xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 3RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG

Digollediad

21Digollediad am wrthod cydsyniad heneb gofrestredig neu roi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo cais am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith o ddisgrifiad a grybwyllir yn is-adran (3) yn cael ei wrthod, neu

(b)pan fo cais am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith o ddisgrifiad o’r fath yn cael ei ganiatáu yn ddarostyngedig i amodau.

(2)Mae gan unrhyw berson sydd â buddiant yn yr heneb o dan sylw hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw wariant yr eir iddo neu unrhyw golled arall neu unrhyw ddifrod arall a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i effaith y penderfyniad ar y cais; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn yn yr adran hon.

(3)Y gwaith y mae digollediad yn daladwy mewn cysylltiad ag ef o dan yr adran hon yw—

(a)gwaith sy’n rhesymol angenrheidiol ar gyfer cyflawni unrhyw ddatblygiad yr oedd caniatâd cynllunio—

(i)wedi ei roi ar ei gyfer (ac eithrio drwy orchymyn datblygu cyffredinol) cyn i’r heneb o dan sylw ddod yn heneb gofrestredig, a

(ii)yn dal i fod yn effeithiol pan wnaed y cais am gydsyniad heneb gofrestredig,

(b)gwaith sy’n ddatblygiad y rhoddir caniatâd cynllunio ar ei gyfer drwy orchymyn datblygu cyffredinol,

(c)gwaith nad yw’n ddatblygiad, a

(d)gwaith sy’n rhesymol angenrheidiol er mwyn parhau â defnydd o’r heneb at ddiben yr oedd yn cael ei defnyddio ato yn union cyn dyddiad y cais am gydsyniad heneb gofrestredig (ond gan anwybyddu unrhyw ddefnydd sy’n torri unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol sy’n gymwys i’r defnydd o’r heneb).

(4)Mae’r digollediad sy’n daladwy o dan yr adran hon mewn cysylltiad â gwaith o fewn is-adran (3)(a) wedi ei gyfyngu i ddigollediad ar gyfer gwariant yr eir iddo neu golled arall neu ddifrod arall a ddioddefir yn rhinwedd y ffaith, o ganlyniad i benderfyniad Gweinidogion Cymru, na ellid cyflawni datblygiad y rhoddwyd y caniatâd cynllunio o dan sylw ar ei gyfer heb dorri adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi).

(5)Nid oes gan berson hawlogaeth i gael ei ddigolledu o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw waith o fewn is-adran (3)(b) nac (c) os byddai’r gwaith o dan sylw neu unrhyw ran o’r gwaith yn arwain at ddymchwel neu ddinistrio’r heneb yn gyfan gwbl neu’n rhannol, neu os gallai wneud hynny.

(6)Pan fo cydsyniad heneb gofrestredig yn cael ei roi yn ddarostyngedig i amodau, nid oes gan berson hawlogaeth i gael ei ddigolledu o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw waith o fewn is-adran (3)(d) oni fyddai cydymffurfio â’r amodau hynny i bob pwrpas yn ei gwneud yn amhosibl defnyddio’r heneb at y diben yr oedd yn cael ei defnyddio ato cyn dyddiad y cais.

(7)Wrth asesu unrhyw ddigollediad sy’n daladwy o dan yr adran hon am golled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir—

(a)mae i’w thybio y byddai unrhyw gais dilynol am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith o ddisgrifiad tebyg yn cael ei benderfynu yn yr un ffordd, ond

(b)os ymrwymodd Gweinidogion Cymru, yn achos gwrthod cydsyniad heneb gofrestredig, wrth wrthod y cydsyniad hwnnw, i roi cydsyniad ar gyfer gwaith arall a fyddai’n effeithio ar yr heneb pe bai cais yn cael ei wneud, rhaid rhoi sylw i’r ymrwymiad hwnnw.

(8)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â—

(a)diwrnod yr hysbysiad o wrthod cydsyniad heneb gofrestredig, neu

(b)y diwrnod y rhoddir cydsyniad heneb gofrestredig.

(9)Yn yr adran hon ystyr “gorchymyn datblygu cyffredinol” yw gorchymyn datblygu o dan adran 59 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) sy’n gymwys i’r holl dir yng Nghymru (yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau a bennir yn y gorchymyn).