Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn yn ymwneud â Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024 a basiwyd gan Senedd Cymru ar 14 Tachwedd 2023 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 5 Chwefror 2024.

2.Lluniwyd y nodiadau gan Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Nid ydynt yn rhan o’r Ddeddf ac nid ydynt wedi eu cymeradwyo gan y Senedd.

3.Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol hyn ar y cyd â’r Ddeddf. Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf. Pan fo’n ymddangos nad oes angen unrhyw esboniad na sylw ar adran unigol o’r Ddeddf, nis rhoddir.

Trosolwg Cyffredinol O’R Ddeddf

4.Mae 5 adran i’r Ddeddf. Mae’n galluogi Gweinidogion Cymru i ddatgymhwyso darpariaethau yn Neddf Caffael 2023, a fyddai fel arall yn berthnasol wrth gaffael gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, i’r graddau y mae darpariaeth amgen wedi ei gwneud mewn cysylltiad â hynny. Mae’r Ddeddf hefyd yn galluogi Gweinidogion i greu cyfundrefn gaffael amgen newydd ar gyfer y gwasanaethau hyn. Nid yw’n rhagnodi manylion ynghylch cynnwys unrhyw gyfundrefn newydd, a fyddai’n cael eu nodi yn y rheoliadau a wneir o dan y pŵer y mae’r Ddeddf yn ei fewnosod yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

5.Nid yw’r Ddeddf ond yn gymwys i gaffael gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd, a nwyddau neu wasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau iechyd hynny. Bydd ffurfiau eraill ar gaffael a gyflawnir gan y sector iechyd yn parhau’n ddarostyngedig i reolau presennol Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, hyd nes y caiff y rhain eu disodli gan unrhyw ddiwygiadau caffael ehangach yn y dyfodol.

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 2 – Pŵer i ddatgymhwyso rheolau caffael mewn perthynas â chaffael y GIG yng Nghymru

6.Mae adran 2 o’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddatgymhwyso darpariaethau yn Neddf Caffael 2023, i’r graddau y maent yn anghyson â darpariaethau amgen a wneir mewn cysylltiad â chaffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Gwneir hyn drwy fewnosod adran newydd 120A yn Neddf Caffael 2023.

7.Mae is-adran (1) o’r adran newydd 120A yn darparu’r pŵer y cyfeirir ato uchod i Weinidogion Cymru, sydd i’w arfer drwy wneud rheoliadau (drwy offeryn statudol).

8.Mae is-adran (2) yn darparu gwybodaeth ychwanegol am sut y mae’r pŵer yn is-adran (1) yn gweithredu, drwy ddiffinio dau derm perthnasol.

9.Yn gyntaf, mae’n esbonio mai ystyr y cyfeiriad yn is-adran (1) at ‘regulated health service procurement in Wales’ yw caffael nwyddau a gwasanaethau a gyflawnir gan ‘relevant authority’ o dan y trefniadau a wneir o dan adran newydd 10A sydd wedi ei mewnosod yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gan adran 3 o’r Ddeddf hon. Mae’r pŵer i ddatgymhwyso’r darpariaethau hyn ar gael i Weinidogion Cymru ni waeth a yw rheoliadau a wneir o dan yr adran newydd 10A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 wedi dod i rym.

10.Yn ail, mae is-adran (2) hefyd yn esbonio bod i’r cyfeiriad at ‘relevant authority’ yr un ystyr ag a geir yn yr adran newydd 10A sydd wedi ei mewnosod yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae hyn yn golygu bod y term ‘relevant authority’ yn cynnwys awdurdodau lleol yng Nghymru, Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG (er enghraifft Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru) ac awdurdodau iechyd arbennig (er enghraifft Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru).

11.Yn unol ag adran 122(10) o Ddeddf Caffael 2023, mae rheoliadau a wneir o dan yr adran sydd wedi ei mewnosod yn y Ddeddf honno gan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i Senedd Cymru eu cymeradwyo cyn y gellir eu gwneud.

Adran 3 – Caffael gwasanaethau etc. fel rhan o’r GIG yng Nghymru

12.Dylid darllen yr adran hon ar y cyd ag adran 2, gan ei bod yn rhoi’r gallu i Weinidogion Cymru i roi trefniadau newydd yn eu lle ar gyfer caffael y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Os bydd Gweinidogion Cymru yn cyflwyno trefniadau newydd ar gyfer caffael y gwasanaeth iechyd drwy reoliadau a wneir o dan yr adran hon, bydd rhwymedigaeth ar awdurdodau perthnasol i ddilyn y trefniadau hynny yn hytrach na deddfwriaeth gaffael ehangach wrth gaffael gwasanaethau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Bydd y trefniadau newydd hyn, unwaith y cânt eu cyflwyno, yn cymryd lle’r trefniadau o dan Ddeddf Caffael 2023, y mae Gweinidogion yn gallu eu datgymhwyso drwy reoliadau a wneir o dan adran 2 ond dim ond i’r graddau y maent yn gymwys i gaffael gwasanaethau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

13.Mae adran 3 yn rhoi’r gallu i Weinidogion Cymru i gyflwyno gofynion deddfwriaethol newydd drwy reoliadau. Byddai’r rheoliadau hyn yn nodi’r gofynion sy’n gymwys i’r modd y mae awdurdodau perthnasol yn caffael gwasanaethau fel rhan o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn ogystal â nwyddau a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau iechyd hynny.

14.Mae’r Ddeddf yn gwneud hyn drwy ddiwygio Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i fewnosod adran newydd (adran 10A). Mae geiriad llawn yr adran newydd sy’n cael ei mewnosod yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 wedi ei nodi yn is-adran (2).

15.Mae adran newydd 10A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn cynnwys nifer o faterion y mae rhaid i’r rheoliadau newydd eu cwmpasu. Felly, mae cynnwys y rhain yn ofyniad deddfwriaethol ac nid yw’n fater o ddisgresiwn i Weinidogion Cymru wrth ddatblygu’r rheoliadau. Mae is-adrannau (2) a (3) o’r adran newydd 10A yn darparu bod rhaid i’r rheoliadau gynnwys manylion ynghylch y prosesau y mae angen i awdurdodau perthnasol eu dilyn wrth gyflawni ymarfer tendro cystadleuol, yn ogystal â darparu bod rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth i sicrhau bod prosesau caffael yn cefnogi tryloywder, tegwch, gwirio cydymffurfedd a rheoli achosion o wrthdaro buddiannau. Mae is-adran (4) yn cynnwys gofyniad bod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori’n briodol â’r cyhoedd a chyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a ddaw i law cyn gwneud rheoliadau.

16.Mae is-adran (6) o’r adran newydd 10A yn darparu bod rhaid i reoliadau sy’n manylu ar gyfundrefn newydd ar gyfer caffael y gwasanaeth iechyd ddod gyda chanllawiau priodol. Mae is-adran (7) yn gosod gofyniad cyfatebol ar awdurdodau perthnasol i roi ystyriaeth i’r canllawiau hyn.

17.Mae is-adran (8) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu’r modd y gweithredir rheoliadau ac i gyhoeddi casgliadau’r adolygiad o fewn 5 mlynedd wedi i’r rheoliadau ddod i rym.

18.Mae is-adran (9) yn diffinio ‘relevant authorities’ at y dibenion hyn – mae’r diffiniad yr un fath â’r un y cyfeirir ato ym mharagraff 10 o’r Nodiadau Esboniadol hyn.

19.Mae is-adran (3) o adran 3 o’r Ddeddf yn gwneud ychwanegiad cysylltiedig pellach at Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae hyn yn ychwanegu’r rheoliadau y caniateir eu gwneud o dan yr adran newydd 10A, sydd newydd ei mewnosod, o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 at y rhestr o reoliadau (yn y Ddeddf honno) sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i Senedd Cymru eu cymeradwyo cyn y gellir eu gwneud.

Adran 5 – Enw byr

20.Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024.

Cofnod Y Trafodion Yn Senedd Cymru

21.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd ar:

Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (senedd.cymru)

CyfnodDyddiad
Cyflwynwyd13 Chwefror 2023
Cyfnod 1 – Dadl9 Mai 2023
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau7 Mehefin 2023
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau10 Hydref 2023
Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Senedd14 Tachwedd 2023
Y Cydsyniad Brenhinol5 Chwefror 2024