26Darpariaeth bellach ynghylch cytundebau partneriaethau henebion cofrestredigLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Rhaid i gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig fod yn ysgrifenedig.
(2)Rhaid i gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig—
(a)nodi’r heneb neu’r tir cysylltiedig y mae’n ymwneud â hi neu ag ef;
(b)disgrifio unrhyw waith y mae’n ymwneud ag ef;
(c)pennu’r dyddiad y mae’n cymryd effaith a’i hyd;
(d)gwneud darpariaeth i’r partïon adolygu telerau’r cytundeb ar ysbeidiau a bennir ynddo;
(e)gwneud darpariaeth ar gyfer ei amrywio (ond mae hyn yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan is-adran (5));
(f)gwneud darpariaeth ar gyfer ei derfynu (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 27).
(3)Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig gynnwys darpariaeth ddeilliadol a darpariaeth ganlyniadol.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu telerau eraill y mae rhaid eu cynnwys mewn cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)yr ymgynghoriad y mae rhaid iddo gael ei gynnal cyn i gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig gael ei wneud neu ei amrywio;
(b)y cyhoeddusrwydd y mae rhaid iddo gael ei roi i gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig cyn neu ar ôl iddo gael ei wneud neu ei amrywio.
(6)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (5)(a) ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn cyn gwneud cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig—
(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb neu’r tir cysylltiedig y mae’r cytundeb arfaethedig yn ymwneud â hi neu ag ef;
(b)pob awdurdod lleol y mae’r heneb neu’r tir cysylltiedig yn ei ardal;
(c)unrhyw awdurdod lleol sydd, yn rhinwedd Pennod 6, yn warcheidwad ar yr heneb neu’r tir cysylltiedig.
(7)Ni chaiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig osod unrhyw rwymedigaeth neu unrhyw atebolrwydd ar berson nad yw’n barti i’r cytundeb, na rhoi unrhyw hawl i’r person hwnnw; ac nid yw cydsyniad heneb gofrestredig a roddir gan gytundeb o’r fath yn cael effaith ond er budd y partïon iddo.
(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddatgymhwyso, cymhwyso neu atgynhyrchu, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon at ddibenion cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig.