Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThe Whole
Schedule
PrintThis
Section
only
Newidiadau dros amser i: Paragraff 7
Llinell Amser Newidiadau
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/06/2024. Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol.
Statws
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
- os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
- pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Nodyn: Pwynt mewn amser rhagolygol yw'r wedd ddiweddaraf sydd ar gael o'r ddeddfwriaeth sy'n cynnwys yn ddiofyn yr holl ddarpar newidiadau a allai ddod i rym.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Deddf Seilwaith (Cymru) 2024, Paragraff 7 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 07 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rhagolygol
Talu etc. swm sy’n adenilladwyLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
7(1)Mae swm sy’n adenilladwy yn rhinwedd paragraff 6 mewn cysylltiad â’r datblygiad tir yn daladwy i Weinidogion Cymru—
(a)fel un taliad cyfalaf,
(b)fel cyfres o randaliadau cyfalaf a llog wedi eu cyfuno, neu
(c)fel cyfres o daliadau blynyddol neu gyfnodol eraill, o’r symiau, ac sy’n daladwy ar yr adegau, a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.
(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1)(c), rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y person a fydd yn cynnal y datblygiad.
(3)Os nad yw’r swm sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) yn cael ei dalu fel un taliad cyfalaf, rhaid iddo gael ei sicrhau gan y person a fydd yn cynnal y datblygiad yn y modd (boed hynny drwy forgais, drwy gyfamod neu fel arall) y mae Gweinidogion Cymru yn ei gyfarwyddo.
(4)Os yw person yn dechrau datblygiad y mae paragraff 5 yn gymwys iddo gan dorri’r paragraff hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw—
(a)sy’n pennu’r swm y maent yn ystyried ei fod yn adenilladwy o dan baragraff 6 mewn cysylltiad â’r digollediad o dan sylw, a
(b)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu’r swm hwnnw i Weinidogion Cymru o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
(5)Rhaid i’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad fod yn 3 mis o leiaf gan ddechrau drannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.
Yn ôl i’r brig