xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(a gyflwynir gan adran 211(2))
1(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gyfeiriad (penodol neu ymhlyg) yn y Ddeddf hon neu mewn unrhyw ddeddfiad arall, neu mewn unrhyw offeryn arall neu unrhyw ddogfen arall—
(a)at ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu
(b)at unrhyw beth a wneir neu sydd i’w wneud o dan ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu at ddibenion darpariaeth o’r fath.
(2)Mewn perthynas ag unrhyw adeg pan oedd darpariaeth gyfatebol mewn deddfiad a ddiddymwyd (neu mewn unrhyw ddeddfiad cynharach) yn cael effaith, mae’r cyfeiriad i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad—
(a)at y ddarpariaeth gyfatebol fel yr oedd yn cael effaith ar yr adeg honno, neu
(b)at bethau a wnaed neu a oedd i’w gwneud o dan y ddarpariaeth honno neu at ddibenion y ddarpariaeth honno fel yr oedd yn cael effaith ar yr adeg honno.
2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gyfeiriad at ddeddfiad a ddiddymwyd sydd wedi ei gynnwys mewn dogfen a wneir, a gyflwynir neu a ddyroddir ar ôl i’r deddfiad hwnnw gael ei ddiddymu.
(2)Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae’r cyfeiriad i’w ddarllen (yn ôl y cyd-destun) fel pe bai’n cyfeirio neu’n cynnwys cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol yn y Ddeddf hon.
3Mae’r Atodlen hon yn gymwys yn ychwanegol at adrannau 34 a 35 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) (arbedion cyffredinol ac effaith ailddeddfu) ac nid yw’n cyfyngu ar weithrediad yr adrannau hynny mewn cysylltiad â diddymu, dirymu neu ailddeddfu unrhyw ddeddfiad gan y Ddeddf hon.
4Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—
(a)mae cyfeiriadau at ddarpariaeth yn y Ddeddf hon yn cynnwys darpariaeth sydd wedi ei mewnosod mewn unrhyw ddeddfiad arall gan y Ddeddf hon;
(b)ystyr “deddfiad a ddiddymwyd” yw unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei ddiddymu gan y Ddeddf hon;
(c)mae cyfeiriadau at ddiddymu deddfiad yn cynnwys eithrio ei gymhwysiad neu ei effaith neu gyfyngu ar ei gymhwysiad neu ei effaith (pa un ai o ran Cymru neu fel arall).
5(1)Pan fo Gweinidogion Cymru, yn union cyn i Ran 2 o’r Ddeddf hon ddod i rym, yn warcheidwaid heneb yn rhinwedd gorchymyn gwarcheidiaeth—
(a)a wnaed, neu a gaiff ei drin fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 12(5) o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion Hynafol 1953 (p. 49), a
(b)a barheir mewn grym gan baragraff 2(1) o Atodlen 3 i Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (p. 46),
mae’r gorchymyn yn parhau mewn grym er gwaethaf y ffaith bod y Rhan honno wedi dod i rym.
(2)Mae’r Rhan honno yn gymwys tra bo’r gorchymyn gwarcheidiaeth mewn grym fel pe bai Gweinidogion Cymru wedi cael eu penodi yn warcheidwaid yr heneb drwy weithred o dan adran 45 o’r Ddeddf hon—
(a)nad yw’n cynnwys unrhyw gyfyngiad nad yw wedi ei gynnwys yn y gorchymyn, a
(b)a gyflawnwyd gan yr holl bersonau a oedd, ar yr adeg pan wnaed y gorchymyn, yn gallu drwy weithred benodi Gweinidogion Cymru yn warcheidwaid yr heneb.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu gorchymyn gwarcheidiaeth y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo.
6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan—
(a)cymerwyd heneb i warcheidiaeth cyn 9 Hydref 1981 (y dyddiad y daeth Rhan 1 o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 i rym), a
(b)yn union cyn i Ran 2 o’r Ddeddf hon ddod i rym, bo’r heneb o dan warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.
(2)Nid yw adran 47(2) (rheolaethu a rheoli’n llawn) yn gymwys i’r heneb oni bai—
(a)bod y weithred a oedd yn sefydlu gwarcheidiaeth yn darparu ar gyfer rheolaethu a rheoli’r heneb gan y gwarcheidwaid, neu
(b)bod y personau y mae gweithrediad y weithred warcheidiaeth, am y tro, yn cael effaith uniongyrchol arnynt wedi cydsynio i’r gwarcheidwaid reolaethu a rheoli’r heneb.
7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan—
(a)cymerwyd heneb i warcheidiaeth cyn 15 Awst 1913 (y dyddiad y daeth Deddf Cydgrynhoi a Diwygio Henebion Hynafol 1913 (p. 32) i rym), a
(b)yn union cyn i Ran 2 o’r Ddeddf hon ddod i rym, bo’r heneb o dan warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.
(2)Nid yw adran 55(1) (dyletswydd i sicrhau mynediad y cyhoedd) yn gymwys i’r heneb oni bai—
(a)bod y weithred a oedd yn sefydlu gwarcheidiaeth yn darparu ar gyfer mynediad y cyhoedd i’r heneb, neu
(b)bod y personau y mae gweithrediad y weithred warcheidiaeth, am y tro, yn cael effaith uniongyrchol arnynt wedi cydsynio i’r cyhoedd gael mynediad i’r heneb.
8At ddibenion paragraffau 6 a 7, mae gweithrediad gweithred warcheidiaeth sy’n ymwneud â heneb yn cael effaith uniongyrchol ar berson os yw’r person wedi ei rwymo gan y weithred honno a bod yr heneb yn ei feddiant neu yn ei feddiannaeth.
9Nid yw adran 33(4)(b) yn gymwys mewn perthynas ag achos ar gyfer trosedd sy’n ymwneud â hysbysiad stop dros dro a ddyroddwyd cyn i adran 33 ddod i rym.
10Nid yw adran 36(5)(a) yn gymwys mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad gorfodi a ddyroddwyd cyn i adran 36 ddod i rym.
11(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad prynu sydd wedi ei gyflwyno i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru mewn perthynas ag adeilad mewn Parc Cenedlaethol cyn i adran 109 ddod i rym.
(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn i’w darllen fel pe bai cyfeiriadau at awdurdod cynllunio yn gyfeiriadau at y cyngor—
(a)adran 183(7)(c);
(b)adran 186(3) a (7);
(c)Atodlen 9.