Rhagolygol
15Declarasiynau o berchnogaeth mewn cysylltiad â henebLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig oni bai bod un o’r declarasiynau a ganlyn a lofnodwyd gan neu ar ran y ceisydd wedi ei gynnwys gyda’r cais—
(a)declarasiwn nad oedd unrhyw berson ac eithrio’r ceisydd yn berchennog ar yr heneb ar ddechrau’r 21 o ddiwrnodau a ddaeth i ben â diwrnod y cais,
(b)declarasiwn bod y ceisydd wedi rhoi hysbysiad i’r holl bersonau (ac eithrio’r ceisydd) a oedd, ar ddechrau’r cyfnod hwnnw, yn berchnogion ar yr heneb, o’r pethau sy’n ofynnol gan is-adran (2) ac unrhyw reoliadau o dan is-adran (3),
(c)declarasiwn bod y ceisydd—
(i)yn methu â gwneud declarasiwn o dan baragraff (a) na (b),
(ii)wedi rhoi hysbysiad i’r rhai hynny o’r personau a grybwyllir ym mharagraff (b) ac a enwir yn y declarasiwn, o’r pethau sy’n ofynnol gan is-adran (2) ac unrhyw reoliadau o dan is-adran (3), ond
(iii)wedi methu â chanfod enwau a chyfeiriadau gweddill y personau a grybwyllir ym mharagraff (b), er iddo gymryd pob cam rhesymol i wneud hynny, neu
(d)declarasiwn bod y ceisydd—
(i)yn methu â gwneud declarasiwn o dan baragraff (a), a
(ii)er iddo gymryd pob cam rhesymol i wneud hynny, wedi methu â chanfod enwau a chyfeiriadau unrhyw un o’r personau a grybwyllir ym mharagraff (b).
(2)Rhaid i hysbysiad at ddibenion is-adran (1)(b) neu (c)(ii)—
(a)nodi’r heneb y mae’n ymwneud â hi (gan gynnwys cyfeiriad neu leoliad yr heneb, a’i henw (os oes un)),
(b)datgan bod cais am gydsyniad heneb gofrestredig i’w wneud mewn perthynas â’r heneb,
(c)nodi’r person sy’n gwneud y cais (a, phan fo’r ceisydd yn gwneud cais ar ran rhywun, nodi’r person arall), a
(d)disgrifio’r gwaith y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu pethau ychwanegol y mae rhaid eu cynnwys mewn hysbysiad.
(4)Mae’n drosedd i berson gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio â’r adran hon—
(a)gwneud declarasiwn y mae’r person yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol, neu
(b)yn ddi-hid, wneud declarasiwn sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol.
(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(6)Yn yr adran hon ystyr “perchennog” yw—
(a)perchennog ar yr ystad rydd-ddaliadol, neu
(b)tenant o dan les a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)