50Caffael hawddfreintiau a hawliau tebyg eraill dros dir yng nghyffiniau henebLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gaffael hawddfraint dros dir sy’n cydffinio ag unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth yn rhinwedd y Bennod hon neu sydd yn ei chyffiniau, os ydynt yn ystyried bod angen yr hawddfraint—
(a)at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn adran 49(2) sy’n ymwneud â’r heneb honno, neu
(b)ar gyfer defnyddio unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb honno at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hynny.
(2)Caniateir i gaffaeliad o dan is-adran (1) gael ei wneud drwy gytundeb neu’n orfodol.
(3)Caiff awdurdod lleol gaffael hawddfraint dros dir sy’n cydffinio ag unrhyw heneb sydd o dan ei berchnogaeth yn rhinwedd y Bennod hon neu sydd yn ei chyffiniau, os yw’n ymddangos iddo fod angen yr hawddfraint—
(a)at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn adran 49(2) sy’n ymwneud â’r heneb honno, neu
(b)ar gyfer defnyddio unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb honno at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hynny.
(4)Ni chaniateir i gaffaeliad o dan is-adran (3) gael ei wneud ond drwy gytundeb.
(5)Caiff gwarcheidwad heneb neu unrhyw dir gaffael, er budd yr heneb neu’r tir, hawl berthnasol dros dir sy’n cydffinio â’r heneb neu’r tir neu sydd yn ei chyffiniau neu ei gyffiniau, os yw’r gwarcheidwad yn ystyried bod angen yr hawl—
(a)at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir yn adran 49(2) sy’n ymwneud â’r heneb honno neu’r tir hwnnw, neu
(b)ar gyfer defnyddio unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb honno neu’r tir hwnnw at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hynny.
(6)At ddibenion is-adran (5) ystyr “hawl berthnasol” yw hawl (o unrhyw ddisgrifiad) a fyddai’n hawddfraint pe bai’n cael ei chaffael gan berchennog ar yr heneb neu’r tir o dan sylw.
(7)O ran caffael hawl o dan is-adran (5)—
(a)yn achos Gweinidogion Cymru, caniateir ei wneud drwy gytundeb neu’n orfodol;
(b)yn achos awdurdod lleol, ni chaniateir ei wneud ond drwy gytundeb.
(8)O ran hawl a gaffaelir o dan is-adran (5)—
(a)mae i’w thrin at ddibenion ei chaffael o dan yr adran hon ac ym mhob cyswllt arall fel pe bai’n hawddfraint gyfreithiol, a
(b)caniateir iddi gael ei gorfodi gan y gwarcheidwaid am y tro ar yr heneb neu’r tir y’i caffaelwyd er ei budd neu ei fudd fel pe baent yn berchennog mewn meddiant ar rydd-daliad yr heneb honno neu’r tir hwnnw.
(9)Os yw’r amod yn is-adran (10) wedi ei fodloni mewn perthynas â heneb, caniateir i hawl a gaffaelir o dan is-adran (5) drwy gytundeb —
(a)cael ei dirymu gan y grantwr, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y cytundeb y’i caffaelwyd odano, a
(b)cael ei dirymu gan unrhyw olynydd yn nheitl y grantwr mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r tir y mae’n arferadwy drosto ac y mae gan yr olynydd fuddiant ynddo.
(10)Yr amod a grybwyllir yn is-adran (9) yw bod yr heneb—
(a)yn peidio â bod o dan warcheidiaeth ac eithrio yn rhinwedd cael ei chaffael gan ei gwarcheidwaid, neu
(b)yn peidio â bodoli.
(11)Mae hawl a gaffaelir o dan is-adran (5) yn bridiant tir lleol.
(12)Mae’r pwerau caffael yn yr adran hon yn cynnwys pŵer i gaffael hawddfraint neu hawl drwy roi hawl newydd.
(13)Mae Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67) yn gymwys i unrhyw gaffaeliad gorfodol o dan yr adran hon.
(14)Mae Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) yn gymwys (i’r graddau y mae’n berthnasol) i gaffaeliad drwy gytundeb o dan yr adran hon, ac eithrio adrannau 4 i 8, adran 10 ac adran 31 o’r Ddeddf honno.