xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1ANSAWDD AER

PENNOD 1TARGEDAU CENEDLAETHOL

6Adolygu targedau

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu targedau o dan adrannau 1 a 2 yn unol â’r adran hon.

(2)Wrth gynnal adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ceisio cyngor gan bersonau y maent yn ystyried eu bod yn annibynnol ac yn meddu ar arbenigedd perthnasol, a

(b)rhoi sylw i wybodaeth wyddonol ynghylch llygredd aer.

(3)Os yw targed o dan adran 1 neu 2 mewn cysylltiad â llygrydd y mae canllawiau wedi eu cyhoeddi ar ei gyfer gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ganllawiau ansawdd aer byd-eang diweddaraf, rhaid i Weinidogion Cymru, wrth gynnal adolygiad o’r targed, roi sylw i’r canllawiau mewn cysylltiad â’r llygrydd hwnnw.

(4)Ar ôl cynnal adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, ddatganiad ynghylch y camau, os oes rhai, y maent yn bwriadu eu cymryd o dan adran 1 neu 2 mewn perthynas â phob targed o ganlyniad i’r adolygiad.

(5)Pan fo datganiad yn darparu nad yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu cymryd unrhyw gamau o dan adrannau 1 neu 2 mewn perthynas â tharged, rhaid i’r datganiad gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(6)Rhaid cwblhau’r adolygiad cyntaf cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodir y targed cyntaf (pa un ai o dan adran 1 neu 2).

(7)Rhaid cwblhau adolygiadau dilynol cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr adolygiad blaenorol.

(8)Mae adolygiad wedi ei gwblhau pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod y datganiad gerbron Senedd Cymru a’i gyhoeddi.