xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3MATERION SY’N YMWNEUD AG AMAETHYDDIAETH A CHYNHYRCHION AMAETHYDDOL

PENNOD 1CASGLU A RHANNU DATA

25Cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth: gofyniad i ddarparu gwybodaeth

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson sydd mewn cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, neu sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath, ddarparu gwybodaeth am faterion sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o weithgareddau’r person y mae cysylltiad rhyngddynt â’r gadwyn gyflenwi, i’r graddau y mae’r gweithgareddau yn cael eu cynnal yng Nghymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i berson sydd mewn cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, neu sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath, ddarparu gwybodaeth am faterion sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o weithgareddau’r person y mae cysylltiad rhyngddynt â’r gadwyn gyflenwi, i’r graddau y mae’r gweithgareddau yn cael eu cynnal yng Nghymru.

(3)Gweler adran 26 am ddarpariaeth ynghylch—

(a)ystyr “cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth”,

(b)pwy sydd mewn cadwyn gyflenwi o’r fath, ac

(c)pwy sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath.

(4)Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-adran (1) neu (2) ar unigolyn mewn cadwyn gyflenwi i’r graddau y maent yn y gadwyn gyflenwi gan mai hwy, neu aelodau o’u haelwyd, yw’r defnyddwyr olaf (gweler adran 26).

(5)Nid yw gofyniad a osodir ar berson o dan is-adran (1) neu (2) yn gymwys i ba wybodaeth bynnag y byddai gan y person, mewn achos cyfreithiol, yr hawl i wrthod ei darparu ar sail braint gyfreithiol.

(6)Rhaid i ofyniad o dan is-adran (1) fod yn ysgrifenedig.

26Ystyr “cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth”

(1)Mae’r adran hon yn cael effaith at ddibenion y Bennod hon.

(2)“Cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth” yw cadwyn gyflenwi ar gyfer darparu eitemau o fwyd neu ddiod i unigolion er mwyn eu bwyta a’u hyfed yn bersonol pan fo’r eitemau wedi eu gwneud o’r cyfan neu ran o’r canlynol neu’n cynnwys y cyfan neu ran o’r canlynol, neu wedi eu cynhyrchu gan ddefnyddio (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, a hynny’n gyfan gwbl ai peidio), y cyfan neu ran ohonynt—

(a)unrhyw beth a dyfir neu a gynhyrchir fel arall wrth amaethu,

(b)unrhyw anifail a gedwir wrth amaethu, neu

(c)unrhyw anifail neu unrhyw beth arall a gymerir o’r gwyllt.

(3)Y personau mewn cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth yw—

(a)yr unigolion y darperir eitemau o fwyd a diod iddynt fel a ddisgrifir yn is-adran (2) (“y defnyddwyr olaf”),

(b)y personau sy’n amaethu neu (yn ôl y digwydd) sy’n cymryd pethau o’r gwyllt, ac

(c)unrhyw berson yn y gadwyn gyflenwi rhwng y personau hynny a’r defnyddwyr olaf.

(4)Y personau sydd â “cysylltiad agos” â’r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth yw—

(a)unrhyw berson sy’n cyflenwi hadau, stoc, cyfarpar, bwyd anifeiliaid, gwrtaith, plaladdwyr, meddyginiaethau neu eitemau tebyg i’r personau o fewn is-adran (3)(b) ar gyfer eu defnyddio wrth amaethu neu gymryd pethau o’r gwyllt,

(b)unrhyw berson sy’n darparu, i bersonau o fewn is-adran (3)(b) neu (c), wasanaethau sy’n ymwneud ag—

(i)iechyd anifeiliaid, neu blanhigion, sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi, neu

(ii)diogelwch neu ansawdd y bwyd neu’r ddiod i’w ddarparu neu ei darparu i’r defnyddwyr olaf,

(c)unrhyw berson sy’n cynnal gweithgareddau a allai effeithio ar fater a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii) o baragraff (b), a

(d)cyrff sy’n cynrychioli personau o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (b) ac (c) o is-adran (3) a pharagraffau (a), (b) ac (c) o’r is-adran hon.

(5)Mae gweithgareddau o’r math a grybwyllir yn is-adran (4)(c) i’w trin at ddibenion adran 25(1) a (2) fel pe baent yn gysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi, ond nid yw hyn i’w ddarllen fel pe bai’n cyfyngu ar gyffredinolrwydd “cysylltiad” yn adran 25(1) a (2).

(6)Yn yr adran hon, mae “hadau” yn cynnwys bylbiau a phethau eraill y mae planhigion yn tyfu ohonynt.

27Gweithgaredd perthnasol: gofyniad i ddarparu gwybodaeth

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cynnal gweithgaredd perthnasol (ac nad yw’n berson sydd mewn cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, neu sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath) ddarparu gwybodaeth am faterion sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd i’r graddau y mae’n cael ei gynnal yng Nghymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cynnal gweithgaredd perthnasol (ac nad yw’n berson sydd mewn cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, neu sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath) ddarparu gwybodaeth am faterion sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd i’r graddau y mae’n cael ei gynnal yng Nghymru.

(3)Gweler adran 28 am ddarpariaeth ynghylch ystyr “gweithgaredd perthnasol”.

(4)Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-adran (1) neu (2) ar berson mewn perthynas â gweithgaredd perthnasol i’r graddau y cynhelir y gweithgaredd ac eithrio i wneud elw neu i gael budd.

(5)Nid yw gofyniad a osodir ar berson o dan is-adran (1) neu (2) yn gymwys i ba wybodaeth bynnag y byddai gan y person, mewn achos cyfreithiol, yr hawl i wrthod ei darparu ar sail braint gyfreithiol.

(6)Rhaid i ofyniad o dan is-adran (1) fod yn ysgrifenedig.

28Ystyr “gweithgaredd perthnasol”

Yn y Bennod hon, ystyr, “gweithgaredd perthnasol” yw—

(a)gweithgaredd a restrir yn adran 51(1) (ystyr “amaethyddiaeth”);

(b)gweithgaredd ategol.

29Gofyniad i bennu dibenion y caniateir prosesu gwybodaeth ar eu cyfer

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ofyniad a osodir o dan adran 25(1) neu (2) neu 27(1) neu (2).

(2)Rhaid i’r gofyniad bennu’r dibenion y caniateir prosesu’r wybodaeth ar eu cyfer.

(3)Rhaid i bob diben a bennir fod ar y rhestr o ddibenion yn is-adran (4) neu fod wedi ei gwmpasu gan y rhestr honno.

(4)Y rhestr o ddibenion yw—

(a)helpu personau mewn cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth neu bersonau sy’n cynnal gweithgareddau perthnasol i—

(i)cynyddu cynhyrchiant,

(ii)rheoli risgiau (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, risgiau ariannol, risgiau masnachu nad ydynt yn risgiau ariannol, risgiau hinsoddol, a risgiau o glefydau neu lygredd, neu risgiau gan glefydau neu lygredd), neu

(iii)rheoli anwadalrwydd y farchnad;

(b)hyrwyddo tryloywder neu degwch mewn cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth neu weithgareddau perthnasol;

(c)hyrwyddo iechyd neu les anifeiliaid o fath a gedwir ar gyfer cynhyrchu bwyd, diod, ffibrau neu ledrau neu’r gallu i olrhain anifeiliaid o’r fath;

(d)hyrwyddo iechyd neu ansawdd planhigion neu bridd;

(e)lleihau effeithiau amgylcheddol andwyol gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chadwyni cyflenwi bwyd-amaeth neu weithgareddau perthnasol;

(f)lleihau gwastraff sy’n codi o weithgareddau sy’n gysylltiedig â chadwyni cyflenwi bwyd-amaeth neu weithgareddau perthnasol;

(g)monitro neu ddadansoddi marchnadoedd sy’n gysylltiedig â chadwyni cyflenwi bwyd-amaeth neu weithgareddau perthnasol;

(h)

(5)Gweler adran 26 am ystyr “cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth” (a “pherson mewn” cadwyn o’r fath).

(6)Gweler adran 28 am ystyr “gweithgaredd perthnasol”.

30Dyletswydd i gyhoeddi gofyniad o dan adran 25(1) neu 27(1) ar ffurf ddrafft

(1)Cyn i ofyniad penodol gael ei osod o dan adran 25(1) neu 27(1), rhaid bod Gweinidogion Cymru—

(a)wedi cyhoeddi—

(i)drafft o’r gofyniad,

(ii)disgrifiad o’r personau y bwriedir i’r gofyniad gael ei osod arnynt, a

(iii)y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau ar y drafft, na chaiff fod yn gynharach na 4 wythnos ar ôl y dyddiad cyhoeddi, a

(b)wedi penderfynu, ar ôl ystyried y sylwadau a ddaeth i law cyn y dyddiad cau (ac unrhyw faterion perthnasol eraill), a ddylid gosod y gofyniad yn nhelerau’r drafft neu mewn telerau diwygiedig.

(2)Wedi i’r penderfyniad i osod gofyniad gael ei wneud o dan is-adran (1)(b), caiff Gweinidogion Cymru osod y gofyniad hwnnw ar berson (o dan adran 25(1) neu adran 27(1), yn ôl y digwydd) ar unrhyw adeg pan fo’r person o fewn y disgrifiad a gyhoeddir o dan is-adran (1)(a)(ii) mewn cysylltiad â’r gofyniad.

31Darparu’r wybodaeth ofynnol a chyfyngiadau ar ei phrosesu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ofyniad a osodir o dan adran 25(1) neu (2) neu 27(1) neu (2).

(2)Ni chaniateir i wybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r gofyniad gael ei phrosesu ond at ddibenion a bennir yn y gofyniad (gweler adran 29).

(3)Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)i’r person y darperir yr wybodaeth iddo, a

(b)i berson y datgelir yr wybodaeth iddo,

ond, yn achos person o fewn paragraff (b), nid yw is-adran (2) yn awdurdodi prosesu sy’n groes i’r telerau y gwneir y datgeliad arnynt.

(4)Mae is-adrannau (2) a (3) yn ddarostyngedig i is-adrannau (7) i (10).

(5)Caiff y gofyniad bennu sut a phryd y mae’r wybodaeth ofynnol i gael ei darparu, gan gynnwys (ymysg pethau eraill)—

(a)y person y mae’r wybodaeth i’w darparu iddo (a all fod yn berson heblaw Gweinidogion Cymru);

(b)ar ba ffurf y mae’r wybodaeth i gael ei darparu;

(c)drwy ba ddull y mae i’w darparu;

(d)yr amser neu’r amseroedd y mae rhaid, neu erbyn pryd y mae rhaid, ei darparu.

(6)Rhaid i’r gofyniad bennu—

(a)y mathau o brosesu y caniateir i’r wybodaeth fod yn ddarostyngedig iddynt, a

(b)os yw’r mathau o brosesu a bennir yn cynnwys datgelu o unrhyw fath, ar ba ffurfiau y caniateir i’r wybodaeth gael ei datgelu.

(7)Ni chaniateir i’r wybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r gofyniad—

(a)bod yn ddarostyngedig i fathau o brosesu heblaw am y rheini a bennir yn y gofyniad, a

(b)cael ei datgelu ar unrhyw ffurf heblaw am y rheini a bennir yn y gofyniad,

ac eithrio o dan amgylchiadau a bennir yn y gofyniad.

(8)Mae is-adran (9) yn gymwys—

(a)os darperir gwybodaeth mewn ymateb i’r gofyniad, a

(b)os yw person (“P”) yn bwriadu datgelu’r wybodaeth ar ffurf a ganiateir gan is-adran (7).

(9)Pan fo P yn bwriadu datgelu’r wybodaeth ar ffurf nad yw’n ffurf ddienw—

(a)rhaid i P ystyried a fyddai datgelu’r wybodaeth ar y ffurf honno yn rhagfarnu, neu yn gallu rhagfarnu, buddion masnachol unrhyw berson, a

(b)os yw P yn ystyried y byddai’n gwneud hynny, neu y gallai wneud hynny, rhaid i’r wybodaeth (os caiff ei datgelu) gael ei datgelu yn hytrach ar ffurf ddienw.

(10)Ond os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod er budd y cyhoedd i’r wybodaeth gael ei datgelu ar ffurf nad yw’n ffurf ddienw—

(a)caniateir i’r wybodaeth gael ei datgelu ar ffurf nad yw’n ddienw, cyn belled â bod y datgeliad ar ffurf a ganiateir gan is-adran (7), a

(b)nid yw is-adran (9)(b) yn gymwys.

(11)Yn y Bennod hon, ystyr “prosesu”, mewn perthynas â gwybodaeth, yw gweithrediad, neu gyfres o weithrediadau sy’n cael ei wneud neu eu gwneud ar wybodaeth, neu gyfres o wybodaeth, megis—

(a)casglu, cofnodi, trefnu, strwythuro neu storio,

(b)diwygio neu newid,

(c)adalw, ymgynghori neu ddefnyddio,

(d)datgelu drwy drosglwyddo, lledaenu neu sicrhau bod yr wybodaeth ar gael fel arall,

(e)cysoni neu gyfuno, neu

(f)cyfyngu, dileu neu ddinistrio.

32Gorfodi gofynion gwybodaeth

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gorfodi gofyniad a osodir o dan adran 25(1) neu (2) neu 27(1) neu (2).

(2)Yn y darpariaethau a ganlyn o’r adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau o dan is-adran (1).

(3)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys (ymysg pethau eraill)—

(a)darpariaeth ar gyfer gosod cosbau ariannol am beidio â chydymffurfio â gofynion, boed hwy’n gosbau—

(i)o swm penodedig,

(ii)o swm a gyfrifir mewn modd penodedig,

(iii)o swm, heb fod yn fwy nag uchafswm penodedig neu uchafswm a gyfrifir mewn modd penodedig, a benderfynir gan berson penodedig neu berson o ddisgrifiad penodedig, neu

(iv)drwy atal dros dro, neu gadw’n ôl, daliad o unrhyw symiau;

(b)darpariaeth ar gyfer adennill symiau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chosbau ariannol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer llog, gosod symiau yn erbyn symiau eraill, a sicrwydd ar gyfer taliad;

(c)darpariaeth ar gyfer rhoi cyngor neu rybuddion;

(d)darpariaeth ar gyfer derbyn ymgymeriadau i gymryd, neu i ymatal rhag cymryd, camau penodol;

(e)darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau‍ (gan gynnwys swyddogaethau sy’n cynnwys arfer disgresiwn) i berson;

(f)darpariaeth am adolygu, neu apelio yn erbyn, pethau a wnaed (gan gynnwys penderfyniadau a wnaed) mewn cysylltiad â gorfodi gofynion.

(4)Yn is-adran (3)(a), mae “modd penodedig” yn cynnwys (ymysg pethau eraill) modd a lunnir drwy gyfeirio at fater penodedig megis elw, incwm neu drosiant person.

33Adolygu gweithrediad ac effaith adrannau 25 i 32

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad o dan yr adran hon, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, ar weithrediad ac effaith adrannau 25 i 32 yn ystod y cyfnod.

(2)Wrth lunio’r adroddiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd—

(a)cyhoeddi’r adroddiad sy’n ymwneud â’r cyfnod adrodd, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

(4)Yn yr adran hon, ystyr y “cyfnod adrodd” yw—

(a)yn achos yr adroddiad cyntaf, y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 25 yn dod i rym;

(b)yn achos adroddiadau dilynol, gyfnodau olynol o bum mlynedd.