Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Rhagolygol

119Pŵer awdurdod cynllunio i ddyroddi hysbysiad stop dros droLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff awdurdod cynllunio ddyroddi hysbysiad stop dros dro os yw’n ystyried—

(a)bod gwaith wedi cael ei gyflawni neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas ag adeilad rhestredig yn ei ardal sy’n golygu torri adran 88 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig iddo, a

(b)y dylai’r gwaith (neu unrhyw ran o’r gwaith) gael ei stopio ar unwaith, gan roi sylw i’w effaith ar gymeriad yr adeilad fel un sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

(2)Rhaid i hysbysiad stop dros dro—

(a)pennu’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef,

(b)gwahardd cyflawni’r gwaith (neu unrhyw ran o’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad),

(c)nodi rhesymau’r awdurdod dros ddyroddi’r hysbysiad, a

(d)datgan effaith adran 121 (y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro).

(3)Rhaid i’r awdurdod cynllunio arddangos copi o’r hysbysiad stop dros dro ar yr adeilad rhestredig y mae’n ymwneud ag ef; a rhaid i’r copi bennu’r dyddiad y caiff ei arddangos am y tro cyntaf.

(4)Ond—

(a)os nad yw’n rhesymol ymarferol arddangos copi o’r hysbysiad ar yr adeilad, neu

(b)os yw’r awdurdod yn ystyried y gallai arddangos copi o’r hysbysiad ar yr adeilad ei ddifrodi,

caiff yr awdurdod, yn lle hynny, arddangos copi mewn lle amlwg mor agos i’r adeilad ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(5)Caiff yr awdurdod gyflwyno copi o’r hysbysiad i unrhyw berson y mae’r awdurdod yn ystyried—

(a)ei fod yn cyflawni’r gwaith y mae’r hysbysiad yn ei wahardd neu’n peri neu’n caniatáu iddo gael ei gyflawni,

(b)ei fod yn feddiannydd ar yr adeilad rhestredig y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, neu

(c)bod ganddo fuddiant yn yr adeilad.

(6)Ni chaiff hysbysiad stop dros dro wahardd cyflawni gwaith o ddisgrifiad, neu o dan amgylchiadau, a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)