xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 63)

ATODLEN 1DARPARIAETH SY’N YMWNEUD Â DATBLYGIAD NEU FATERION SY’N ATODOL IDDO

RHAN 1Y MATERION

1Caffael tir, yn orfodol neu drwy gytundeb.

2Creu, atal dros dro neu ddiddymu, neu ymyrryd â, buddiannau mewn tir neu hawliau dros dir (gan gynnwys mordwyo dros ddŵr), yn orfodol neu drwy gytundeb.

3Dileu neu addasu cytundebau sy’n ymwneud â thir.

4Cynnal gweithrediadau cloddio, mwyngloddio, chwarela neu durio penodedig mewn ardal benodedig.

5Gweithredu gorsaf gynhyrchu.

6Cadw llinellau trydan yn osodedig uwchben y ddaear.

7Diogelu eiddo neu fuddiannau unrhyw berson.

8Gosod neu eithrio rhwymedigaethau neu atebolrwydd mewn cysylltiad â gweithredoedd neu anweithredoedd.

9Cynnal arolygon neu gymryd samplau o bridd.

10Torri i lawr, diwreiddio, tocio neu frigdorri coed neu lwyni neu dorri eu gwreiddiau yn ôl.

11Symud ymaith, gwaredu neu ail-leoli cyfarpar.

12Gwneud gwaith peirianneg sifil neu waith arall.

13Dargyfeirio cyrsiau dŵr mordwyol ac anfordwyol.

14Cau neu ddargyfeirio priffyrdd.

15Codi tollau, prisiau siwrneiau (gan gynnwys prisiau siwrneiau cosb) a thaliadau eraill.

16Dynodi priffordd yn gefnffordd neu’n ffordd arbennig.

17Pennu’r dosbarthau o draffig a awdurdodir i ddefnyddio priffordd.

18Neilltuo priffordd y mae’r person sy’n cynnig adeiladu neu wella priffordd yn awdurdod priffyrdd ar ei chyfer.

19Trosglwyddo i’r person sy’n cynnig adeiladu neu wella priffordd briffordd nad yw’r person hwnnw yn awdurdod priffyrdd ar ei chyfer.

20Pennu’r awdurdod priffyrdd ar gyfer priffordd.

21Gweithredu a chynnal a chadw system drafnidiaeth.

22Ymrwymo i gytundeb ar gyfer darparu gwasanaethau heddlu.

23Gollwng dŵr i ddyfroedd mewndirol neu strata tanddaearol.

24Tybio bod trwydded forol o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) wedi ei rhoi gan Weinidogion Cymru ar gyfer gweithgareddau a bennir yn y gorchymyn ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir yn y gorchymyn.

25Tybio bod Gweinidogion Cymru wedi gosod amodau o’r fath ynghlwm wrth y drwydded forol o dan y Rhan honno.

26Creu awdurdod harbwr.

27Newid pwerau a dyletswyddau awdurdod harbwr.

28Gwneud is-ddeddfau gan unrhyw berson a’u gorfodi.

29(1)Creu troseddau o fewn is-baragraff (2) mewn cysylltiad ag—

(a)peidio â thalu tollau, prisiau siwrneiau neu daliadau eraill,

(b)methiant person i roi enw neu gyfeiriad y person yn unol â darpariaeth sy’n ymwneud a phrisiau siwrneiau cosb,

(c)gorfodi is-ddeddfau, neu

(d)adeiladu, gwella, cynnal a chadw neu reoli harbwr.

(2)Mae trosedd o fewn yr is-baragraff hwn—

(a)os na ellir ond ei rhoi ar brawf yn ddiannod,

(b)os nad yw person sy’n euog o’r drosedd yn agored i’w garcharu, ac

(c)os na all unrhyw ddirwy y gall person sy’n euog o’r drosedd fod yn agored iddi fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

30Trosglwyddo eiddo, hawliau, atebolrwyddau neu swyddogaethau.

31Trosglwyddo, lesio ac atal dros dro ymgymeriadau, peidio â pharhau â hwy a’u hadfer.

32Talu cyfraniadau.

33Talu swm digolledu.

34Cyflwyno anghydfodau i gymrodeddu arnynt.

35Addasu terfynau benthyca.

RHAN 2DEHONGLI

36(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion yr Atodlen hon.

(2)Ystyr “system drafnidiaeth” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)rheilffordd;

(b)tramffordd;

(c)system cerbydau troli;

(d)system sy’n defnyddio dull trafnidiaeth gyfeiriedig a ragnodir gan orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42).

(3)Mae “cynnal a chadw”, mewn perthynas â system drafnidiaeth, yn cynnwys edrych ar y system, ei thrwsio, ei haddasu, ei newid, ei symud ymaith, ei hailadeiladu neu ei disodli.

(4)Mae i “system cerbydau troli”, “trafnidiaeth gyfeiriedig” a “tramffordd” yr un ystyron ag a roddir i “trolley vehicle system“, “guided transport” a “tramway” gan adran 67(1) (dehongli) o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42).