Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

Rhagolygol

RHAN 2LL+CDEHONGLI

36(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion yr Atodlen hon.LL+C

(2)Ystyr “system drafnidiaeth” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)rheilffordd;

(b)tramffordd;

(c)system cerbydau troli;

(d)system sy’n defnyddio dull trafnidiaeth gyfeiriedig a ragnodir gan orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42).

(3)Mae “cynnal a chadw”, mewn perthynas â system drafnidiaeth, yn cynnwys edrych ar y system, ei thrwsio, ei haddasu, ei newid, ei symud ymaith, ei hailadeiladu neu ei disodli.

(4)Mae i “system cerbydau troli”, “trafnidiaeth gyfeiriedig” a “tramffordd” yr un ystyron ag a roddir i “trolley vehicle system“, “guided transport” a “tramway” gan adran 67(1) (dehongli) o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 147(2)