Rhagolygol
Amnewid y person a benodirLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
4(1)Ar unrhyw adeg cyn i berson a benodir benderfynu apêl, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)dirymu penodiad y person, a
(b)penodi person arall o dan adran 173 i benderfynu’r apêl.
(2)Pan fo penodiad newydd yn cael ei wneud, rhaid dechrau ystyried yr apêl, ac unrhyw ymchwiliad neu unrhyw wrandawiad arall mewn cysylltiad â’r apêl, o’r newydd.
(3)Nid yw is-baragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson gael cyfle—
(a)i gyflwyno sylwadau newydd, neu
(b)i addasu neu dynnu’n ôl unrhyw sylwadau y mae’r person eisoes wedi eu cyflwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 12 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)