Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

Y penderfyniad

Adran 60 – Rhoi neu wrthod cydsyniad seilwaith

159.Pan fydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar gais, mae adran 60 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru naill ai gwneud gorchymyn sy’n rhoi cydsyniad seilwaith neu wrthod rhoi cydsyniad seilwaith.

160.Pan fydd awdurdod archwilio wedi penderfynu ar gais, mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol iddo naill ai hysbysu Gweinidogion Cymru am ei benderfyniad i wneud gorchymyn yn rhoi cydsyniad seilwaith neu wrthod rhoi cydsyniad seilwaith.

161.Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad gan yr awdurdod archwilio bod gorchymyn cydsyniad seilwaith i‘w wneud, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y gorchymyn.

162.Mae’r adran hon hefyd yn pennu, pan fo cydsyniad seilwaith naill ai yn cael ei roi neu ei wrthod, bod rhaid i geisyddion, awdurdodau cynllunio lleol a chynghorau cymuned perthnasol, Cyfoeth Naturiol Cymru (pan fo adroddiad effaith ar y môr wedi ei gyflwyno) ac unrhyw berson arall neu unrhyw bersonau eraill o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau gael eu hysbysu am y penderfyniad.

163.Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth sy’n rheoleiddio’r weithdrefn i’w dilyn os yw Gweinidogion Cymru yn cynnig gwneud gorchymyn cydsyniad seilwaith ar delerau sy’n sylweddol wahanol i’r rhai a gynigir yn y cais.

Adran 61 – Datblygiad y caniateir rhoi cydsyniad seilwaith ar ei gyfer

164.Mae adran 61 yn pennu’r datblygiad y caniateir rhoi cydsyniad seilwaith ar ei gyfer.

165.Caniateir rhoi cydsyniad seilwaith ar gyfer datblygiad y mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar ei gyfer, yn ogystal â “datblygiad cysylltiedig”.

166.“Datblygiad cysylltiedig” yw datblygiad sy’n gysylltiedig â datblygiad y mae cydsyniad seilwaith y ofynnol ar ei gyfer (neu unrhyw ran ohono) ac sy’n gyfan gwbl yng Nghymru, yn gyfan gwbl yn ardal forol Cymru neu’n gyfan gwbl yng Nghymru ac ardal forol Cymru.

167.Ceir esboniad o ystyr “Cymru” ac “ardal forol Cymru” yn adran 143 (dehongli cyffredinol).

168.Os rhoddir cydsyniad seilwaith ar gyfer “datblygiad cysylltiedig”, nid yw’n ofynnol cael unrhyw un o’r cydsyniadau a grybwyllir yn adran 20 (fel y caniateir diwygio’r adran honno gan adran 21]) ar gyfer y “datblygiad cysylltiedig”.

Adran 62 – Rhesymau dros benderfynu rhoi neu wrthod cydsyniad seilwaith

169.Mae adran 62 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio datganiad o’u rhesymau dros benderfynu naill ai gwneud gorchymyn sy’n rhoi cydsyniad seilwaith neu wrthod rhoi cydsyniad seilwaith. Rhaid anfon copi o’r datganiad at y ceisydd, unrhyw awdurdod cynllunio neu gyngor cymuned sydd wedi cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais, Cyfoeth Naturiol Cymru os yw wedi cyflwyno adroddiad effaith ar y môr i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais ac unrhyw berson neu unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau. Rhaid i’r datganiad gael ei gyhoeddi yn y modd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

170.Mae’r adran hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod archwilio lunio datganiad o’i resymau dros benderfynu gwneud neu wrthod gorchymyn sy’n rhoi cydsyniad seilwaith. Rhaid anfon copi o’r datganiad at y ceisydd, unrhyw awdurdod cynllunio neu gyngor cymuned sydd wedi cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais, Cyfoeth Naturiol Cymru os yw wedi cyflwyno adroddiad effaith ar y môr i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais ac unrhyw berson neu unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau. Rhaid i’r datganiad gael ei gyhoeddi yn y modd y mae’r awdurdod archwilio yn ystyried ei fod yn briodol.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill