pellach os yw’r rhesymau dros y cyfarwyddyd yn codi materion nad yw unrhyw un neu ragor o’r personau hynny wedi cyflwyno sylwadau yn eu cylch.
(4)Ac eithrio fel y’i darperir gan is-baragraff (3), nid oes angen i Weinidogion Cymru roi cyfle i unrhyw berson—
(a)i ymddangos gerbron person a benodir ganddynt ac i gael gwrandawiad ganddo,
(b)i gyflwyno sylwadau newydd, neu
(c)i addasu neu dynnu’n ôl unrhyw sylwadau y mae’r person eisoes wedi eu cyflwyno.
(5)Wrth benderfynu’r apêl caiff Gweinidogion Cymru ystyried unrhyw adroddiad a wneir iddynt gan berson a benodwyd yn flaenorol i’w phenderfynu.
(6)Yn ddarostyngedig i’r paragraff hwn, mae’r darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n berthnasol i’r apêl yn gymwys iddi fel pe na bai’r Atodlen hon erioed wedi bod yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 12 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
6(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd pellach ddirymu cyfarwyddyd o dan adran 173(3)(b) ar unrhyw adeg cyn i’r apêl gael ei phenderfynu.
(2)Rhaid i’r cyfarwyddyd pellach ddatgan y rhesymau dros ei roi a rhaid ei gyflwyno i’r personau yr oedd paragraff 5(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyfarwyddyd o dan adran 173(3)(b) gael ei gyflwyno iddynt.
(3)Pan fo cyfarwyddyd pellach yn cael ei roi o dan y paragraff hwn, mae adran 173 a’r Atodlen hon yn gymwys fel pe na bai cyfarwyddyd wedi ei roi o dan baragraff 5 (ac yn unol â hynny rhaid i Weinidogion Cymru benodi person o dan yr adran honno i benderfynu’r apêl).
(4)Ond mae unrhyw beth a wneir gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan mewn cysylltiad â’r apêl a allai fod wedi cael ei wneud gan y person a benodir (gan gynnwys unrhyw drefniadau a wneir ar gyfer cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol), oni bai bod y person a benodir yn cyfarwyddo fel arall, i’w drin fel pe bai wedi ei wneud gan y person a benodir.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 12 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
7(1)Nid yw’n sail i gais i’r Uchel Lys o dan adran 183, nac i apêl i’r Uchel Lys o dan adran 184, y dylai apêl fod wedi cael ei phenderfynu gan Weinidogion Cymru yn hytrach na pherson a benodir, oni bai bod yr apelydd neu’r awdurdod cynllunio yn herio pŵer y person a benodir i benderfynu’r apêl cyn i’r penderfyniad ar yr apêl gael ei roi.
(2)Pan fo person a benodir yn aelod o staff Llywodraeth Cymru, mae swyddogaethau’r person o ran penderfynu apêl a gwneud unrhyw beth mewn cysylltiad â hi i’w trin at ddibenion Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3) fel pe baent yn swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 12 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys