Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1RHEOLI TIR YN GYNALIADWY

Yr amcanion

1Yr amcanion rheoli tir yn gynaliadwy

(1)Mae’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy fel a ganlyn.

(2)Yr amcan cyntaf yw cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy, ac wrth wneud hynny—

(a)diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain, a

(b)cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2).

(3)Yr ail amcan yw lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd, ac wrth wneud hynny—

(a)diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain, a

(b)cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

(4)Y trydydd amcan yw cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu, ac wrth wneud hynny—

(a)diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain, a

(b)cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

(5)Y pedwerydd amcan yw cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd, ac wrth wneud hynny—

(a)diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain, a

(b)cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

(6)At ddibenion yr amcan cyntaf, mae’r ffactorau sy’n berthnasol i ba un a yw bwyd a nwyddau eraill yn cael eu cynhyrchu mewn modd cynaliadwy yn cynnwys gwytnwch busnesau amaethyddol o fewn y cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt a’u cyfraniad i’r economi leol, ymysg pethau eraill.

(7)At ddibenion y trydydd amcan, mae’r ffactorau sy’n berthnasol i wytnwch ecosystemau yn cynnwys, ymysg pethau eraill—

(a)amrywiaeth rhwng ecosystemau ac oddi mewn iddynt;

(b)y cysylltiadau rhwng ecosystemau ac oddi mewn iddynt;

(c)graddfa ecosystemau;

(d)cyflwr ecosystemau (gan gynnwys eu strwythur a’u gweithrediad);

(e)gallu ecosystemau i addasu.

(8)At ddibenion y pedwerydd amcan, mae “adnoddau diwylliannol” yn cynnwys treftadaeth ddiwylliannol a’r amgylchedd hanesyddol, ymysg pethau eraill.

Y ddyletswydd

2Dyletswydd Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r amcanion

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru arfer pob swyddogaeth y cyfeirir ati yn yr adran hon yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaeth honno’n briodol (ond gweler adran 3).

(2)Y swyddogaethau y cyfeirir atynt yw—

(a)swyddogaethau o dan y Ddeddf hon;

(b)swyddogaethau o dan unrhyw ddeddfiad arall sy’n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth ar gyfer—

(i)amaethyddiaeth (gweler adran 51), neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu

(ii)gweithgareddau ategol (gweler adran 52);

(c)swyddogaethau o dan unrhyw ddeddfiad arall sy’n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i Weinidogion Cymru reoleiddio—

(i)amaethyddiaeth, neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu

(ii)gweithgareddau ategol.

(3)Nid yw is-adran (1) ond yn gymwys i’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2)(b) a (2)(c) i’r graddau y caiff y swyddogaethau hynny eu harfer i ddarparu cymorth ar gyfer neu i reoleiddio—

(a)amaethyddiaeth, neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu

(b)gweithgareddau ategol.

3Eithriadau i’r ddyletswydd yn adran 2

Nid yw’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys i’r swyddogaethau a ganlyn—

(a)y swyddogaeth o dan adran 16 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol);

(b)y swyddogaeth o dan adran 17 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin), i’r graddau y mae’r swyddogaeth yn cael ei harfer mewn modd sy’n cael effaith ar gynllun y taliad sylfaenol;

(c)y swyddogaeth o dan adran 49 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, drosiannol etc.), i’r graddau y mae’n cael ei harfer at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 16 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol), o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, neu ar gyfer rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth o’r fath;

(d)y swyddogaeth o dan adran 49 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, drosiannol etc.), i’r graddau—

(i)y mae’r swyddogaeth honno’n cael ei harfer at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 17 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin), o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, neu ar gyfer rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, a

(ii)y mae’r swyddogaeth honno’n cael ei harfer mewn modd sy’n cael effaith ar y cynllun taliad sylfaenol;

(e)swyddogaeth o dan ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 16);

(f)swyddogaeth o dan ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 17), i’r graddau y mae’r swyddogaeth yn cael ei harfer mewn modd sy’n cael effaith ar y cynllun taliad sylfaenol.

Monitro ac adrodd

4Dangosyddion a thargedau rheoli tir yn gynaliadwy

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio datganiad sy’n nodi—

(a)dangosyddion sydd i’w cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy drwy arfer y swyddogaethau y mae’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys iddynt, a

(b)targedau mewn perthynas â’r dangosyddion hynny.

(2)Rhaid i’r datganiad gynnwys—

(a)o leiaf un dangosydd neilltuol ar gyfer pob amcan rheoli tir yn gynaliadwy, a

(b)o leiaf un targed neilltuol sy’n ymwneud ag o leiaf un dangosydd neilltuol ar gyfer pob amcan rheoli tir yn gynaliadwy.

(3)Yn ogystal â hynny, caiff y datganiad nodi dangosyddion pellach a thargedau pellach.

(4)Caiff dangosydd pellach a nodir o dan is-adran (3) fod ar gyfer un amcan rheoli tir yn gynaliadwy neu ar gyfer mwy nag un.

(5)Caiff targed pellach a nodir o dan is-adran (3) ymwneud ag un dangosydd (pa un a yw’n ddangosydd a nodir o dan is-adran (2) neu’n ddangosydd pellach a nodir o dan is-adran (3)) neu â mwy nag un.

(6)Caiff dangosydd neu darged ymwneud â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.

(7)Caniateir gosod targed drwy gyfeirio at unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 31 Rhagfyr 2025—

(a)cyhoeddi’r datganiad, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

(9)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu a diwygio’r datganiad ar unrhyw adeg.

(10)Mae is-adrannau (2) i (8) yn gymwys mewn perthynas â datganiad diwygiedig fel y maent yn gymwys i’r datganiad gwreiddiol.

(11)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r datganiad, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)cyhoeddi’r datganiad diwygiedig, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

5Camau i’w cymryd wrth lunio neu ddiwygio dangosyddion a thargedau

(1)Wrth lunio neu ddiwygio datganiad o dan adran 4, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau a nodir yn is-adrannau (2) a (3).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)unrhyw ddangosyddion cenedlaethol (fel y’u diwygir o dro i dro) a gyhoeddir o dan adran 10 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) y maent yn ystyried eu bod yn berthnasol,

(b)yr adroddiad diweddaraf ar gyflwr adnoddau naturiol a gyhoeddir o dan adran 8 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3), i’r graddau y mae’n ymwneud ag amaethyddiaeth, gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu weithgareddau ategol,

(c)y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol diweddaraf a gyhoeddir o dan adran 9 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i’r graddau y mae’n ymwneud ag amaethyddiaeth, gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu weithgareddau ategol,

(d)yr Adroddiad Effaith diweddaraf (os oes un) a gyhoeddir o dan adran 14, ac

(e)unrhyw faterion eraill (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, unrhyw ystadegau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cynhyrchu amaethyddol neu incwm busnesau amaethyddol, sy’n deillio o arolygon o’r sector) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, a

(b)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

6Adroddiadau rheoli tir yn gynaliadwy

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad o dan yr adran hon, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, yn nodi eu hasesiad o—

(a)y cynnydd cronnus a wnaed, ers i adran 2 ddod i rym, tuag at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy drwy arfer y swyddogaethau y mae’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys iddynt, a

(b)y cynnydd a wnaed, yn ystod y cyfnod adrodd, tuag at gyflawni’r amcanion hynny drwy arfer y swyddogaethau hynny.

(2)Rhaid i’r adroddiad nodi, mewn perthynas â phob dangosydd yn y datganiad (neu’r datganiad diwygiedig) a gyhoeddir o dan adran 4—

(a)y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r dangosydd hwnnw yn ystod y cyfnod adrodd, a

(b)sut y mae hynny wedi cyfrannu at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy.

(3)Rhaid i’r adroddiad hefyd bennu, mewn perthynas â phob targed yn y datganiad (neu’r datganiad diwygiedig), pa un a yw’r targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd ai peidio.

(4)Os yw targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd, rhaid i’r adroddiad egluro sut y mae hynny wedi cyfrannu at gyflawni un neu ragor o’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy.

(5)Os nad yw targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd, rhaid i’r adroddiad—

(a)egluro pam, a

(b)nodi’r camau y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cymryd, neu’n bwriadu eu cymryd—

(i)er mwyn cyflawni’r targed, neu

(ii)er mwyn gosod targed priodol newydd.

(6)Os nad yw Gweinidogion Cymru hyd yma wedi gallu penderfynu pa un a yw targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd ai peidio, rhaid i’r adroddiad—

(a)egluro pam, a

(b)nodi’r camau y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cymryd, neu’n bwriadu eu cymryd, er mwyn penderfynu pa un a yw’r targed wedi ei gyflawni ai peidio.

(7)Caiff yr adroddiad hefyd asesu ac adrodd ar—

(a)unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol wrth asesu’r cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy;

(b)y blaenoriaethau allweddol, y risgiau allweddol a’r cyfleoedd allweddol mewn perthynas â chyflawni’r amcanion hynny;

(c)yr effaith y mae’r cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r amcanion hynny yn ei chael ar gyflawni nodau ac amcanion eraill.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd—

(a)cyhoeddi’r adroddiad sy’n ymwneud â’r cyfnod adrodd, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

(9)Yn yr adran hon, ystyr y “cyfnod adrodd” yw—

(a)yn achos yr adroddiad cyntaf, y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 2 yn dod i rym ac sy’n dod i ben â 31 Rhagfyr 2025;

(b)yn achos adroddiadau dilynol, cyfnodau olynol o bum mlynedd.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (9) drwy reoliadau.

7Camau i’w cymryd wrth lunio adroddiadau

Wrth lunio adroddiad o dan adran 6, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)yr adroddiad diweddaraf ar gyflwr adnoddau naturiol a gyhoeddir o dan adran 8 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3), i’r graddau y mae’n ymwneud ag amaethyddiaeth, gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu weithgareddau ategol,

(b)y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol diweddaraf a gyhoeddir o dan adran 9 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i’r graddau y mae’n ymwneud ag amaethyddiaeth, gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu weithgareddau ategol,

(c)yr Adroddiad Effaith diweddaraf (os oes un) a gyhoeddir o dan adran 14, a

(d)unrhyw faterion eraill (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, unrhyw ystadegau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cynhyrchu amaethyddol neu incwm busnesau amaethyddol, sy’n deillio o arolygon o’r sector) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill