- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi strategaeth sy’n cynnwys eu polisïau mewn cysylltiad ag asesu, rheoli a dylunio seinweddau yng Nghymru.
(2)Rhaid i’r strategaeth gynnwys polisïau i asesu llygredd sŵn a’i reoli’n effeithiol.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gadw eu polisïau mewn cysylltiad â seinweddau o dan adolygiad.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru addasu’r strategaeth o bryd i’w gilydd.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r strategaeth ac, os yw’n briodol, ei haddasu—
(a)o fewn 5 mlynedd i gyhoeddi’r strategaeth, a
(b)o fewn pob cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhaodd Gweinidogion Cymru eu hadolygiad diweddaraf o dan yr is-adran hon.
(6)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth lunio neu adolygu’r strategaeth—
(a)rhoi sylw i—
(i)gwybodaeth wyddonol sy’n berthnasol i seinweddau, a
(ii)y mapiau sŵn strategol diweddaraf a fabwysiadwyd o dan reoliad 23 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2629);
(b)ymgynghori â—
(i)Corff Adnoddau Naturiol Cymru,
(ii)pob awdurdod lleol yng Nghymru,
(iii)pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42),
(iv)pob ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006,
(v)pob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (o fewn ystyr Rhan 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)),
(vi)Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru,
(vii)Trafnidiaeth Cymru, ac
(viii)y cyhoedd.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon at ddiben newid y cyfnod y mae rhaid iddynt adolygu’r strategaeth ynddo.
(8)Os yw Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi strategaeth sy’n bodloni gofynion is-adrannau (1) a (2) cyn i’r adran hon ddod i rym, mae’r strategaeth honno i’w thrin fel y strategaeth a luniwyd ac a gyhoeddwyd o dan is-adran (1) (ac nid yw is-adran (6) yn gymwys i lunio’r strategaeth).
(9)Yn yr adran hon ac adran 26, ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.
(1)Rhaid i’r personau a ganlyn roi sylw i’r polisïau yn y strategaeth a gyhoeddir o dan adran 25 wrth arfer unrhyw swyddogaeth o natur gyhoeddus a allai effeithio ar seinweddau yng Nghymru—
(a)awdurdodau lleol yng Nghymru;
(b)awdurdodau cyhoeddus Cymreig perthnasol.
(2)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol” yw person a ddynodir yn unol ag is-adran (3) yn awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddynodi person yn awdurdod cyhoeddus Cymreig perthnasol os (a dim ond os) yw’r person hwnnw yn “devolved Welsh authority” o fewn ystyr adran 157A(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)y person y cynigir ei ddynodi, a
(b)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio rheoliad 7 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2629) (dyletswydd Gweinidogion Cymru i wneud, adolygu a diwygio mapiau sŵn strategol) er mwyn newid yr ysbeidiau a bennir am y tro gan baragraff (2) o’r rheoliad hwnnw fel yr ysbeidiau y mae rhaid gwneud a mabwysiadu mapiau sŵn strategol arnynt.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio rheoliad 17 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (dyletswydd Gweinidogion Cymru i lunio, adolygu a diwygio cynlluniau gweithredu) er mwyn newid y cyfnod a bennir am y tro gan baragraff (3)(b) o’r rheoliad hwnnw fel y cyfnod y mae rhaid cynnal adolygiadau o gynllun gweithredu ynddo.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys