Rhan 7 – Gorfodi
269.Mae Rhan 7 o’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau ynghylch troseddau sy’n ymwneud â datblygu heb gydsyniad seilwaith a thorri telerau gorchymyn cydsyniad seilwaith, neu fethiant i gydymffurfio â’r telerau hynny, a’r gallu i gyflwyno hysbysiadau datblygiad anawdurdodedig.
270.Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch pa offerynnau gorfodi sydd ar gael i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru i gynorthwyo o ran ymgymryd â dyletswyddau gorfodi, yn ogystal â’r terfynau amser ar gyfer cymryd unrhyw gamau gorfodi.
Troseddau
Adran 103 – Datblygu heb gydsyniad seilwaith
271.Mae’r adran hon yn darparu bod person yn cyflawni trosedd pan fo person yn cynnal, neu’n peri cynnal, datblygiad y mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar ei gyfer ar adeg pan na fo cydsyniad o’r fath mewn grym mewn cysylltiad â’r datblygiad.
272.Gellir rhoi person ar brawf mewn Llys Ynadon neu Lys y Goron, ac os dyfernir y person yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn.
Adran 104 – Torri telerau gorchymyn cydsyniad seilwaith
273.Mae’r adran hon yn darparu y cyflawnir trosedd os yw person, heb esgus rhesymol, yn cynnal, neu’n peri cynnal, datblygiad sy’n torri telerau gorchymyn cydsyniad seilwaith neu’n methu â chydymffurfio â thelerau gorchymyn cydsyniad seilwaith.
274.Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan yr adran hon i brofi nad oedd y toriad neu fethiant i gydymffurfio wedi digwydd ond oherwydd gwall yn y gorchymyn cydsyniad seilwaith a bod y gwall wedi ei gywiro o dan adran 87.
275.Gellir rhoi person ar brawf mewn Llys Ynadon neu Lys y Goron, ac os dyfernir y person yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn.
Adran 105 – Terfynau amser
276.Mae’r adran hon yn nodi terfynau amser ar gyfer cyhuddo person mewn perthynas â’r troseddau sydd wedi eu creu gan adrannau 103 a 104.
Adran 106 – Pwerau i fynd ar dir at ddibenion gorfodi
277.Mae’r adran hon yn caniatáu i berson sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru i fynd ar dir at ddibenion asesu a yw trosedd o dan adran 103 neu adran 104 yn cael ei chyflawni neu wedi ei chyflawni. Caniateir i’r pŵer hwn gael ei arfer ar unrhyw adeg resymol a dim ond os oes sail resymol dros fynd ar y tir at y diben o dan sylw.
278.Pan fo person wedi ei awdurdodi i fynd ar dir, rhaid iddo ddangos tystiolaeth o’i awdurdodiad i wneud hynny a diben mynd ar y tir (os gofynnir iddo wneud hynny) a chaiff fynd ag unrhyw bersonau eraill sy’n angenrheidiol ar y tir. Rhaid iddo hefyd adael y tir wedi ei ddiogelu’n effeithiol rhag tresmaswyr os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol.
279.Mae’r adran hon hefyd yn pennu na chaiff person sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir fynnu mynediad i adeilad a ddefnyddir fel annedd oni roddwyd 24 o oriau o rybudd o’r mynediad bwriadedig i holl feddianwyr yr adeilad.
Adran 107 – Gwarant i fynd ar dir
280.Mae’r adran hon yn darparu y caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant sy’n rhoi pŵer i fynd ar dir os yw’r ynad heddwch wedi ei fodloni bod sail resymol dros fynd ar dir i asesu a yw trosedd o dan adran 103 neu 104 yn cael ei chyflawni, neu wedi ei chyflawni, ar y tir neu mewn cysylltiad â’r tir a bod mynediad i’r tir wedi ei wrthod neu fod gwrthodiad yn cael ei ddisgwyl yn rhesymol, neu fod yr achos yn un brys.
281.Mae mynediad i dir i’w drin fel pe bai wedi ei wrthod os na cheir ateb i gais am fynediad o fewn cyfnod rhesymol.
282.Pan ddyroddir gwarant o dan yr adran hon, nid yw’n rhoi pŵer i fynd ar dir ond ar un achlysur yn unig ac ar adeg resymol yn unig, oni fo’r cais yn achos brys. Bydd y warant yn peidio â chael effaith ar ddiwedd un mis o’r dyddiad y’i dyroddir.
283.Pan fo person wedi ei awdurdodi i fynd ar dir, rhaid iddo ddangos tystiolaeth o’i awdurdodiad i wneud hynny a diben mynd ar y tir, os gofynnir iddo wneud hynny, a chaiff fynd ag unrhyw bersonau eraill sy’n angenrheidiol ar y tir. Rhaid iddo hefyd adael y tir wedi ei ddiogelu’n effeithiol rhag tresmaswyr os yw’n ymadael â’r tir pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol.
Adran 108 – Hawliau mynediad: darpariaethau atodol
284.Mae’r adran hon yn creu trosedd pan fo person yn rhwystro’n fwriadol berson sy’n arfer pŵer mynediad o dan adran 106 neu 107. Gellir rhoi person ar brawf mewn Llys Ynadon, ac os dyfernir y person yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn.
285.Mae’r adran hon hefyd yn darparu, os difrodir tir neu eiddo arall wrth arfer y pŵer i fynd ar dir, y caiff y person sy’n dioddef y difrod adennill digollediad oddi wrth yr awdurdod cynllunio a awdurdododd y mynediad neu Weinidogion Cymru os mai hwythau a awdurdododd y mynediad.
286.Rhaid gwneud hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon yn ysgrifenedig o fewn 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yr achoswyd y difrod neu’r diwrnod olaf yr achoswyd y difrod os y digwyddodd hynny dros gyfnod o fwy nag un diwrnod. Rhaid i unrhyw anghydfodau ynghylch digollediad gael eu hatgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys a’u penderfynu ganddo yn unol ag adran 4 o Ddeddf Digollediad Tir 1961.
Adran 109 – Hawliau mynediad: tir y Goron
287.Mae’r adran hon yn darparu nad yw’r pŵer i fynd ar dir gyda gwarant neu heb warant o dan adrannau 106 a 107 yn gymwys i dir y Goron.
Adran 110 – Pwerau gorfodi morol
288.Mae’r adran hon yn diwygio Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (“
289.Mae adran newydd 243A yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i benodi personau at ddibenion gorfodi Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yng Nghymru ac yn rhanbarth glannau Cymru (ac mewn perthynas ag unrhyw lestr, unrhyw awyren neu unrhyw strwythur morol yn y rhanbarth hwn, ac eithrio unrhyw long ryfel Brydeinig).
290.Mae’r pŵer yn rhoi disgresiwn eang i Weinidogion Cymru o ran pwy a benodir ganddynt, ac mae’n rhoi i berson a benodir o dan yr adran hon y pŵer o dan adran 263 o Ddeddf 2009 (pŵer i wneud gwybodaeth yn ymwneud â sylweddau a gwrthrychau yn ofynnol) yn ogystal â’r pwerau gorfodi cyffredin a nodir ym Mhennod 2 o Ran 8 o Ddeddf 2009 (pwerau gorfodi cyffredin), sy’n cynnwys:
pwerau mynediad, chwilio ac ymafael,
pwerau i gofnodi tystiolaeth o droseddau a’i gwneud yn ofynnol i bersonau rhoi eu henwau a’u cyfeiriadau,
pwerau i’w gwneud yn ofynnol i ddangos trwyddedau,
pwerau i’w gwneud yn ofynnol i bersonau penodol fod yn bresennol,
pwerau i gyfarwyddo llestrau neu osodiadau morol i borthladd,
pwerau sy’n ymwneud â chynorthwyo swyddogion gorfodi, a
pwerau i ddefnyddio grym rhesymol.
Hysbysiadau Gwybodaeth
Adran 111 – Pŵer i wneud gwybodaeth yn ofynnol
291.Mae’r adran hon yn caniatáu i’r awdurdod cynllunio perthnasol gyflwyno hysbysiad gwybodaeth i unrhyw berson sy’n berchen ar y tir neu’n ei feddiannu neu sydd ag unrhyw fuddiant arall ynddo, neu sy’n cynnal gweithrediadau ar y tir neu sy’n ei ddefnyddio at unrhyw ddiben, pan fo’n ystyried y gallai trosedd o dan adran 103 neu adran 104 fod wedi ei chyflawni ar y tir neu mewn cysylltiad â’r tir yn ei ardal.
292.Mae hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad gwybodaeth i unrhyw berson sy’n berchen ar y tir neu’n ei feddiannau neu sydd ag unrhyw fuddiant arall ynddo, neu sy’n cynnal gweithrediadau ar y tir neu’n ei ddefnyddio at unrhyw ddiben, pan fônt yn ystyried y gallai trosedd o dan adran 103 neu adran 104 fod wedi ei cyflawni ar dir yng Nghymru neu mewn cysylltiad â thir yng Nghymru.
293.Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyflwyno hysbysiad gwybodaeth i berson sy’n cynnal gweithrediadau yn ardal forol Cymru pan fo Gweinidogion Cymru yn amau y gallai trosedd fod wedi ei chyflawni yn ardal forol Cymru neu mewn cysylltiad â hi.
294.Mae’r adran hon hefyd yn rhagnodi yr hyn yn mae rhaid ei phennu mewn hysbysiad gwybodaeth ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r person y’i cyflwynir iddo roi’r wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad i’r graddau y gall wneud hynny. Rhaid i’r hysbysiad hefyd nodi canlyniadau tebygol methu ag ymateb.
Adran 112 – Troseddau o fethu â chydymffurfio â hysbysiadau gwybodaeth
295.Mae adran 112(1) yn darparu bod person yn cyflawni trosedd pan nad yw person y cyflwynwyd hysbysiad gwybodaeth iddo yn cydymffurfio â gofyniad yn yr hysbysiad ar ôl diwedd cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad, ond mae’n amddiffyniad i’r person os yw’n gallu profi bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio. Mae person sy’n euog o’r drosedd hon ar euogfarn ddiannod yn agored i ddirwy.
296.Mae is-adran (5) yn darparu bod person yn cyflawni trosedd os yw’n darparu gwybodaeth y mae’n yn gwybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol, neu’n gwneud hynny’n ddi-hid. Mae person sy’n euog o’r naill drosedd neu’r llall yn agored i ddirwy.
297.O dan yr adran hon mae’n bosibl i berson gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad gwybodaeth drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.
Hysbysiadau datblygiad anawdurdodedig
Adran 113 – Hysbysiad datblygiad anawdurdodedig
298.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig pan ddyfernir person yn euog o drosedd o dan adrannau 103 a 104 mewn cysylltiad â thir.
299.Ar gyfer troseddau o dan adran 103, caiff hysbysiad bennu’r camau sydd i’w cymryd i ddileu’r datblygiad ac adfer y tir i’w gyflwr cyn i’r datblygiad gael ei gynnal, a rhaid cymryd y camau hynny cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
300.Ar gyfer troseddau o dan adran 104, caiff hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i’r person y cyflwynir hysbysiad iddo unioni’r toriad neu’r methiant i gydymffurfio cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
301.Pan gyflwynir hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, mae’r adran hon yn pennu y caiff yr hysbysiad bennu cyfnodau gwahanol ar gyfer cymryd camau gwahanol.
302.Mae’r adran hon hefyd yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau a gaiff bennu materion ychwanegol y mae rhaid eu pennu mewn hysbysiad datblygiad anawdurdodedig.
Cydymffurfio â hysbysiadau datblygiad anawdurdodedig
Adran 114 – Gorchymyn i ganiatáu camau sy’n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig
303.Mae’r adran hon yn caniatáu i berchennog tir wneud cais i Lys Ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson arall a chanddo fuddiant yn y tir ganiatáu i’r perchennog gymryd y camau hynny sy’n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig.
304.Pan fo’r llys wedi ei fodloni bod person a chanddo fuddiant yn y tir yn atal y perchennog rhag cymryd y camau hynny, caiff y llys wneud gorchymyn.
Adran 115 – Pŵer i fynd ar dir a chymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig
305.Mae’r adran hon yn darparu, pan fo unrhyw gamau y mae’n ofynnol eu cymryd gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig heb eu cymryd cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, y caiff yr awdurdod cynllunio a ddyroddodd yr hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, neu Weinidogion Cymru, os mai hwythau a ddyroddodd yr hysbysiad, fynd ar y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef ar unrhyw adeg resymol a chymryd y cam neu’r camau ei hun neu eu hunain.
306.Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol berson sy’n arfer pŵer o dan yr adran hon yn cyflawni trosedd. Gellir rhoi person ar brawf mewn Llys Ynadon, ac os dyfernir y person yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn.
Adran 116 – Adennill costau cydymffurfio â hysbysiad datblygiad anawdurdodedig
307.Mae’r adran hon yn darparu, pan fo awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru yn arfer y pŵer o dan adran 115, y caiff yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru adennill ei gostau neu eu costau oddi wrth berson sydd ar y pryd yn berchennog ar y tir.
308.Mae unrhyw gostau y gellir eu hadennill, hyd nes iddynt gael eu hadennill, yn bridiant ar y tir y mae’r hysbysiad datblygiad anawdurdodedig yn ymwneud ag ef ac yn cymryd effaith fel pridiant tir lleol ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru yn cwblhau’r cam neu’r camau a bennir yn yr hysbysiad datblygiad anawdurdodedig y mae’r costau’n ymwneud ag ef.
309.Mae’r adran hon hefyd yn pennu y caniateir symud ymaith ddeunyddiau o dir wrth gymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig a phan na fo perchennog y deunyddiau yn hawlio’r deunyddiau ac yn mynd â hwy i ffwrdd o fewn 3 diwrnod gan ddechrau drannoeth y diwrnod y’i symudir ymaith, caniateir gwerthu’r deunyddiau.
310.Os caiff y deunyddiau eu gwerthu, rhaid talu’r enillion i’r person a oedd yn berchen ar y deunyddiau, ar ôl didynnu unrhyw gostau y gellir eu hadennill.
311.Ni chaniateir adennill costau o dan yr adran hon oddi wrth y Goron.
Hysbysiadau stop dros dro
Adran 117 – Pŵer i ddyroddi hysbysiad stop dros dro
312.Mae’r adran hon yn darparu’r pŵer i awdurdod cynllunio perthnasol ddyroddi hysbysiad stop dros dro mewn perthynas â thir yn ei ardal lle y mae’n ystyried bod gweithgarwch wedi cael ei gynnal neu yn cael ei gynnal sy’n drosedd o dan adran 103 neu adran 104 ac y dylai’r gweithgarwch gael ei stopio ar unwaith. Nid yw’r pŵer i ddyroddi hysbysiad stop dros dro yn rhychwantu Gweinidogion Cymru.
313.Mae’r adran hon hefyd yn rhagnodi’r hyn y mae rhaid ei bennu mewn hysbysiad stop dros dro, i bwy y caniateir rhoi hysbysiad stop dros dro a sut y mae rhaid arddangos yr hysbysiadau hynny.
Adran 118 – Cyfyngiadau ar bŵer i ddyroddi hysbysiad stop dros dro
314.Mae’r adran hon yn darparu na chaiff hysbysiad stop dros dro wahardd defnyddio adeilad fel annedd nac unrhyw weithgarwch neu amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau.
315.Ni chaiff hysbysiadau stop dros dro ychwaith wahardd unrhyw weithgarwch sydd wedi ei gynnal, neu sy’n cael ei gynnal, am o leiaf 4 blynedd cyn y dyddiad yr arddangosir hysbysiad stop dros dro am y tro cyntaf, ac eithrio gweithgarwch sy’n weithrediadau adeiladu, peiriannu neu fwyngloddio neu’n weithrediadau eraill, neu sy’n ddeilliadol i hynny, neu waredu gwastraff.
Adran 119 – Hyd etc. hysbysiad stop dros dro
316.Mae’r adran hon yn darparu bod hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith pan arddangosir copi ohono am y tro cyntaf ac yn peidio â chael effaith ar ddiwedd cyfnod o 28 o ddiwrnodau, sy’n dechrau ar y dyddiad y’i arddangosir am y tro cyntaf, oni bai bod cyfnod byrrach wedi ei bennu yn yr hysbysiad neu fod y llys yn caniatáu gwaharddeb o dan adran 122.
317.Mae’r adran hon hefyd yn pennu, os yw’r awdurdod cynllunio perthnasol yn tynnu’r hysbysiad yn ôl cyn diwedd y cyfnod y byddai fel arall yn cael effaith ar ei gyfer, bod yr hysbysiad yn peidio â chael effaith pan gaiff ei dynnu’n ôl.
318.Pan ddyroddir hysbysiad stop dros dro, mae’r adran hon yn atal yr awdurdod cynllunio perthnasol rhag dyroddi ail hysbysiad stop na hysbysiad stop dilynol mewn cysylltiad â’r un gweithgarwch, oni fo’r awdurdod wedi dyroddiad hysbysiad datblygiad anawdurdodedig neu waharddeb.
Adran 120 – Y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro
319.Mae’r adran hon yn darparu bod person yn cyflawni trosedd pan fo person yn cynnal gweithgarwch sydd wedi ei wahardd gan hysbysiad stop dros dro ar unrhyw adeg pan fydd hysbysiad o’r fath yn cael effaith.
320.Fodd bynnag, mae’n amddiffyniad i berson brofi na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad iddo ac nad oedd yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, am fodolaeth yr hysbysiad stop dros dro.
321.Gellir rhoi person ar brawf mewn Llys Ynadon neu Lys y Goron, ac os dyfernir y person yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn. Mae hefyd yn bosibl o dan yr adran hon i berson gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad stop dros dro drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.
Adran 121 – Digollediad am golled o ganlyniad i hysbysiad
322.Mae’r adran hon yn darparu, pan fo gweithgarwch a bennir mewn hysbysiad stop dros dro wedi ei awdurdodi drwy orchymyn cydsyniad seilwaith a roddwyd cyn y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith, neu pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn tynnu’r hysbysiad yn ôl, y caiff unrhyw berson a chanddo fuddiant yn y tir y mae hysbysiad stop dros dro yn ymwneud ag ef wneud hawliad i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod cynllunio perthnasol o fewn 12 mis am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i effaith yr hysbysiad.
323.Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw weithgarwch a bennir yn yr hysbysiad sydd wedi ei awdurdodi drwy orchymyn cydsyniad seilwaith a roddir ar y diwrnod y mae’r hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith neu ar ôl hynny, nac os yw’r awdurdod cynllunio perthnasol yn tynnu hysbysiad yn ôl ar ôl i gydsyniad gael ei roi. Mae’r adran hon hefyd yn pennu’r amgylchiadau lle nad yw digollediad yn daladwy.
Adran 122 – Gwaharddeb i atal gweithgarwch gwaharddedig
324.Mae’r adran hon yn darparu y caiff awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru wneud cais i’r Uchel Lys neu’r llys sirol am waharddeb sy’n atal gweithgarwch gwirioneddol neu ddisgwyliedig sy’n drosedd o dan naill ai adran 103 neu adran 104. Caiff yr awdurdod cynllunio perthnasol wneud cais am waharddeb mewn perthynas â thir yn ei ardal, a chaiff Gweinidogion Cymru wneud cais am waharddeb mewn perthynas â thir yng Nghymru.
325.Caiff y llys roi gwaharddeb ar unrhyw delerau y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben atal y gweithgarwch hwnnw. Ni chaniateir dyroddi gwaharddeb o dan yr adran hon yn erbyn y Goron.
Cyffredinol
Adran 123 – Ystyr “awdurdod cynllunio perthnasol”
326.Mae’r adran hon yn pennu pwy sy’n awdurdod cynllunio perthnasol at ddibenion Rhan 7 o’r Ddeddf.