Adran 13 - Adroddiad blynyddol ynghylch cymorth a ddarparwyd o dan adran 8
116.Mae adran 13 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio adroddiad blynyddol, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, ynghylch y cymorth ariannol a chymorth arall a ddarparwyd yn ystod y cyfnod. Mae is-adran (5) yn darparu mai’r cyfnod adrodd cyntaf yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 8 yn dod i rym ac sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2025; bydd cyfnodau adrodd dilynol yn cyd-fynd â blynyddoedd ariannol (1 Ebrill hyd at 31 Mawrth).
117.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth benodol gael ei chynnwys yn yr adroddiad. Dyma gyfanswm unrhyw gymorth ariannol a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd, manylion yr holl gymorth ariannol a chymorth arall a ddarparwyd o dan bob cynllun cymorth a sefydlir o dan adran 8, a disgrifiad o unrhyw gymorth ac eithrio cymorth ariannol a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd, ond nid o dan gynllun.
118.Gall Gweinidogion Cymru, fel y nodir yn is-adran (3), gynnwys unrhyw wybodaeth arall yn yr adroddiad y maent yn ystyried ei bod yn briodol. Bydd yr hyn a ystyrir yn briodol yn ddibynnol ar amgylchiadau penodol, ond enghraifft bosibl fyddai gwybodaeth am unrhyw gymorth ariannol sy’n cael ei adennill a’r rhesymau am y cam gweithredu hwn.
119.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad blynyddol a’i osod gerbron Senedd Cymru yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd.