Chwilio Deddfwriaeth

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 65

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, Adran 65 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 03 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

65Pwerau mynediad i arolygu henebion cofrestredig etc.LL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i arolygu heneb gofrestredig yn y tir, arno neu odano i asesu ei chyflwr ac i asesu—

(a)a oes unrhyw waith sy’n effeithio ar yr heneb yn cael ei gyflawni yn groes i adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi), neu

(b)a yw wedi cael ei difrodi neu’n debygol o gael ei difrodi (gan waith o’r fath neu fel arall).

(2)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i arolygu heneb gofrestredig yn y tir, arno neu odano mewn cysylltiad—

(a)â chais am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith sy’n effeithio ar yr heneb honno,

(b)â chynnig i addasu neu ddirymu cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer unrhyw waith o’r fath, neu

(c)â chynnig i wneud gorchymyn o dan adran 27 (terfynu cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb).

(3)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i asesu a yw unrhyw waith y mae cydsyniad heneb gofrestredig neu awdurdodiad o dan adran 12 yn ymwneud ag ef yn cael ei gyflawni neu wedi cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad neu’r awdurdodiad (gan gynnwys unrhyw amodau).

(4)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir y mae unrhyw waith y mae cydsyniad heneb gofrestredig neu awdurdodiad o dan adran 12 yn ymwneud ag ef yn cael ei gyflawni arno er mwyn—

(a)arolygu’r tir (gan gynnwys unrhyw adeiladau neu unrhyw strwythurau eraill ar y tir) i gofnodi unrhyw faterion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol, neu

(b)arsylwi ar y gwaith hwnnw yn cael ei gyflawni gyda golwg—

(i)ar archwilio a chofnodi unrhyw wrthrychau neu unrhyw ddeunydd arall o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol a ddarganfyddir yng nghwrs y gwaith hwnnw, a

(ii)ar gofnodi unrhyw faterion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol a ddarganfyddir yng nghwrs y gwaith hwnnw.

(5)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano i godi a chynnal ar safle’r heneb neu gerllaw iddo unrhyw hysbysfyrddau ac unrhyw byst marcio y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddymunol i warchod yr heneb rhag difrod damweiniol neu fwriadol.

(6)Ni chaniateir i’r pŵer yn is-adran (5) gael ei arfer heb gytundeb pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir.

(7)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 65 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?