Hawl mynediad
Adran 125 – Pwerau mynediad i gynnal arolwg o dir
330.Mae’r adran hon yn darparu pŵer i berson sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru i fynd ar dir at ddibenion cynnal arolwg o dir neu gymryd lefelau ohono, mewn cysylltiad â:
cais am gydsyniad seilwaith (neu gais arfaethedig);
gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n awdurdodi caffael yn orfodol y tir hwnnw neu fuddiant ynddo neu hawl drosto.
331.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson a awdurdodir sy’n mynd ar dir i ddangos tystiolaeth o’r awdurdodiad hwnnw, os gofynnir iddo wneud hynny, rhoi hysbysiad o’r bwriad i fynd ar dir os yw’r tir wedi ei feddiannu a chydymffurfio ag unrhyw amodau a nodir yn yr awdurdodiad. Caiff person sydd wedi ei awdurdodi hefyd fynd ag unrhyw bersonau eraill sy’n angenrheidiol ar y tir a rhaid iddo, os yw’n ymadael â’r tir pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth arno.
332.Mae awdurdodiad i gynnal arolwg o dir hefyd yn cynnwys yr hawl i chwilio a thurio i ganfod natur y pridd neu i ganfod a oes mwynau yn bresennol os rhoddwyd hysbysiad ymlaen llaw o’r bwriad hwn.
333.Mae’r adran hon yn darparu bod person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn rhwystro’n fwriadol berson a awdurdodir i fynd ar dir rhag gwneud hynny.
334.Caniateir adennill digollediad am unrhyw ddifrod a achosir i dir neu eiddo oddi wrth y person a awdurdodir i fynd ar y tir.
Adran 126 – Pwerau mynediad i gynnal arolwg o dir: tir y Goron
335.Mae’r adran hon yn darparu bod y pwerau a nodir yn adran 125 hefyd yn gymwys i dir y Goron, yn ddarostyngedig i’r person sy’n arfer y pŵer yn cael caniatâd i fynd ar y tir oddi wrth y person yr ymddengys fod ganddo’r hawl i’w roi neu awdurdod priodol y Goron (a ddiffinnir yn adran 134).
336.Mae’r adran hon hefyd yn darparu nad yw is-adrannau penodedig o adran 125 yn gymwys mewn perthynas â Thir y Goron.