Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Rhagolygol

97Pŵer i roi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodauLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caniateir rhoi cydsyniad adeilad rhestredig yn ddarostyngedig i amodau.

(2)Caniateir i amod, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol—

(a)i nodweddion penodol yr adeilad rhestredig gael eu diogelu, naill ai fel rhan ohono neu ar ôl cael eu datgysylltu ohono;

(b)i unrhyw ddifrod a achosir i’r adeilad gan y gwaith gael ei unioni ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau;

(c)i’r adeilad neu unrhyw ran ohono gael ei ailadeiladu neu ei hailadeiladu ar ôl cyflawni unrhyw waith, gan ddefnyddio deunyddiau gwreiddiol i’r graddau y bo’n ymarferol a chan wneud unrhyw addasiadau, a bennir yn yr amodau, i’r tu mewn i’r adeilad.

(3)Caniateir rhoi cydsyniad hefyd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i fanylion penodedig y gwaith (pa un a ydynt wedi eu nodi mewn cais am gydsyniad ai peidio) gael eu cymeradwyo’n ddiweddarach.

(4)Rhaid i amod a osodir o dan is-adran (3)—

(a)yn achos cydsyniad a roddir gan awdurdod cynllunio, ei gwneud yn ofynnol cael cymeradwyaeth yr awdurdod hwnnw;

(b)yn achos cydsyniad a roddir gan Weinidogion Cymru, bennu pa un ai cymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio neu gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru sy’n ofynnol.

(5)Rhaid i gydsyniad i ddymchwel adeilad rhestredig gael ei roi yn ddarostyngedig i amod na chaniateir i’r gwaith ddechrau—

(a)hyd nes bod hysbysiad o’r cynnig i ddymchwel yr adeilad wedi ei roi i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a

(b)hyd nes, ar ôl rhoi’r hysbysiad hwnnw, fod y Comisiwn Brenhinol—

(i)wedi cael mynediad rhesymol i’r adeilad am o leiaf 1 mis at ddiben ei gofnodi, neu

(ii)wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod wedi cwblhau cofnodi’r adeilad neu nad yw’n dymuno ei gofnodi.

(6)Os rhoddir cydsyniad i ddymchwel adeilad rhestredig heb yr amod sy’n ofynnol gan is-adran (5), mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi yn ddarostyngedig i’r amod hwnnw.

(7)Caniateir i gydsyniad i ddymchwel adeilad rhestredig hefyd gael ei roi yn ddarostyngedig i amod na chaniateir i’r gwaith ddechrau hyd nes—

(a)bod contract ar gyfer gwaith i ailddatblygu’r safle wedi ei wneud, a

(b)bod caniatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer y gwaith ailddatblygu hwnnw.

(8)Nid yw is-adrannau (5) a (6) yn atal amodau eraill rhag cael eu gosod at ddiben galluogi cofnodi adeilad rhestredig.

(9)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau roi cyfeiriadau at gorff arall yn lle’r cyfeiriadau yn is-adran (5) at Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)