- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio cynllun, a elwir yn “cynllun cymorth amlflwydd”, sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch y defnydd y disgwylir ei wneud o’r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan adran 8 yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun yn gymwys iddo.
(2)Rhaid i gynllun cymorth amlflwydd—
(a)pennu’r cyfnod y mae’n gymwys mewn perthynas ag ef;
(b)nodi sut y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu darparu cymorth yn ystod y cyfnod er mwyn cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy (yn unol ag adran 2);
(c)pan fwriedir darparu cymorth yn ystod y cyfnod o dan gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3), disgrifio pob cynllun—
(i)sy’n weithredol, neu
(ii)y mae Gweinidogion Cymru yn disgwyl y bydd yn dod yn weithredol yn ystod y cyfnod;
(d)disgrifio unrhyw gymorth y bwriedir iddo gael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ac eithrio o dan gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3).
(3)Y cyfnod y bydd y cynllun cyntaf yn gymwys mewn perthynas ag ef yw’r cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â 1 Ionawr 2025.
(4)Ni chaiff y cyfnod y bydd cynlluniau dilynol yn gymwys mewn perthynas ag ef fod yn fyrrach na phum mlynedd.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw cynllun yn dod i ben heb i gynllun newydd fod yn ei le.
(6)Rhaid i gynllun sy’n cael ei lunio o dan yr adran hon gael ei osod gerbron Senedd Cymru, a’i gyhoeddi, gan Weinidogion Cymru—
(a)yn achos y cynllun cyntaf, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol cyn dechrau’r cyfnod y mae’n gymwys mewn perthynas ag ef, a
(b)yn achos pob cynllun dilynol, o leiaf 12 mis cyn dechrau’r cyfnod y mae’n gymwys mewn perthynas ag ef.
(7)Os yw, cyn diwedd y cyfnod y mae cynllun yn gymwys mewn perthynas ag ef, unrhyw wybodaeth a nodir neu a ddisgrifir yn y cynllun yn unol â pharagraffau (b), (c) neu (d) o is-adran (2) yn peidio â bod yn gywir neu’n gyflawn, rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygio’r cynllun cyn gynted ag y bo’n ymarferol gwneud hynny.
(8)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r cynllun, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
(a)cyhoeddi’r cynllun diwygiedig, a
(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys