xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
9Nid yw adran 33(4)(b) yn gymwys mewn perthynas ag achos ar gyfer trosedd sy’n ymwneud â hysbysiad stop dros dro a ddyroddwyd cyn i adran 33 ddod i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 14 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
10Nid yw adran 36(5)(a) yn gymwys mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad gorfodi a ddyroddwyd cyn i adran 36 ddod i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 14 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
11(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad prynu sydd wedi ei gyflwyno i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru mewn perthynas ag adeilad mewn Parc Cenedlaethol cyn i adran 109 ddod i rym.
(2)Mae’r darpariaethau a ganlyn i’w darllen fel pe bai cyfeiriadau at awdurdod cynllunio yn gyfeiriadau at y cyngor—
(a)adran 183(7)(c);
(b)adran 186(3) a (7);
(c)Atodlen 9.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 14 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)